Miss Angharad Jones BmG Astudiaethau Cymunedol a Iechyd Cymhwysol; Dip AU Nyrsio; GPMA (gan ymgorffori?r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes); Nyrs Gofrestredig - Plant; Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbennigol; Athro Nyrsio Cofrestredig, SFHEA

Lecturer in Healthcare Education
Manylion Cyswllt
- Ebost: anj59@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0003-1610-005X
- Ffôn: +44 (0) 1970 621717
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Mae Angharad yn aelod sefydledig o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ac roedd yn aelod o Bwrdd Prosiect y Radd Nyrsio a ddiogelodd y tendr i ddarparu addysg nyrsio cyn-gofrestredig (meysydd oedolion ac iechyd meddwl) ar gyfer canolbarth Cymru. Roedd hi hefyd yn rhan o dîm Addysg Gofal Iechyd a sicrhaodd achrediad penagored y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i Brifysgol Aberystwyth i fod yn Sefydliad Addysgol Cymeradwyol.
Mae Angharad wedi gweithio mewn meysydd clinigol (AU & GIC), addysg nyrsio ac ymchwil am y 25 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â’i chymhwyster NG Nyrsio Plant (Prifysgol Swydd Stafford) a chefndir clinigol o nyrsio pediatreg, mae hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol -Nyrsio Ysgol (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrian Cymru – Prifysgol Glyndwr nawr) ac yn Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigaeth wedi iddi gwblhau cwrs GPMA (gan ymgorffori’r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes) gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd, lle gwobrwywyd a Chyrhaeddiad Arbennig.
Mae ganddi brofiad a diddordeb penodol mewn modelau nyrsio cymunedol, egwyddorion Un Iechyd, ymchwil gofal iechyd, iechyd gwledig - yn enwedig y gweithlu iechyd gwledig, modelau o ddarparu gwasanaethau/addysgu iechyd gwledig ac iechyd a llesiant ym mhlith cymunedau amaethyddol. Mae yn cwblhau ei thesis PhD ar hyn o bryd trwy Brifysgol Aberystwyth gan obeithio ei gyflwyno yn 2022.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Angharad wedi ei geni a’i magu mewn ardal amaethyddol wledig yng Nghanolbarth Cymru. Mae hi yn rhugl yn y Gymraeg, and yn frwdfrydig yngl?n â sicrhau gwasanaethau gofal ac iechyd a darpariaeth ecwiti i breswylwyr gwledig.
Dysgu
Lecturer
- NU10220 - Developing Professional Practice
- NY11400 - Arddangos Ymarfer Proffesiynol (Rhan A)
- NU10120 - Introduction to Professional Practice
- NU11400 - Demonstrating Professional Practice (Part A)
Mae Angharad yn cyfranogi mewn gweithgareddau dysgu ar fodiwlau craidd i gyd. Mae hi yn Gydlynydd Modiwl am:
Modiwl 3 (Deall Corff Dynol)
Modiwl 8 (Datblygu Ymarfer Proffesiynol - maes oedolion)
Modiwl 11 (Trosiant i Ymarfer Ymreolaethol - maes oedolion)
Mae hi hefyd yn Arweinydd Asesu Academaidd i Ran 2 o’r rhaglen.
Ymchwil
Mae Angharad yn angerddol am ddarpariaeth o Nyrsio ansawdd uchel mewn ardaloedd gwledig ac felly, mi benderfynodd ddilyn cwrs PhD gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2016, i geisio deall pan fod ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth Cymru yn ymdrechu i recriwtio a chadw ei gweithlu Nyrsio. Mae yn derbyn arweiniant oddi wrth Dr Rachel Rahman a Dr Jiaqing O - Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil wedi cyfrannu i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol fel a ganlyn:
Tach 2022
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster
‘A historical account of rural health and care services: a brief journey through time’
Ion 2022
Cymdeithas Ddysgiedig Cymru – Cyd-ennillydd am gyflwyniad poster a llafar:
‘The Excitement of the City: the perspectives of Welsh urban working nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2019
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:
‘How urban based nurses can inform the rural recruitment challenge’
Tach 2019
Argraffiad (Journal of Rural Studies – Ffactor Effaith 3.3):
Jones, A., Rahman, R. J. & O, J. (2019). A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis. Journal of Rural Studies. 72. 153-163.
Chwe 2019
Cynhadledd Arddangos Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyflwyniad poster:
‘Time and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2018
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:
‘Time, Traffic and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2017
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:
‘Health in the HINTERLANDS: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’
Gorff 2017
Cynhadledd Ysbrydoli Arloesi mewn Ymarfer - Cyflwyniad llafar:
‘Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’
Meh 2017
Trans-Atlantic Rural Research Network – Papur Trafod/Llafar:
‘Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’
Mai 2017
Cynhadledd Prif Swyddog Nyrsio - Cyflwyniad poster:
‘Health in the Hinterlands: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’
Cyfrifoldebau
Ar ran y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd:
- Tiwtor Personol
- Tiwtor Cysylltiol Addysgol
- Tiwtor Derbyn
- Arweinydd Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr ac Aelodau o’r Cyhoedd
- Arweinydd Ymchwil
- Arweinydd yr Iaith Gymraeg
- Arweinydd Iechyd Gwledig
- Arweinydd Cynaladwyedd
- Arweinydd Un Iechyd
- Aelod Cysylltiol Addysg Bellach