Ymchwil

Grŵp Ffocws gwaith maes Berit

'Mynd i'r afael â heriau byd-eang, cynnig syniadau i sicrhau newid'

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ganolfan ymchwil arloesol sy'n arwain yn fyd-eang ym maes cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth. Mae InterpolAber, fel y'i gelwir, yn adnabyddus o gwmpas y byd fel lle sy'n datblygu ffyrdd newydd o edrych ar yr heriau cenedlaethol, rhyngwladol a byd-eang sy'n ein hwynebu.

Mae ein staff a'n myfyrwyr uwchraddedig yn cynnal gwaith ymchwil i rai o'r heriau byd-eang anoddaf a phwysicach y mae cymunedau o bobl yn eu hwynebu heddiw - o gwestiynau ynglŷn â gwrthdaro, rhyfel, arfau niwclear a diogelwch i faterion sy'n ymwneud â mudo, datblygu, democratiaeth, iechyd byd-eang a'r amgylchedd. Rydym hefyd yn astudio prosesau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig a'i his-wladwriaethau, ac mae gennym arbenigedd rhanbarthol yng ngwleidyddiaeth y Dwyrain Canol, Rwsia, America Ladin ac America.

Ein nod drwy ein gwaith ymchwil yw datblygu safbwyntiau beiddgar newydd ynglŷn â'r modd y gellir dirnad a chyd-drafod y rhyng-gysylltiadau byd-eang o'n cwmpas, sy'n gallu bod yn drafferthus weithiau. Wrth wneud hyn, rydym hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi i ddatblygu syniadau newydd a chadarn a all arwain at newid. O weithio â chyfranogwyr y gymdeithas sifil i ddarparu gwybodaeth i weithredwyr cenedlaethol a byd-eang, ceisiwn sicrhau bod cyflwyno ein hymchwil i randdeiliaid perthnasol ac i'r cyhoedd wrth wraidd ein gwaith ymchwil.

Ein nod drwy ein gwaith ymchwil yw datblygu safbwyntiau beiddgar newydd ynglŷn â'r modd y gellir dirnad a chyd-drafod y rhyng-gysylltiadau byd-eang o'n cwmpas, sy'n gallu bod yn drafferthus weithiau. Wrth wneud hyn, rydym hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi i ddatblygu syniadau newydd a chadarn a all arwain at newid. O weithio â chyfranogwyr y gymdeithas sifil i ddarparu gwybodaeth i weithredwyr cenedlaethol a byd-eang, ceisiwn sicrhau bod cyflwyno ein hymchwil i randdeiliaid perthnasol ac i'r cyhoedd wrth wraidd ein gwaith ymchwil.

Mae ein harbenigedd ymchwil sydd ar flaen y gad yn dylanwadau ar addysgu'r adran. Anogir y staff i ddysgu ar sail eu canlyniadau ymchwil diweddaraf yn eu hamrywiol feysydd ac, oherwydd hynny, mae'r myfyrwyr yn elwa'n uniongyrchol o'r datblygiadau ymchwil diweddaraf.

Mae'r ystod eang o safbwyntiau a diddordebau wedi'u hadlewyrchu yn yr amrywiaeth gyfoethog o grwpiau ymchwil sydd yn yr Adran. Mae'r rhain yn gwasanaethu myfyrwyr uwchraddedig a staff. Eu nod yw hwyluso arbenigedd o fewn cymunedau o arbenigwyr mewn meysydd penodol, a hynny yng nghyd-destun y gymuned ymchwil gyfeillgar yn Aberystwyth.

Caiff ymchwil newydd ei chynhyrchu gan ein myfyrwyr yn ogystal â'n staff. Er enghraifft, mae myfyrwyr sydd wedi graddio o'n rhaglen PhD wedi ennill nifer o wobrau am eu traethodau ymchwil, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein myfyrwyr israddedig a'r rhai sy'n astudio am radd Meistr hefyd yn cyfrannu at ddwysedd y weithgaredd ymchwil yn Aberystwyth, a hynny drwy eu gwaith ymchwil eu hunain tra'n paratoi eu traethawd hir ac wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau a seminarau ymchwil.

 

Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i sawl sefydliad a chanolfan ymchwil. Mae pob un o'r sefydliadau hyn yn canolbwyntio ar un neu ragor o feysydd ymchwil arbenigol. Yn rhan o'u gweithgareddau, maent yn cynnal cynadleddau a gweithdai, yn croesawu siaradwyr gwadd ac maent yn hwyluso rhyngweithio a throsglwyddo gwybodaeth rhwng academyddion a llunwyr polisi.

Gall myfyrwyr sy'n astudio yn yr Adran fod yn gysylltiedig â llawer o'r digwyddiadau a drefnir gan sefydliadau a chanolfannau, ac mae rhwydd hynt iddynt gymryd rhan ynddynt hefyd. I gael rhagor o wybodaeth am astudio yn yr Adran, darllenwch ein gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr neu cysylltwch â'r Gweinyddwyr Derbyn Myfyrwyr ar gyfer Astudiaethau Israddedig ac Uwchraddedig.

Cyfnodolion

Dangosir cadernid y diwylliant ymchwil hefyd gan y nifer o gyfnodolion a olygir yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Golygir cyfnodolion gan aelodau o'r Adran, ac mae hynny'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol ac i gael dylanwad ar y dadleuon sy'n diffinio amrywiol feysydd astudio. Mae ein myfyrwyr uwchraddedig yn rhan o'r gweithgareddau hyn - yn gynorthwywyr golygiadol neu'n gyfranogwyr mewn digwyddiadau a noddir gan gyfnodolion penodol.

Rhaglen Cymrodyr Gwadd

Rydym yn awyddus i annog ymchwil ar y cyd, ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ysgolheigion sefydledig a gefnogir yn ariannol gan eu sefydliadau eu hunain neu gan wobrau ymchwil sy'n dymuno treulio cyfnod o amser (o 3 i 12 mis) yn gweithio ar brosiect sy'n berthnasol i arbenigedd a diddordebau ein meysydd ymchwil ni.

Cyfleusterau a gynigir

Cynigir lle i ymwelwyr mewn swyddfa a rennir (yn dibynnu ar beth sydd ar gael), mynediad i'r llyfrgell, cyfleusterau TG lleol, a chyfrif e-bost. Mae gan Lyfrgell Huw Owen y Brifysgol ddeunydd ymchwil rhagorol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, a lleolir yr adran ger Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ogystal - un o lyfrgelloedd hawlfraint y DU. Mae croeso i ymwelwyr gymryd rhan yn llawn ym mywyd ymchwil yr Adran drwy fynychu'r Seminarau Ymchwil wythnosol yn ogystal â'r cyfarfodydd a'r gweithgareddau dirifedi a gynhelir gan y Grwpiau a'r Canolfannau Ymchwil.

Yr hyn a ddisgwylir gan Gymrawd gwadd

Nod y cynllun yw dod ag ysgolheigion talentog i'r Adran a all gyfrannu at a chyfoethogi ei gweithgareddau deallusol a'i hymchwil. Yn ogystal â gwneud eu hymchwil eu hunain, bydd disgwyl i gymrodyr gwadd gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Adran fel a ganlyn:

  • cydweithio â staff yr Adran ar waith ymchwil
  • cyflwyno un neu'n rhagor o bapurau gwaith ar waith, yn rhan o gyfres Seminarau Ymchwil yr Adran, neu i Grwpiau Ymchwil perthnasol
  • cyflwyno darlith ffurfiol i'r Gyfadran, neu i'r gymuned ehangach.

Categorïau o Gymrodyr Gwadd

Mae'n bwysig i lwyddiant y cynllun bod ymwelwyr yn dod yn rhan annatod o fywyd deallusol yr Adran. Er mwyn sicrhau hyn, bydd yr Adran yn penodi Cymrodyr Gwadd ar sail blaenoriaethol ac yn ôl yr ystyriaethau canlynol:

i) Rhoddir blaenoriaeth i ymwelydd a enwebir gan aelod staff cyfredol, ac sy'n rhan o grant ymchwil byw neu brosiect ar y cyd ag aelod o staff. Rhoddir blaenoriaeth i gyfnewidfeydd o'r math hwn (a ariennir drwy gynlluniau megis y Newton International Trust, neu drefniadau ariannu eraill ar y cyd) yn y lle cyntaf.

ii) Fel arall, dylai ymgeisydd fod yn rhywun a noddir gan aelod staff unigol, neu gan Ganolfan Ymchwil, a bydd y 'noddwr' yn ymgymryd â rôl mentor i'r ymwelydd, i fod yn rhan o brosiect ymchwil yr ymwelydd, ac i hwyluso cyfranogiad yr ymwelydd mewn cyfres seminarau berthnasol. Mae'n bosibl y bydd y rôl hon hefyd yn golygu monitro cydymffurfiaeth ag amodau visa, lle bo hynny'n briodol. Yn ogystal ag unrhyw waith ysgrifennu a chyhoeddi ar y cyd rhwng y ddau, byddem hefyd yn annog yr aelod staff a'r Cymrawd Gwadd i weithio tuag at wneud cais ar y cyd am grant ymchwil ar gyfer y dyfodol.

iii) Os nad oes gan ddarpar ymgeisydd gysylltiad ymchwil sydd wedi'i sefydlu yn barod ag aelod o staff, dylai ysgrifennu at ein Cyfarwyddwr Ymchwil yn y lle cyntaf i ofyn a oes rhywbeth ar gael a fyddai'n gweddu i'r ddwy ochr. I gynorthwyo â hyn, gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno datganiad o'u prosiect ymchwil (uachfswm o 1000 o eiriau), dau eirda academaidd, a thystiolaeth o allu yn yr iaith Saesneg, lle bo hynny'n briodol. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais yn y modd hwn wneud ymholiad cyffredinol yn gyntaf er mwyn canfod a oes lle ar gael o gwbl cyn cyflwyno cais ffurfiol. 

Y broses ymgeisio

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ddwywaith y flwyddyn, a cheir dau amser cau i'w cyflwyno: diwedd mis Chwefror (ar gyfer ymweliadau yn ystod y semester cyntaf, neu ddau semester y flwyddyn academaidd nesaf); diwedd mis Awst (ar gyfer ymweliadau yn ystod yr ail semester, neu'r flwyddyn galendr lawn nesaf).

Rhaid i ymgeiswyr yn nghategorïau i) a ii) uchod ddarparu'r manylion canlynol drwy law eu henwebydd neu noddwr:

  • maes eu harbenigedd a'r pwnc ymchwil sydd o ddiddordeb
  • eu cydweithiwr neu noddwr yn yr Adran
  • y gwaith ar y cyd a gynigir ganddynt ac amcanion yr ymweliad
  • cadarnhad bod gan yr ymgeisydd gyfnod sabothol i ffwrdd o'u gwaith neu gefnogaeth ariannol tebyg ar gyfer eu hymweliad 
  • curriculum vitae a manylion cyswllt
  • dyddiad cychwyn a gorffen ar gyfer yr ymweliad, a'r lefel o gymorth grant sydd ar gael
  • manylion eu statws visa (os yn berthnasol).

Rhaid i ymgeiswyr yng nghategori iii) ddarparu'r gwaith papur a restrir uchod. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan bwyllgor Tîm Rheoli priodol. Dylid cyfeirio ceisiadau ac unrhyw gwestiynau at Gyfarwyddwr Ymchwil yr Adran (gweler y Rhestr Staff).