Ymchwil newydd i helpu ffermwyr i ymladd llyngyr

Clare Collett yn y labordai ym Mhrifysgol Aberystwyth

Clare Collett yn y labordai ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae ymgais i helpu i arbed miliynau o bunnoedd i ffermwyr ym Mhrydain, trwy gyfyngu ar ymwrthiant i gyffur allweddol ar gyfer lles defaid a gwartheg, yn cael ei arwain gan fyfyrwraig  ôl-raddedig sy’n cael ei chefnogi gan Hybu Cig Cymru (HCC).

Mae’r ymchwilydd 24 oed, Clare Collett, yn ei blwyddyn olaf o PhD yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Clare yn un o nifer o ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n cael eu cefnogi gan raglen Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS), sy’n dod â phrifysgolion a diwydiant ynghyd i hyrwyddo ymchwil a all hybu rhannau allweddol o economi Cymru.

Mae Clare yn edrych ar ynysu marcwyr moleciwlaidd sy’n dynodi ymwrthedd i gyffur hanfodol sy’n rheoli llyngyr yr iau mewn gwartheg a defaid, clefyd sy’n effeithio ar les anifeiliaid a phroffidioldeb y fferm.

“Triclabendazole yw'r cyffur yr ydym yn ceisio'i ddiogelu. Mae’n hen gyffur ac yn dda iawn am yr hyn y mae’n ei wneud. Fe’i defnyddir yn aml pryd bynnag y bydd symptomau llyngyr yn ymddangos mewn anifeiliaid ac mae’r ffaith ei fod mor gyffredin wedi cynhyrchu ymwrthiant,” eglurodd Clare.

Astudiodd Clare Radd Meistr mewn parasitoleg feddygol yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain yn dilyn ei gradd Bioleg yn IBERS. Yna, ymgeisiodd am gefnogaeth HCC i’w Doethuriaeth a bu’n llwyddiannus. “Roedd y gwaith yr oeddwn yn ei wneud ar y dechrau yn parhau i edrych ar gyfansoddiad moleciwlaidd y llyngyr.

“Rwy'n gobeithio, yn dilyn fy ngwath, y byddwn yn gwybod digon i allu cyflwyno prawf newydd i gadarnhau os yw llyngyr yn bresennol ai peidio, ac felly atal unrhyw driniaeth ddianghenraid gyda Triclabendazole.

“Rydym yn gobeithio gallu dod o hyd i brawf pensin i ffermwyr – a allai fod yn saliva, carthion neu brawf gwaed ar y glust neu’r trwyn – sy’n gallu rhoi gwybodaeth i'r ffermwr am yr amodau ar y fferm.”

Dywedodd Clare y bu’r gefnogaeth ysgoloriaeth yn help mawr iddi barhau â'i hastudiaethau. “Mae'n brofiad gwych; byddwch yn casglu cyfoeth o brofiad sy'n cynnig cyfle gwych i sefydlu a pharhau mewn gyrfa yn y diwydiant hwn.”

Wedi cwblhau’r PhD Mae Clare yn awyddus i ymchwilio ymhellach. “Rwy'n gwybod bod gwaith labordy wrth fy modd ac rwy'n awyddus i barhau yn yr un maes - parasitoleg,” meddai.

Dywedodd ei goruchwyliwr ymchwil Dr Russ Morphew, “Mae'r gwaith a gwblhawyd gan Clare yn ystod y prosiect wedi’i ariannu gan KESS yn bopeth yr ydych yn gobeithio ei gael mewn cydweithrediad academaidd-ddiwydiannol o'r fath. Mae ei hymchwil yn paratoi'r ffordd i gefnogi rheolaeth llyngyr yr iau ar draws y byd yn y dyfodol ac yn bwysicach, bydd o fudd uniongyrchol i ffermwyr Cymru.”

Pwysleisiodd Gwawr Parry, Swyddog Datblygu’r Diwydiant HCC, sut y gallai ymchwil Clare Collett fod o fudd i’r diwydiant.

“Gall llyngyr yr iau olygu bod ŵyn yn dioddef gostyngiad o 30% yn eu graddfa pesgu dyddiol,” meddai. “Yn ogystal â hyrwyddo'r lles anifeiliaid gorau posibl, mae trin llyngyr yn effeithiol yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau fferm  o ran gorffen anifeiliaid yn gyflymach a lleihau gwariant ar fwyd atodol.”

Ychwanegodd Gwawr, “Mae HCC yn falch iawn o fod yn rhan o'r cynllun KESS, gan alluogi ôl-raddedigion i weithio gydag academyddion blaenllaw ar brosiectau a fydd o fudd i sector amaethyddol Cymru sydd werth £1.6 biliwn.”