Proffiliau Israddedig

Becca Grinstead - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Rwyf i wastad wedi bod yn angerddol ynglŷn â gwleidyddiaeth. Ar Ddyddiau Agored, adleisiwyd yr angerdd hwn gan y staff addysgu a’r myfyrwyr y cefais gyfarfod â nhw. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r modiwlau a’r cyfleoedd fel y Gemau Argyfwng. Roedd yn fonws hefyd mai hon yw’r adran gyntaf o’i math, oedd yn ddiddorol dros ben.

Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma a beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Er ei fod yn straen ar adegau, rwyf i wedi bod wrth fy modd gyda phob munud yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, mae’r staff addysgu wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y profiad gan gynnig cymorth ac arbenigedd. Eleni rwyf i wedi cael fy addysgu mewn pynciau na ddysgais i erioed o’r blaen, fel y modiwlau ‘Spies at War’, ac mae cael cerdded i ddarlithfa neu seminar a gallu dysgu gan staff a myfyrwyr yn wych.

Byw yn Aberystwyth?

Rwy’n caru Aberystwyth, mae’n hollol wahanol i’r lle rwy’n dod ohono ond sut na allwch chi garu rhywle sydd ar lan y môr, er nad wyf i’n mwynhau Rhiw Penglais cymaint â’r golygfeydd!

Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Fyddwn i’n dweud taflwch eich hun i fywyd yr adran gymaint â phosibl a chadwch feddwl agored. Gall siarad gyda phobl newydd fod yn frawychus, ond os ydych chi’n creu cysylltiadau â’ch cyd-fyfyrwyr a’r staff, cewch flynyddoedd gwych yn astudio yma.

Akos Erzse - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol gydag Astudiaethau Cudd-wybodaeth

Roedd dau reswm am benderfynu astudio yn Aber - yr Adran yw’r hynaf yn y byd, a sefydlwyd yn 1919, ac roedd ei henw da nodedig wedi fy nghyrraedd cyn i fi ddechrau meddwl am astudio yn y Deyrnas Unedig hyd yn oed. Fodd bynnag, cadarnhawyd fy mhenderfyniad ar ôl treulio diwrnod neu ddau yma gyda ffrind da i mi.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf cefais gyflwyniad i gysyniadau a syniadau sylfaenol gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig. Darllenais weithiau gan rai o’r meddylwyr gwleidyddol pwysicaf, o’r gorffennol a’r presennol, a chyfoethogi fy ngwybodaeth ar faterion fel ôl-drefedigaethedd a rhywedd.

Dechreuodd yr hwyl go iawn yn yr ail flwyddyn pan agorodd y storfa enfawr o wybodaeth a gynigir gan yr Adran. Wrth i mi ddewis o blith yr ehangder o fodiwlau oedd ar gael, cefais gyfle i ymddiddori ac ymchwilio i bynciau fel byd gwefreiddiol ysbïo yn y Rhyfel Oer, yr esboniadau seicolegol am fethiannau cudd-wybodaeth, a hyd yn oed y defnydd o filwyr plant mewn gwrthdaro arfog.

Serch hynny, nid ysgrifennu traethodau, eistedd yn y llyfrgell neu fynychu seminarau’n unig yw bywyd yn Aber. Mae’r Adran byth a hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i fynd y tu hwnt i’ch dyletswyddau academaidd sylfaenol. Ceir darlithoedd cyhoeddus, seminarau ymchwil a sgyrsiau gan siaradwyr gwadd bron bob wythnos. Cafwyd sgwrs gan gyn Gyfarwyddwr MI5, y Farwnes Eliza Manningham-Buller, er enghraifft. Ceir galwadau cyson i gyflwyno traethodau i gystadlaethau neu geisiadau am brosiectau cyffrous newydd.

Gwnes gyflwyniad yn y Gynhadledd Myfyrwyr E H Carr gyntaf a drefnwyd yn llwyr gan fyfyrwyr yr Adran, ac ysgrifennu erthygl i’r Interstate Journal of International Affairs. Fe ddes i’n gydolygydd y Cyfnodolyn a helpais i drefnu ail Gynhadledd Myfyrwyr E H Carr, oedd yn bleserus iawn.

Ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran yn Rhaglen Gyfnewid Gogledd America. Treuliais semester cyntaf fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol wych McGill ym Montreal, Canada gyda thri o fy nghyd-fyfyrwyr Aber! Roedd y cyfnod hwn o bedwar mis yn hudol. Yn naturiol roedd rhaid i fi astudio llawer ond hefyd es ar daith gerdded ar fynydd Tremblant gyda fy nghyd-letywyr, dathlu cyhydnos y gaeaf gyda llwyth Mohawk ger Akwesasne, mynd am bedwar diwrnod i Philadelphia, Washington a Pittsburgh, a gwneud ffrindiau newydd yr wyf i’n dal i gysylltu â nhw hyd heddiw.

Yna cefais le ar y Cynllun Lleoliadau Seneddol, a gynigiodd gyfle i fi brofi gwleidyddiaeth o safbwynt gwbl newydd. Treuliais rai wythnosau’n gweithio’n agos gydag Aelod Cynulliad a’i staff yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel intern ymchwil, roedd fy nyletswyddau dyddiol yn amrywio o ddod o hyd i wybodaeth werthfawr ar bwnc penodol, dadansoddi a choladu’r wybodaeth honno ac yna gyflwyno fy nghanfyddiadau mewn modd cydlynol a phrosesadwy. Hefyd es i gyda’r Aelod Cynulliad i gyfarfodydd a chyfweliadau, a helpu gyda gwaith bob dydd pan oedd angen cymorth arno. Rhoddodd yr ymroddiad rhyfeddol a welais ymhlith swyddogion yn ystod yr wythnosau y bûm i yno gymhelliad y tu hwnt i unrhyw ddisgrifiad i mi.

Os ydych chi’n gwerthfawrogi cyfleoedd i archwilio meysydd cyffrous newydd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a chael cefnogaeth ddi-ben-draw, ddiffuant i’ch gwella eich hun yn barhaus a chyflawni mwy, yna eich dewis cyntaf ddylai fod Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth!

Gabrielle Lyimo - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Ysgogodd hinsawdd wleidyddol y Deyrnas Unedig ar ôl Refferendwm Brexit yn 2016 fi i feddwl yn fanylach beth sydd angen ei newid yn y DU i’w gwneud y lle tecach.

Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma a beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi bod yn ddifyr ac yn ddwys gyda chynnwys yr holl bynciau a drafodwyd. Mae’r cyfle i rannu ac ehangu fy ngwybodaeth â myfyrwyr eraill wedi fy ngwneud yn fwy agored fy meddwl ac wedi gwneud fy astudiaethau’n fwy diddorol. Roedd un o’r modiwlau a astudiais a agorodd fy llygaid, modiwl Dr Gillian McFadyen ar Anghydraddoldeb Byd-eang a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn ddiddorol iawn – doeddwn i ddim wedi meddwl y gallai crefydd a diwylliant effeithio ar anghydraddoldeb i’r fath raddau.

Byw yn Aberystwyth?

Mae byw yn Aberystwyth yn wych, rwyf i wrth fy modd â’r bywyd tawelach, yn enwedig ar lan y môr. Mae bob amser yn fy adfywio a dyw hi ddim yn bosibl diflasu ar y golygfeydd.

Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Yn bendant ewch ati i ddarllen ac ewch i’r Gemau Argyfwng. Cadwch feddwl agored bob amser a hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno â’r hyn a gaiff ei ddweud, peidiwch ag ofni herio. Siaradwch â’r darlithwyr am aseiniadau ac unrhyw beth rydych chi’n ansicr ohono oherwydd maen nhw yna i helpu.

Trayana Vladimirova - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Gyfraith

 

Pan glywais i am Aberystwyth, roeddwn i’n gwybod yn syth mai hwn oedd y lle i fi. Chefais i ddim y cyfle i ddod i weld y lle – penderfynais ar yr adran oherwydd ei henw da academaidd a’r prosbectws yn unig, a brofodd i fod yn hollol gywir.

Yn ddiweddarach, ymgeisiais am ysgoloriaeth mynediad ac rwyf i nawr yn ddeiliad balch. Enw da academaidd rhagorol Aberystwyth mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ynghyd â’r amrywiol ysgoloriaethau oedd ar gael oedd yr hyn a ddiffiniodd fy newis, a dydw i ddim yn difaru.

Yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau am yr adran oedd ei hyblygrwydd. Cewch gyfuno eich prif astudiaethau mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ag amrywiol bynciau – o’r gyfraith ac economeg i wahanol ieithoedd tramor, neu gallwch ddewis gradd anrhydedd gyfun. Er bod eich gradd yn eich dwylo eich hun, fe gewch lawer o gymorth ar hyd y ffordd. Mae pawb yn yr adran yn eich croesawu â gwên ac wastad yn barod i helpu. Cewch adborth prydlon iawn bob amser ar eich gwaith cwrs a’ch arholiadau, felly rydych chi’n gwybod beth rydych chi’n gwneud yn dda ynddo, beth sydd angen ei wella a pham eich bod wedi’ch marcio mewn ffordd benodol.

Yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd yn y dosbarth, ceir llawer o weithgareddau allgyrsiol i ddewis o’u plith. Er enghraifft, yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, cymerais ran a chyflwyno yn y gynhadledd israddedig a arweiniwyd gan fyfyrwyr yr adran ar Gydweithio Dŵr. Yn ddiweddarach, cymerais ran mewn Cynhadledd Israddedig Ryngwladol yn UEL, lle defnyddiais fy nghyflwyniad o’r gynhadledd yn Aberystwyth.

Ond uchafbwynt y flwyddyn academaidd hon oedd fy Lleoliad Seneddol, a drefnwyd gan yr Adran. Bûm i’n gweithio i AS yn Senedd Prydain am chwe wythnos. Roeddwn i’n disgwyl y byddai’n anodd, ond roedd yn braf gweld fy mod wedi fy mharatoi’n dda ar ei gyfer trwy fy astudiaethau prifysgol - llwyddais i ymgartrefu yn awyrgylch San Steffan yn gyflym iawn, gan weithio fel pe bawn i’n aelod amser llawn o staff AS yn hytrach nag intern. A hyn i gyd diolch i’r sgiliau a ddysgais yn Aberystwyth.

Nathan Hazlehurst - BScEcon Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes Rhyngwladol

O’r diwrnod agored cyntaf yn Aberystwyth, roeddwn i’n awyddus i astudio yno. Roedd y staff yn anhygoel o groesawgar, roedd y myfyrwyr oedd yn dangos yr adran i bobl yn wych ac roedd y ‘ffug-ddarlith’ yn ddiddorol iawn. Astudiais a llwyddais i gael ysgoloriaeth mynediad trwy gwblhau dau arholiad caled, a roddodd syniad da i fi o sut beth fyddai bywyd prifysgol.

Mae’r flwyddyn gyntaf yn Aberystwyth wedi’i chynllunio fel bod pob myfyriwr yn cael dealltwriaeth eang o faes gwleidyddiaeth ryngwladol. Astudiais bynciau nad oeddwn i erioed wedi’u hystyried o’r blaen, a mwynhau gallu cyfarfod a thrafod pynciau gyda grŵp mawr o bobl. Hefyd des i adnabod y staff, a gweld drosof fy hun faint maen nhw’n helpu pan nad yw pethau’n mynd yn iawn.

Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, rydych chi’n cael arbenigo ar bynciau rydych chi’n eu mwynhau. Mae gan yr Adran amrywiaeth gwych o ddewisiadau modiwl, ac arbenigwyr mewn pynciau nad oeddwn i wedi ystyried eu hastudio cyn hyn. Edrychais ar hanes milwrol ar draws y byd, effeithiau gwleidyddol argyfyngau iechyd cyhoeddus a goblygiadau polisi tramor Islam, ymhlith pynciau eraill. Er bod y modiwl traethawd hir yn edrych yn frawychus i ddechrau, mae’n rhoi sgiliau i fyfyrwyr allu ysgrifennu darn gwych o waith, gyda chefnogaeth wedi’i chyfeirio gan eich tiwtor a chymorth cyffredinol yn y darlithoedd.

Ochr yn ochr â’r addysgu ffurfiol, mae gan Aberystwyth amrywiaeth rhyfeddol o siaradwyr allanol. Yn ystod fy nhair blynedd, gwelais Grŵp-Gapten yr Awyrlu oedd yn gyfrifol am weithrediadau Prydain yn Libanus, newyddiadurwyr o’r BBC yn trafod gwleidyddiaeth gohebu yn y Gemau Olympaidd, a chyn-lysgennad Awstralia yn siarad am arfau dinistr torfol yn Irac, ymhlith eraill.

Cymerais ran yn y gemau argyfwng ddwywaith yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth. Y tro cyntaf roedd yn ymwneud â’r sefyllfa yn Syria, lle cefais fy mhenodi’n bennaeth byddin Israel yn ymdrin â’r argyfwng parhaus. Roedd yr ail dro’n edrych ar gudd-wybodaeth yn ymwneud â gemau Olympaidd y gaeaf yn Sochi, a fi oedd pennaeth Russia Today Reith-aidd iawn. Yn sgil y ddwy gêm cefais well dealltwriaeth o’r ffordd y gellir gwneud penderfyniadau mewn amgylchiadau gofidus, a pha mor anodd y gall swydd rhywun sy’n gorfod gwneud penderfyniadau gwleidyddol fod.

Y tu hwnt i’r adran, treuliais lawer o amser gyda Sant Ioan Cymru a gyda’r Corfflu Hyfforddiant Awyr, gan ddefnyddio’r sgiliau cyflwyno a gefais drwy fy ngwaith academaidd i ddod yn hyfforddwr yn y ddau sefydliad. Defnyddiais sgiliau gweithio dan bwysau pan fûm i’n cydlynu’r ymateb meddygol i’r llifogydd yn Aberystwyth yn 2014, gan weithio ochr yn ochr ag uwch staff y brifysgol i sicrhau bod myfyrwyr yn cadw’n ddiogel.

Mae Aberystwyth yn lle gwych i astudio. Mae’r staff yn ddi-fai, ac yn eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau gydag addysg o safon fyd-eang. Cewch gyfle i archwilio’r maes rydych chi’n dymuno mynd iddo, a gadael gyda llawer mwy na dim ond gradd.

Mae’r sgiliau a’r profiadau a gefais trwy fy ngradd wedi fy helpu i gael gwaith fel Swyddog Atal a Chydlynu i awdurdod lleol. Yma rwyf i’n gweithio gyda chydweithwyr o asiantaethau niferus i gadw pobl fy ninas yn ddiogel rhag cael eu radicaleiddio, a chefnogi ymdrechion i greu cymuned gydlynol. Ni allwn i fod wedi gwneud hyn heb y sylfaen a gefais yn Aberystwyth.

Joscha Sisnowski - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Datblygu Byd-eang

Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Cefais fy nenu i astudio yn yr adran oherwydd ei henw da rhagorol a’r ffaith ei bod yn cynnig yr union radd roeddwn i’n chwilio amdani gydag amrywiaeth o fodiwlau gwahanol. Gyda’r llythyr derbyn daeth llythyr personol hyfryd a argyhoeddodd fi i ddod i Aberystwyth.

Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma a beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Yn gyffredinol mae wedi bod yn brofiad gwych. Wrth gwrs mae pwysau fel gydag unrhyw astudio ond mae’r gefnogaeth gan y darlithwyr a myfyrwyr eraill wedi bod yn rhagorol. Nawr fod dyddiad cyflwyno’r traethawd hir yn agosáu mae’r pwysau’n cynyddu ar y cwrs ond rwy’n teimlo’n ddigon hyderus i gymryd y cam nesaf. Y gallu i edrych ar bynciau heb ddylanwad unrhyw agenda, dim ond cael y cyfle i ddarganfod a thrafod syniadau gyda llawer o gefnogaeth gan fy narlithwyr sydd bob amser yn groesawgar. Roedd y cyfleoedd cyfnewid yn wych, yn gyfle i fi dreulio semester yn yr Unol Daleithiau. Mae’r adran wastad yn gwneud ymdrech i gael siaradwyr i gyflwyno darlithoedd gwadd, sydd ar y cyfan yn ddiddorol iawn. Mae’r posibilrwydd o allu dewis modiwlau o bob agwedd ar astudiaethau gwleidyddol yn rhywbeth ychwanegol a chaniataodd hyn i fi fwy neu lai ‘adeiladu’ fy ngradd fy hun.

Byw yn Aberystwyth?

Profiad fyny ac i lawr yw byw yn Aberystwyth (yn llythrennol o ystyried y rhiw). Unwaith i fi arfer â manteision cymuned fach, y posibilrwydd o gerdded i bob man a mwynhau barbeciws ar y traeth gyda’r machlud, fe fwynheais i fy mhrofiad yn fawr, ond fe’i cefais yn anodd ymgartrefu yn ystod y flwyddyn gyntaf. Wedi hynny, roedd yr holl bethau bach fel fforddiadwyedd, marchnad dai dda ac -er gwaethaf maint y dref - cymuned fywiog yn gorbwyso’r agweddau negyddol er bod bywyd yn eithaf ynysig.

Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Yn gyntaf: ewch ati i’w wneud. Yn ail, ceisiwch edrych ar unrhyw bwnc gyda meddwl mor agored â phosibl. Mae gan bawb ragdybiaethau yn eu barn ar bynciau a phroblemau gwleidyddol ac fe gewch chi’r profiad gorau os ydych chi’n agored i gael eich argyhoeddi gan safbwyntiau eraill.

Joseph Garibaldi - BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Astudiaethau Cudd-wybodaeth

Pam ddewisoch chi astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

Un o’r prif resymau oedd gallu dewis ymhell dros hanner fy modiwlau o flwyddyn 2 ymlaen. Roedd y modiwlau a welais ar-lein yn cyd-fynd â fy niddordebau ac roedd rhai modiwlau cwbl wahanol ond diddorol iawn yr olwg nad oeddwn i wedi’u hystyried hyd yn oed.

Sut mae astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn mynd hyd yma a beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Rwy’n hoffi’r ffaith fod yr adran yn teimlo’n ddigon mawr i ddenu staff rhyngwladol ond yn ddigon bach i deimlo eich bod yn gallu siarad â phawb. Mae un o’r modiwlau o’r enw ‘War Crimes’ wedi bod yn eithriadol o ddiddorol, ac wedi fy helpu i feithrin gwrthrychedd proffesiynol. Modiwl arall a fwynheais i’n fawr oedd International Politics and Global Inequality a newidiodd fy safbwyntiau ar lawer o bethau, mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor gul yw cwricwlwm cenedlaethol ysgolion o ran cysylltiadau rhyngwladol.

Byw yn Aberystwyth?

Pan fydd y tywydd yn glir, a byddwch chi’n cael barbeciw ar y traeth gyda’ch ffrindiau, dyna pryd fyddwch chi’n sylweddoli pam benderfynoch chi ddod - hefyd, mae popeth yn rhad yma!

Cyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Darllenwch y newyddion bob dydd os gallwch chi: roeddwn i’n arfer ei ddarllen dros frecwast. Rhowch gynnig ar safleoedd newyddion rhyngwladol fel Reuters, CNN neu Al-Jazeera. Dydych chi ddim yn sylweddoli faint o wybodaeth feddal wnewch chi ei hamsugno tan i chi ddod i’r brifysgol ac wedyn mae popeth yn berthnasol.

Rex Chan - Gwleidyddiaeth Ryngwladol (Myfyriwr Cyfnewid)

Astudiodd Rex Chan Wleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Adran ar gyfnod cyfnewid o Brifysgol Bedyddwyr Hong Kong yn 2017. Mae’n hapus i ni rannu’r eiriau a ysgrifennodd at aelod o’r tîm academaidd yn dilyn ei gyfnod yma -

“Diolch yn fawr iawn i chi am eich croeso gwresog. Roedd yn rhyddhad mawr i mi, yn enwedig gan mai dyma oedd fy ymweliad cyntaf â Phrydain. Rwyf i bellach yn adolygu ar gyfer fy arholiad terfynol a byddaf yn gadael Aber ar ôl i mi ei orffen.

Rwyf i’n fwy na hapus i ddweud wrthych bod y semester hwn wedi bod yn brofiad nodedig yn fy mywyd prifysgol. Roedd/mae astudio yn Aber yn amheuthun i mi – boddhaus a chartrefol. Mae byw ar lan y môr mewn tref fach wedi bod yn freuddwyd i fi ers tro, ac rwy’n dal i fethu credu ei fod yn digwydd nawr! Roedd pob un o’r tri modiwl a astudiais yn agor fy meddwl ac yn fy ysbrydoli, gan wneud i mi ofyn yn aml pam fy mod yn astudio gwleidyddiaeth ryngwladol a hynny yn ei dro yn cryfhau fy angerdd i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.

Ar wahân i astudio yn Aber, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl cynhadledd MUN a chynhadledd MEU yn Strasbourg. Roedd pob un o’r profiadau hyn yn werthfawr i fi a byddaf yn rhannu hanesion o fy nghyfnod cyfnewid â’r Athro Cabestan a fy nghyd-fyfyrwyr heb os!”