Mewn Argyfwng Nawr?

Os oes gennych bryderon uniongyrchol am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch eraill, defnyddiwch y cysylltiadau isod i gael cymorth brys:

Mae diogelwch safle 24/7 Aberystwyth hefyd yn cynghori, os oes argyfwng, y dylech ffonio 999. Os yw'r gwasanaethau brys yn anfon uned ymateb, dylech hefyd hysbysu diogelwch y safle ar naill ai 01970 622649 neu 07889 596220 i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd.

Pan fyddwch wedi cael cymorth brys a bod y perygl uniongyrchol wedi mynd heibio, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr fel y gallwn eich helpu i reoli unrhyw effaith y mae'r sefyllfa wedi'i gael ar eich bywyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Lechyd Meddw

Os oes Argyfwng Iechyd Meddwl yn digwydd ac mae pryder ynglŷn â diogelwch, rydym ni'n argymell gofyn am gymorth cyn gynted â phosib. Teimlo'n nerfus neu'n amhendant? Bydd ein siartiau llif yn eich helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd yn yr argyfwng hwn.

Iechyd Meddwl Canllaw Poced (PDF)

 

Ymosodiadau Rhywiol

Am restr lawn o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Llwybrau Newydd yn y Canolbarth, y Gorllewin a’r De, ewch i'r dudalen Cysylltu â ni - Llwybrau Newydd ar y we. 

Mae SARC ar gael 24/7 ac maent ar gael ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Os penderfynwch fynd at yr heddlu, byddant yn cysylltu â'r ganolfan atgyfeirio agosaf i drefnu i chi ddod i'r adeilad. Fodd bynnag, os nad oes arnoch eisiasu mynd at yr heddlu, gallwch gyfeirio'ch hun at eich canolfan atgyfeirio agosaf.

Yn ystod oriau swyddfa, 9.00am tan 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9.00am a 4.30pm ar ddydd Gwener, ffoniwch 01685 379310, neu ffoniwch un o'r swyddfeydd lleol. Y tu hwnt i'r oriau hyn, gallwch ffonio’r llinell y tu hwnt i oriau arferol ar 07423437020.

Ystyriwch roi gwybod i'r Brifysgol am y digwyddiad

Os hoffech roi gwybod i’r Brifysgol am y digwyddiad, gallwch wneud hynny naill ai'n ddienw neu drwy roi eich manylion cyswllt ar ein llwyfan Adrodd a Chymorth ar-lein.

Os ydych yn fodlon rhoi mwy o fanylion am y digwyddiad a'ch manylion cyswllt, byddwn yn cysylltu’n ôl â chi a chewch eich cyfeirio at gymorth pellach gan ein swyddogion cyswllt sy’n arbenigo ym maes trais rhywiol ac sydd wedi cael hyfforddiant pwrpasol. Bydd y swyddogion hyn yn gallu  

  • Siarad drwy weithdrefnau Prifysgol Aberystwyth
  • Rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn
  • Rhowch gwybod i chi pa gefnogaeth sydd ar gael.

Cam-drin Domestig

Os ydych chi'n wynebu cam-drin domestig ac angen cymorth ar frys, gallwch gysylltu â llinell gymorth argyfwng Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru. Byddant yn gallu rhoi cyngor ichi ar yr opsiynau brys sydd ar gael i chi.

Efallai y byddwch hefyd am roi gwybod i'r Brifysgol am hyn gan ddefnyddio’r drefn Rhoi Gwybod a Chefnogaeth a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi i drafod yr opsiynau cymorth sydd ar gael i chi.

Gallwch hefyd gael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth gyfrinachol ynghylch cam-drin domestig neu drais rhywiol drwy linell gymorth Byw Heb Ofn sydd ar gael 24/7.