Cydymffurfiaeth gyfreithiol

Hawliau Eiddo Deallusol

Yn amodol ar fuddiannau trydydd partïon megis partneriaid masnachol/cyllidwyr, mae data ymchwil sy’n cyd-fynd â gwaith ysgolheigaidd a gynhyrchir gan aelod o staff y Brifysgol yn eiddo i’r Brifysgol. Gweler Polisi Eiddo Deallusol Cyffredin Aberystwyth-Bangor i gael rhagor o fanylion.

Ar gyfer prosiectau lle mae mwy nag un partner, dylid cytuno ynghylch perchnogaeth hawliau eiddo deallusol (IPR) mewn cytundeb consortiwm. Gall Tîm Contractau a Pholisïau’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi roi cyngor i chi am hyn (drbi@aber.ac.uk).

 

Data trydydd parti

Os yw eich ymchwil yn defnyddio data wedi’i greu gan drydydd parti, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall telerau ac amodau perthnasol y drwydded ac yn cadw atynt. I gael cyngor am hyn, cysylltwch â’r Rheolwr Diogelu Data a Hawlfraint (infocompliance@aber.ac.uk).