Diwrnod Blasu Gwleidyddiaeth Ryngwladol i ddarpar ymgeiswyr

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn eich gwahodd i’w Diwrnod Blasu a gynhelir ddydd Llun, 9 Gorffennaf.

Yn ystod y Diwrnod Blasu byddwn yn rhoi syniad i chi sut beth yw astudio gwleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth, megis y mathau o bynciau y byddwch yn dod ar eu traws, y ffordd rydym yn dysgu, a’r technolegau a’r adnoddau sydd gennym. Byddwn hefyd yn archwilio tref Aberystwyth gan ganolbwyntio ar ei gwleidyddiaeth, ei hanes a’i chysylltiadau rhyngwladol.

Bydd y sesiwn blasu hon o ddiddordeb i ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a llywodraeth, hanes a daearyddiaeth.

Camau nesaf:

  1. Darllenwch y manylion a’r Cwestiynau Cyffredin isod.
  2. Cofrestrwch ar gyfer ein Diwrnod Agored 10 Gorffennaf Saesneg / Cymraeg.
  3. Cliciwch yma i gofrestru am ein diwrnod blasu. 

 

Y Manylion

Bydd y Diwrnod Blasu’n dechrau am 12.30 yp. Byddwn yn cyfarfod ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sydd ar Gampws Penglais, prif gampws y Brifysgol. Gellir prynu cinio ymlaen llaw o un o fannau bwyd y Brifysgol ar Gampws Penglais, gan gynnwys Caffi Canolfan y Celfyddydau, Bwyty TaMedDa, a chaffi IBERBach.

Yn ystod y Diwrnod Blasu byddwn yn cynnal gweithdy rhyngweithiol ar anghydraddoldeb byd-eang, lle y caiff myfyrwyr gyfle i drafod pa gamau (os o gwbl) a ddylid eu cymryd i gael gwared ar anghydraddoldeb byd-eang. Yn ogystal â hyn bydd gofyn iddynt gamu i esgidiau gwleidyddion cenedlaethol yn y DU i ystyried sut, os o gwbl, i ddyrannu cyfran o gyllideb ddatblygu’r DU. Yna, byddwn yn ymweld â lleoliadau o arwyddocâd gwleidyddol yn Aberystwyth, gan drafod y materion allweddol y maent yn eu codi o safbwynt gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol, megis hunaniaeth genedlaethol, rhyfel a gwleidyddiaeth ranbarthol.

Bydd ein darlithwyr yn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd nôl i Gampws Penglais erbyn tua 17.00 i baratoi ar gyfer y bwffe gyda’r hwyr, a ddarperir gan yr Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg.

Beth i’w bacio

Byddwn allan yn Aberystwyth am ran o’r prynhawn. Er bod y tywydd ym mis Mehefin wedi setlo ac yn gynnes fel arfer, rydym yn gwybod y gall hafau Prydeinig fod yn anwadal. Felly, rydym wedi cynnwys rhestr o eitemau hanfodol/awgrymedig isod:

Eitemau hanfodol:

  • Esgidiau cyfforddus ar gyfer cerdded drwy’r dref.
  • Siaced law.
  • Het haul, sbectol haul ac eli haul.
  • Llyfr nodiadau bach a phensil.

Hefyd gallwch ystyried dod â:

  • Dillad glaw addas, os yw’r tywydd yn edrych yn wael.
  • Rhywfaint o arian parod.
  • Camera.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i fynegi eich diddordeb yn ein Diwrnod Blasu, cysylltwch â Dr Anwen Elias

‌Cwestiynau Cyffredin

C. Mae fy nheulu/gwarcheidwaid eisiau dod i’r Diwrnod Blasu hefyd, a gânt ddod?

A. Wrth gwrs, ar bob cyfri! Bydd y Diwrnod Blasu ei hun ar agor i fyfyrwyr yn unig, ond bydd Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim ar gyfer eich rhieni neu warcheidwaid yn ystod y prynhawn.

C. Pryd ddylwn i/ddylen ni gyrraedd?

A. Rydym yn argymell i chi gyrraedd erbyn 12 canol dydd i ganiatáu amser i chi gael cinio ymlaen llaw. Mae’r Diwrnod Blasu’n dechrau am 12.30. Byddwn yn cyfarfod ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn anelu at ddechrau’r gweithdy rhyngweithiol am 12.45. 

C. Faint o’r gloch mae’r Diwrnod Blasu’n gorffen?

A. Byddwn yn anelu at orffen gweithgareddau’r dydd erbyn 17.00, ac yn cynnal bwffe gyda’r hwyr (amser i’w gadarnhau).