Gwerthuso a dethol data

Nid oes angen cadw holl ddata prosiectau ymchwil, ac nid yw’n dda o beth gwneud hynny chwaith. Er mwyn defnyddio adnoddau a lle storio’n effeithiol mae’n rhaid gwerthuso, dethol a chael gwared ar ddata mewn modd trefnus a rheolaidd a chadw cofnod o hynny.

I holl brif gyllidwyr ymchwil Prifysgol Aberystwyth, y gofyniad lleiaf o ran y data i’w gadw a’i rannu yw’r data a ddefnyddir yn sail i gynnyrch ymchwil cyhoeddedig; mae cyllidwyr hefyd yn mynnu bod yn rhaid cynnwys nodyn yn y cyhoeddiad yn dweud ble y gall y darllenydd ddod o hyd i’r set ddata honno.

Awgrymir hefyd y dylid dethol setiau data eraill i’w storio ar ôl i’r prosiect ddod i ben, sef y rhai hynny y mae iddynt werth hirdymor cydnabyddedig, am eu bod:

  • Yn unigryw a/neu yn rhai nad oes modd eu hailadrodd, oherwydd cynllun yr astudiaeth /amgylchiadau casglu data / adnoddau ariannol;
  • Yn ddarganfyddiad gwyddonol o bwys;
  • Yn gosod safonau newydd neu gynseiliau;
  • Yn cyfrannu at gasgliad cyfredol;
  • Yn cefnogi prosiectau cyfredol eraill a/neu brosiectau yn y dyfodol.

 

Er mai ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) y cawsant eu llunio, mae’n bosib y bydd y ddogfen 'NERC Data Value Checklist (yn Saesneg yr unig)' yn adnodd defnyddiol wrth benderfynu a allai fod gwerth hirdymor i waith ymchwil.

Cysylltwch â dataymchwil@aber.ac.uk os hoffech gael cymorth neu gyngor wrth werthuso a dethol data i’w gadw a/neu ei rannu.

 

Cadw data

Yn unol â pholisi prif gyllidwyr ymchwil Prifysgol Aberystwyth ynglŷn ag isafsymiau i’w cadw, mae Polisi Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn argymell y dylid storio data am o leiaf dair (3) blynedd ar ôl cyhoeddi neu ryddhau’n gyhoeddus gynnyrch yr ymchwil. Mae cyllidwyr ymchwil eraill yn gofyn am gyfnodau cadw hwy (Gofynion data gan gyllidwyr). Gall gofynion deddfwriaethol a rheoliadol eraill megis cyfraith patentau neu’r Ddeddf Diogelu Data (1998) hefyd ddylanwadu ar gyfnodau cadw data ymchwil neu gofnodion cysylltiedig. Gall tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth y Brifysgol (infocompliance@aber.ac.uk) roi cyngor i chi am y cyfnodau hynny fel y bo’n briodol.

 

Dileu data

Os penderfynir dileu neu ddinistrio data ymchwil a chofnodion, naill ai am fod y cyfnod cadw penodedig wedi dod i ben neu am resymau cyfreithiol neu foesegol, dylid gwneud hynny’n unol â’r holl ofynion cyfreithiol a moesegol a gofynion cyllidwyr yr ymchwil a chydweithredwyr, gan roi sylw arbennig i gyfrinachedd a diogelwch. Gall tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth y Brifysgol roi cyngor i chi am hyn (infocompliance@aber.ac.uk).