Benthyca o’r Llyfrgell
Faint o eitemau y gallaf eu benthyg?
Categori benthyciwr | Nifer o eitemau |
---|---|
Israddedigion Myfyrwyr Dysgu o Bell Myfyrwyr TAR Staff Uwchraddedigion (dysgu drwy gwrs a Ymchwil) |
40 |
Aelodau Anrhydeddus/Staff sydd wedi ymddeol/Emeritws Cynllun Benthyca Aberystwyth/Bangor Darllenwyr Cysylltiol Defnyddwyr Mynediad Sconul (Bandiau A, B a C) Myfyrwyr Dysgu Cymraeg Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes Myfyrwyr Prifysgol Haf |
10 |
Am ba hyd y gallaf fenthyca eitemau ?
Eitem | Cyfnod Benthyg | Adnewyddu Awtomatig | Ceisiadau |
---|---|---|---|
Llyfrau |
1 wythnos* |
Oes |
Oes |
Disgiau Amlbwrpas Digidol (DVDs) |
1 wythnos |
Oes |
Oes |
Llyfrau'r Casgliad TAR (Mae gan y llyfrau hyn stribed gwyrdd ar y meingefn) |
1 wythnos** |
Oes |
Oes |
Benthyciadau offer |
1 wythnos |
Dim Adnewyddu Awtomatig |
Ie |
Cyfnodolion a gedwir yn y Llyfrgell |
24 awr staff yn unig |
Na |
Na |
Cyfnodolion a gedwir yn y Stordy Allanol |
1 wythnos |
Ie |
Ie |
Traethodau hir |
Dim modd eu benthyg |
Na |
Na |
Deunydd Cyfeirio |
Dim modd eu benthyg |
Na |
Na |
Nodir: Mi fydd cyfnod benthyca gostyngol o 2 diwrnod yn cael ei osod os oes cais o ddefnyddiwr arall ar yr eitem yn barod. Bwriad hyn yw sicrhau tegwch a chyfle i bob defnyddiwr benthyg yr eitem . Mi fydd y dyddiad dychwelyd yn cael ei nodi pan fydd yr eitem yn cael ei fenthyg.
*Gall myfyrwyr Dysgu o Bell benthyca llyfrau am 4 wythnos. Bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu am 4 wythnos arall oni bai bod defnyddiwr arall wedi gofyn amdanynt neu eu bod nhw wedi cyrraedd eu cyfnod benthyciad uchaf o 6 mis
**Gall myfyrwyr TAR ar leoliad fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR am gyfnod cyfan eu lleoliad. Pan nad ydynt ar leoliad, gall myfyriwr TAR fenthyg llyfrau o'r casgliad TAR am 2 wythnos.
Sut ydw i'n benthyg eitemau?
- Gallwch fenthyca eitemau o Lyfrgelloedd y Brifysgol gan ddefnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca sydd wedi'u lleoli ar bob llawr o'r llyfrgell. Mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r rhain yma:https://faqs.aber.ac.uk/1180
- Bydd angen eich Cerdyn Aber arnoch chi
- Bydd angen casglu benthyciadau offer o'r Ddesg Ymholiad
A allaf adnewyddu fy menthyciadau?
Byddwn yn adnewyddu eich llyfrau / Disgiau Amlbwrpas Digidol (DVDs) yn awtomatig i chi tan:
- gofynnir amdanynt gan ddefnyddiwr arall
- maent wedi cyrraedd y cyfnod benthyca hiraf o 12 mis
- pan fydd eich cyfrif llyfrgell wedi dod i ben
Anfonir e-bost i chi pan fydd angen i eitemau gael eu dychwelyd felly gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd .
Os ydych chi am adnewyddu benthyciadau offer, cysylltwch â ni.
Byddwch hefyd yn derbyn e-bost misol yn rhestri yn fanwl yr eitemau sydd gennych ar fenthyciad.
Beth sy'n digwydd os yw defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennyf ar fenthyciad?
- Os bydd defnyddiwr arall yn gofyn am eitem sydd gennych ar fenthyciad, fe anfonir e-bost i'ch hysbysu
- Ni chaiff yr eitem ei adnewyddu a bydd yn rhaid i chi ei ddychwelyd erbyn y dyddiad / amser sy'n ddyledus hyd yn oed os ydych i ffwrdd o'r Campws.
- Gallwch wirio'r dyddiad / amser ar Primo. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn yma : https://faqs.aber.ac.uk/1106
Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn dychwelyd fy menthyciadau pan fyddant yn ddyledus?
- Os na fyddwch yn dychwelyd yr eitemau pan fyddant yn ddyledus, codir dirwy os yw defnyddiwr arall dan anfantais.
- Os na allwch eu dychwelyd erbyn y dyddiad a'r amser sy'n ddyledus, cysylltwch â ni
Sut ydw i'n dychwelyd fy menthyciadau
Gellir dychwelyd llyfrau /Disgiau Amlbwrpas Digidol (DVDs) :
- gan ddefnyddio'r peiriant dychwelyd llyfrau ar Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen.
- gan ddefnyddio'r peiriant hunan fenthyca/dychwelyd llyfrau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r rhain yma: https://faqs.aber.ac.uk/1179 - gan ddefnyddio'r Blwch Dychwelyd Llyfrau wrth y prif fydedfa i Llyfrgell Hugh Owen (dim ond ar gael pan fydd y llyfrgell ar gau).
Benthyciadau offer a fideos
- Dychwelwch wrth y Ddesg Ymholiad yn Llyfrgell Hugh Owen.
Beth ddylwn i ei wneud os yw llyfr sydd ei angen arnaf eisoes ar fenthyg?
- Os yw'r eitem sydd ei hangen arnoch ar fenthyg, gallwch roi cais amdano a pan gaiff ei ddychwelyd fe'i cedwir wrth y Ddesg Ymholiad. Mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud hyn yma: https://faqs.aber.ac.uk/814
- Anfonir e-bost atoch i'ch hysbysu bod yr eitem yn aros i chi.
- Ni chaiff eitemau sydd a cheisiadau arnynt eu hadnewyddu ar gyfer y benthyciwr presennol a bydd yn rhaid eu dychwelyd erbyn y dyddiad / amser sy'n ddyledus.
- Gallwch wirio statws eich ceisiadau wrth ddilyn y cyfarwyddiadau yma : https://faqs.aber.ac.uk/848
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli eitem yr wyf wedi'i fenthyca
- Os ydych wedi colli eitem sydd allan ar eich cyfrif, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.
- Byddwn yn eich anfonebu am gost amnewid yr eitem ynghyd ag unrhyw ddirwyon hwyr a godir ar yr eitem.
- Unwaith y codwyd anfoneb, ni fyddwch yn gallu benthyca unrhyw eitemau ychwanegol nes ei fod wedi cael ei dalu .
- Pe bai'r eitem yn cael ei ganfod wedyn a'i dychwelyd i'r llyfrgell, ad-dalir y gost amnewid ond byddwch yn dal i fod yn atebol i dalu dirwyon hwyr.
Beth os na allaf ddod o hyd i lyfr yr wyf yn chwilio amdano?
- Gellir dod o hyd i wybodaeth ar sut i ddod o hyd i lyfr yn y llyfrgell yma: https://faqs.aber.ac.uk/1429
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr hyn i'w wneud os na allwch ddod o hyd i lyfr ar y silffoedd yma: https://faqs.aber.ac.uk/2200