Christian Enemark - Drone Violence as Wild Justice: Administrative Executions on the Terror Frontier

Y defnydd dadleuol o dronau milwrol, mater sydd wedi dod i ymlygrwydd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol ers dechrau’r rhyfel ar derfysgaeth, fydd yn cael sylw yn narlith ddiweddaraf Cyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

 

Bydd yr Athro Christian Enemark o Brifysgol Southampton yn traddodi darlith gyhoeddus ar “Drone Violence as Wild Justice: Administrative Executions on the Terror Frontier” ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 17 Hydref 2019.

 

Mae defnyddio dronau wedi dod yn un o'r dewisiadau polisi amlycaf yn yr Unol Daleithiau a’i fabwysiadau gan wladwriaethau eraill yn ogystal. Mae hefyd wedi bod yn ddadleuol.

 

Mae’r Athro Enemark yn gyn-Ddarllenydd mewn Iechyd Byd-eang a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, a bellach yn Brif Ymchwilydd ar y prosiect “Emergent Ethics of Drone Violence: Toward a Comprehensive Framework” sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Ymchwil Ewrop o dan raglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020 yr UE.

 

Mae'r Athro Enemark yn un o'r prif feddylwyr ar foeseg filwrol wrth ddefnyddio dronau. Yn 2014, cyhoeddodd y llyfr Armed Drones and the Ethics of War: Military Virtue in a Post-Heroic Age.

 

Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cynnwys diogelwch iechyd byd-eang a rheoli arfau. Ef yw awdur Disease and Security: Natural Plagues and Biological Weapons in East

 

Asia (2007) a Biosecurity Dilemmas: Dreaded Diseases, Ethical Responses, and the Health of Nations (2017).

 

Dywedodd Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Dathliadau Canmlwyddiant yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: ‘‘O dechnoleg a anwybyddwyd a’i diystyru ar y dechrau, mae dronau wedi dod yn rhan anatod o wleidyddiaeth ryngwladol. Dywedir eu bod yn effeithlon, dywedir eu bod yn ddefnyddiol. Yn anad dim arall, maent yn farwol. Yn fy nhyb i does neb mewn sefyllfa well i drafod eu defnydd na'r Athro Enemark.”

 

Bydd darlith yr Athro Christian Enemark “Drone Violence as Wild Justice” yn cael ei chynnal ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru am 4:30 brynhawn Iau 17 Hydref 2019.

 

Mae mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n dymuno mynychu. Y siaradwr nesaf yng Nghyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran fydd Beatrice Fihn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddiddymu Arfau Niwclear (ICAN).