Myfyrwraig Ecoleg IBERS yn dechrau gyrfa ddelfrydol yng Ngwarchodfa Natur y Dyfi

Karis Hodgson

Karis Hodgson

14 Chwefror 2018

Mae gradd o IBERS, Prifysgol Aberystwyth wedi paratoi’r ffordd ar gyfer gyrfa ddelfrydol i Karis Hodgson, a raddiodd mewn Ecoleg, yn gweithio ym Mhrosiect Gweilch Dyfi Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn yng ngwarchodfa natur Cors Dyfi ger Machynlleth.

Astudiodd Karis, a ddaw yn wreiddiol o Derby, ar gyfer BSc Ecoleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn 2012, ar ôl derbyn Gwobr Deilyngdod yn yr arholiad mynediad. Cafodd gynnig diamod a bwrsariaeth i astudio gyda ni.

“Rwyf wastad wedi caru’r byd naturiol ac yn meddwl bod y perthnasau cymhleth rhwng organeddau a’u hamgylcheddau yn arbennig o ddiddorol. Trwy astudio ecoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cefais gyfle i astudio’r rhyngweithiadau hyn, a hefyd i feithrin gwybodaeth arbenigol drwy gydol y cwrs.”

Mae Karis yn disgrifio teithio i Borneo fel uchafbwynt personol yn ystod ei chyfnod yn IBERS; “Roedd treulio pythefnos mewn canolfan faes anghysbell yn astudio amrywiaeth llystyfiant fforestydd glaw ar lannau Afon Kinabatangan yn brofiad unwaith-mewn-oes, anhygoel.”

Enillodd Karis radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2015, a dewisodd aros yn yr ardal. Mae’n egluro, “Roedd lleoliad PA yn bendant yn ffactor penderfynol wrth ddewis astudio yma. Roedd cymaint o gyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli yn yr ardal leol ac roeddwn felly’n gallu ychwanegu profiad ymarferol yn y gweithle at y gwaith theori roeddwn yn ei ddysgu yn y brifysgol. Mae’r cyfuniad hwn wedi bod yn amhrisiadwy wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.”

Yn ei rôl fel Swyddog Ymgysylltu â Phobl a Chofnodi Biolegol, mae Karis yn gyfrifol am gasglu cofnodion rhywogaethau, gweithio gyda gwirfoddolwyr ac arbenigwyr i arolygu a monitro’r fflora a’r ffawna yng ngwahanol gynefinoedd y warchodfa.

Mae ei rôl hefyd yn golygu ymwneud â’r miloedd o ddilynwyr ac ymwelwyr â’r Prosiect bob blwyddyn, wyneb-yn-wyneb yn y warchodfa, a thrwy amrywiol allfeydd cyfryngau’r Ymddiriedolaeth. Meddai, “Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol cefais y theori, y profiad a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol i ymgymryd â’r swydd hon, a’i datblygu.”

Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion

Efallai y bydd gradd dosbarth cyntaf Karis o Brifysgol Aberystwyth a’i chysylltiad parhaus ag IBERS yn ddefnyddiol yn y dyfodol yng nghyd-destun y Prosiect Gwyddoniaeth Dinasyddion sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn yn y gwanwyn. Mae’r prosiect hwn yn cofnodi pob agwedd ar ddeori gweilch o ochr y tad, ac mae dilynwyr ffyddlon y Prosiect yn cofnodi’r amser a’r hyd yn fanwl. Eglura Karis, “Rwy’n gobeithio y bydd cydweithredu yn y dyfodol rhwng Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac IBERS Prifysgol Aberystwyth yn ein galluogi i ddadansoddi’r data; gan roi gwell dealltwriaeth o ecoleg ac ymddygiad y gweilch, a galluogi cadwraeth barhaus, effeithiol ohonynt.”

Meddai Darlithydd IBERS mewn Rheolaeth Cefn Gwlad a thiwtor traethawd hir Karis yn ei blwyddyn olaf, “Roedd Karis yn ymroddedig a brwd wrth astudio ond cyfunodd y wybodaeth, y sgiliau a’r graddau uchel o’i gwaith academaidd ag ymrwymiad i sicrhau profiad perthnasol ychwanegol drwy wirfoddoli yn ei hamser rhydd.”

Gallwch ganfod mwy am astudio Ecoleg yn Aberystwyth a’r amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli yn yr ardal, trwy ddod i un o’n Dyddiau Ymweld ar gyfer Ymgeiswyr.