Ffurflen Cadw Lle - Llwyfan i’ch Lles

Bydd gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn cyflwyno digwyddiad byw lle gallwch ddysgu am Les yn y Brifysgol. Gallwch ymuno â’r digwyddiad wyneb yn wyneb, o bell neu wylio recordiad ohono. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am yr hyn y gwyddom ni ei fod yn gweithio’n dda i fyfyrwyr o ran ymdopi â’u lles, i’w helpu i ffynnu yn ystod eu profiad o’r brifysgol a’r tu hwnt, yn ogystal â’r holl ddewisiadau cymorth sydd ar gael i’n myfyrwyr i sicrhau y gallant gael gafael ar y cymorth cywir pryd bynnag y mae arnynt ei angen. Ceir cyflwyniad PowerPoint a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Mewngofnodi