Dewis y Cwrs Olraddedig Cywir

Cynigir ystod o gymwysterau oldradd, ac maent i gyd yn cynnig profiadau gwahanol i chi fel myfyriwr.

Cyn dewis pa fath o gwrs olraddedig i'w ddilyn, mae'n fuddiol i ystyried beth yw eich amcanion o astudio, a faint o amser gallwch ymroi iddo.

Cwrs meistr drwy ddysg

Y mae cwrs meistr drwy ddysg yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am faes pwnc penodol, a fydd yn caniatau i chi ddod yn arbennigwr yn eich maes pwnc. Cynigir cyrsiau dysgu drwy ddysg fel cysriau ar y campws ac fel cyrsiau dysgu o hirbell. Cwrs blwyddyn yr'w cwrs ar y campws, ond gallwch gymryd hyd at bum mlynedd i gyflawni'r cwrs dysgu o hirbell, a fydd yn eich galluogi i astudio ar y cyd a gwaith neu gyfrifoldebau eraill.

Meistr Drwy Ymchwil

Yn Aberystwyth gallwch astudio ar gyfer MPhil, a gydnabyddir fel cwrs ymchwil yn hytrach na chwrs drwy ddysg. Byddai gofyn i chi gyflawni traethawd o oddeutu 50-60,000 o eiriau, a gweithio yn unigol dan arweiniad un neu fwy o oruchwylwyr. Wedi blwyddyn yn Aberystwyth, byddai dwy flynedd gennych wedyn i gyflawni a chyflwyno'r gwaith.

Y mae astudio ar gyfer cwrs MPhil felly yn cynnig sawl mantais, gan ei fod yn gyfle i ddarbaru trosolwg ac arfarniad o'r gyfraith, ond heb yr manylder dadansoddol sydd yn ofynnol o gwers doethuriaeth. Gan hynny, mae'n gyfle i gyflawni darn o waith ymchwil aar gyfer enill cymhwyster o fewn cyfnod byr o amser.

Doethuriaeth

Dyfarnir doethuriaeth wedi i berson gyflawni thesis o oddeutu 80-100,000  o eiriau ac yna arholiad viva voce llwyddianus. Y cyfnod arferol ar gyfer cofrestriad fel myfyrwyr yw 3 blynedd, ac fe dreulir rhan helaeth o'r flwyddyn gyntad yn cyflawni cyfnod o hyfforddiant ymchwil, gan adael yr ail flwyddyn a'r drydedd er mwyn ymchwilio'r pwnc yn drylwyr. Y mae doethuriaeth yn gyfle i chi ddod yn arbennigwr yn eich maes, ac i ymchwilio cymhlethdodau'r gyfraith mewn manylder.

Y mae'r ddoethuriaeth yn garreg filltir sylweddol ar gyfer gyrfaoedd academaidd a gyrfaoedd ymchwil. Mae'n dangos eich bod yn gallu cyflawni darn o waith trylwyr, ac o gyflwyno'r gwaith hynny mewn ffordd ddealladwy.