Llwyddiant i Aber yng ngwobrau’r Times Higher

Aelodau o dîm IBERS yn dathlu yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education

Aelodau o dîm IBERS yn dathlu yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education

29 Tachwedd 2013

Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr categori Cyfraniad Eithriadol i Arloesi a Thechnoleg Gwobrau Addysg Uwch y Times Higher Education.

Roedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn aelod o Crwsibl Cymru a enillodd yn y category Cyfraniad Neilltuol i Ddatblygu Arweinyddiaeth.

Cynhaliwyd y cinio a’r seremoni wobrwyo ddisglair ar nos Iau 28 Tachwedd yng Ngwesty'r Grosvenor House, Park Lane yn Llundain gyda mwy na 1000 o westeion yn bresennol, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth a staff academaidd a phrifysgol ar draws y sector.

Mae'r gwobrau yn gyfle unigryw ac uchel eu proffil i ddathlu rhagoriaeth a’r hyn mae Sefydliadau Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig wedi ei gyflawni, a dau weithgaredd craidd addysg uwch: addysgu ac ymchwil.

Roedd cais llwyddiannus Prifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar fridio a datblygu Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG) gan wyddonwyr yn IBERS.

Sefydlwyd enw da rhyngwladol IBERS am ragoriaeth mewn bridio planhigion ers tro byd, ac mae’n gartref i’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion a gefnogir gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnolegol a Biolegol - BBSRC.

Mae gan y Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG) y potensial i drawsnewid amaethyddiaeth da byw ar dir glas. Dangosodd profion annibynnol fod AberHSG yn gallu arwain at gynnydd mewn cynhyrchu cig a llaeth o 24% a lleihau allyriadau methan a llygrwyr nitrogenaidd o hyd at 20%.

Mae ASDA a Sainsbury’s yn hyrwyddo'r defnydd o AberHSG ar eu ffermydd, ac yn amcangyfrif bod allyriadau blynyddol o garbon deuocsid 186,000 tunnell yn is, tra bod elw i fyny mwy na £10 miliwn y flwyddyn.

Mae mathau o AberHSG yn cael eu marchnata drwy bartneriaeth gyhoeddus-breifat strategol gyda Germinal Holdings - cwmni hadau porthiant mwyaf y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Mae'r mathau o rygwellt lluosflwydd AberHSG hefyd yn ffynhonnell o siwgr i'w droi'n fioethanol, gan roi cyfle i ddatblygu tanwydd cludiant hylif sydd yn deillio o gnydau, a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Dywedodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Rydym wrth ein bodd o fod wed ennill y wobr fawreddog hon, yn enwedig mewn maes sydd yn arddangos arbenigedd byd-enwog IBERS. Rydym yn arbennig o falch o gael ein cydnabod fel arweinwyr ym myd diwydiant, rhywbeth sy’n cefnogi ein safle fel un o’r 40 uchaf o brifysgolion ymchwil y DG. Edrychwn ymlaen at gryfhau ein rhagoriaeth ymchwil ymhellach wrth ddatblygu ein cynlluniau cyffrous ar gyfer Campws Arloesi a Lledaenu Aberystwyth, lle bydd gwyddoniaeth, arloesi a thechnoleg yn cael cyfle heb ei ail i ddatblygu gyda’i gilydd."

Mae'r Brifysgol yn unigryw o fewn sector Addysg Uwch y DG gan ei bod yn meddu ar raglenni bridio planhigion masnachol llwyddiannus sy'n cynhyrchu mathau newydd sy'n cael eu marchnata yn y DG a thramor.

Dywedodd Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS; "Mae datblygu mathau newydd o blanhigion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galw am ganolbwyntio ar waith tîm ac ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’r hyn a gyflawnwyd gan y tîm yma heddiw yn adeiladu ar dreftadaeth ein rhagflaenwyr yng Ngorsaf Fridio Planhigion Cymru a Sefydliad Y Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol.

Mae datblygu Glaswellt Siwgr Uchel Aber yn enghraifft ragorol o sut y gall arbenigedd ymchwil academaidd weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â menter fasnachol i sicrhau effaith economaidd, cefnogi lleihau newid yn yr hinsawdd a chreu diwydiant amaethyddol amrywiol a allai gyfrannu'n sylweddol at adfywio cymunedau gwledig yn gymdeithasol ac yn economaidd."

Dywedodd Dr Athole Marshall, Pennaeth Y Tîm Bridio Plahigion er Lles Y Cyhoedd; “Mae bridio mathau gwell o blanhigion yn ffordd o gyflwynol canlyniadau ymchwil sylfaenol a chymhwysol yn IBERS er mwyn eu defnyddio gan amaethyddiaeth. Mae datblygu mathau AberHSG yn gynnyrch arloesedd a gweledigaeth y tîm bridio glaswellt yn IBERS a'i ragflaenwyr ac yn dangos gwerth y cydweithio agos rhwng gwyddonwyr planhigion ac anifeiliaid o fewn yr Athrofa ".

AU33313