Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber yn cael ei phenodi i fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

01 Medi 2023

Mae Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cael ei phenodi yn Aelod i gynrychioli Cymru ar Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Syr Brian May yn rhannu profiadau dileu TB ar fferm

06 Medi 2023

Mae’r cerddor byd-enwog Syr Brian May wedi rhannu’r profiad o ymdrechion i ddileu twbercwlosis ar fferm y mae’n ei noddi mewn darlith ym Mhrifysgol Aberystwyth.   

Adar o Gymru ac Iwerddon sydd dan fygythiad yn cael eu gyrru i gynefinoedd newydd oherwydd newid hinsawdd

07 Medi 2023

Mae aderyn sy’n frodorol i Gymru ac Iwerddon a dan fygythiad gwirioneddol yn cael eu gorfodi i gynefinoedd peryclach o ganlyniad i newid hinsawdd yn ôl ymchwil newydd.

Prifysgol Aberystwyth yn dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn

07 Medi 2023

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel Elusen y Flwyddyn y Brifysgol ar gyfer 2023-24.

Prawf newydd yn anelu at ddiagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint

14 Medi 2023

Gallai fod yn bosibl canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach diolch i brosiect a arweinir gan wyddonwyr o Gymru sy’n datblygu pecyn diagnosis cyflym newydd. 

Taclo haint cyffredin mewn da byw gyda thechnolegau newydd - astudiaeth newydd

12 Medi 2023

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i dechnolegau newydd, gan gynnwys dadansoddi DNA amgylcheddol a defnydd synwyryddion ymddygiad gwisgadwy, i fynd i’r afael â pharaseit sy’n heintio’r rhan fwyaf o breiddiau defaid.

Staff a myfyrwyr y Brifysgol yn codi miloedd i Uned Ddydd Cemotherapi Bronglais

12 Medi 2023

Mae staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi codi £20,597 i gefnogi'r Uned Ddydd Cemotherapi newydd yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.

Rhyfel Wcráin: pam y gwrthododd y G20 gollfarnu ymddygiad ymosodol Rwsia – a sut y gallai hynny newid

14 Medi 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod datganiad terfynol uwchgynhadledd ddiweddar y G20 a wrthododd gollfarnu ymddygiad ymosodol Rwsia yn Wcráin.

Prif Filfeddygon yn trafod TB mewn bywyd gwyllt - cynhadledd Aberystwyth

19 Medi 2023

Ymunodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol  ag arbenigwyr o ar draws y wlad i drafod twbercwlosis buchol mewn bywyd gwyllt mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Enwi Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru

15 Medi 2023

Mae Aberystwyth wedi’i henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2024 gan The Times and The Sunday Times Good University Guide.

Mae terfyn cyflymder preswyl Cymru yn gostwng i 20mya - dyma sut y dylai effeithio ar ddamweiniau ac amseroedd teithio

15 Medi 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Seicoleg Charles Musselwhite a'r Athro Daearyddiaeth Ddynol, Peter Merriman, yn trafod y gostyngiad yn nherfyn cyflymder preswyl Cymru i 20mya a sut y dylai effeithio ar ddamweiniau ac amseroedd teithio.

Busnesau Ceredigion eto i adfer yn llawn o effaith COVID-19

19 Medi 2023

Nid yw busnesau yng Ngheredigion wedi adfer llwyr o effeithiau'r pandemig COVID-19 o hyd, yn ôl academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Archeolegwyr yn darganfod strwythur pren hynaf y byd

20 Medi 2023

Hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn gynt nag a dybiwyd yn flaenorol, roedd bodau dynol yn adeiladu strwythurau o bren, yn ôl ymchwil newydd gan dîm o Brifysgol Lerpwl a Phrifysgol Aberystwyth.

Dathliadau Hawlio Heddwch ym Mhrifysgol Aberystwyth

21 Medi 2023

Bydd academyddion, ymgyrchwyr heddwch ac aelodau o'r cyhoedd yn dod at ei gilydd i drin a thrafod yr ymdrechion i 'Hawlio Heddwch' yng Ngŵyl Ymchwil y Brifysgol 2023, rhwng 1 a 7 Tachwedd.

Dau ddeg tri miliwn yn agored i lygredd mwyngloddio metel - astudiaeth

22 Medi 2023

Credir bod dau ddeg tri miliwn o bobl o amgylch y byd yn cael ei heffeithio gan groniadau gwastraff gwenwynig a all fod yn beryglus, yn ôl astudiaeth newydd. 

Enwi adeilad Prifysgol er anrhydedd i’r gwyddonydd Gwendolen Rees

22 Medi 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ail-enwi un o’i phrif adeiladau academaidd i anrhydeddu’r Athro Gwendolen Rees, y Gymraes gyntaf i gael ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS).

Darlith Goffa EH Carr 2023 - 'Thinking with the Enemy'

28 Medi 2023

Bydd ysgolhaig blaenllaw ym maes cysylltiadau rhyngwladol, yr Athro Kimberly Hutchings, yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol EH Carr 2023 am 6.30pm ddydd Mawrth 10 Hydref.