Beth ddwêd ein myfyrwyr?

BERKANT AKKUS

Prosiect ymchwil

Mae fy ngwaith ymchwil yn archwilio systemau arfau hunan-reoleiddiol dan gyfraith ryngwladol. Mae arfau hunan-reoleiddiol yn derm ymbarel eang sydd yn cynnwys sawl ffurf ar dechnoleg gyfoes sydd wedi trawsnewid terfysgoedd. Y mae cerbydau robotaidd a phlatfformau arfau awtomatig yn rhan o wead o arfau hunan-reoleiddiol sydd yn codi cwestiynau dwys o ran y gyfraith, moesau a hawliau dynol gaiff eu hadnabod a’u trafod yn fy noethuriaeth. Trafodir y materion canlynol yn fy ngwaith i. pa arfau ddylsid eu cynnwys mewn diffiniad cyfreithiol o ardau; ii gan drafod normau cyfredol cyfraith ryngwladol, pa fesurau cyfreithiol sydd eu hangen er mwyn datrys y problemau diffiniadol a geir yn i.; iii. sicrhau  fod Cenhedloedd yn cymryd cyfrifoldeb am arfau hunan reoleiddiol, ac yn derbyn cyfrifoldeb am fethianau i gyrymffurfio.

Profiad Aber

Cyflawnais fy ngradd meisr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roeddwn yn fodlon iawn â safon yr oruchwyliaeth, a brwdfrydedd y darlthwyr dros eu pwnc. Gan hynny penderfynais barhau a’m addysg drwy wneud doethuriaeth yma. Y mae Aberystwyth yn le goddefgar lle caniateir i fyfyrwyr ddatblygu a mynegi eu safbwyntiau, a chyda awyrgylch gyfeillgar a llyfrgell wych, gallaf argymell Aber fel y dewis cyntaf.