Dyfodol Ôl-raddedigion

Myfyrwyr yn cael sgwrs a chwerthin

Rhaglen Cymorth Gyrfaoedd i Fyfyrwyr Ôl-raddedigion

Mae ein rhaglen dyfodol ôl-raddedigion yn cynnig cymorth gyrfaoedd i fyfyrwyr ôl-raddedig. Gallwch gael mynediad at ystod eang o gymorth gyrfaoedd trwy gydol eich astudiaethau a thu hwnt p'un a ydych newydd ddechrau eich gradd Meistr neu'n agosáu at ddiwedd eich PhD.

Archebwch sgwrs yrfaoedd ôl-raddedig

  • Ewch i'n canolfan gyrfaoedd i gael cyngor ar ysgrifennu CV, ceisiadau a chwestiynau cyflym. Cewch hyd i ni yn llyfrgell Hugh Owen, 10yb-4yp, yn ystod yr wythnos. Ddim yn yr ardal? Gallwch hefyd anfon e-bost i ni ar gyrfaoedd@aber.ac.uk
  • Archebwch sgwrs yrfaoedd ôl-raddedig gyda'n Cynghorydd Gyrfaoedd i Ôl-raddedigion am sgwrs fanylach am eich cynlluniau gyrfa neu i baratoi ar gyfer cyfweliad sydd ar ddod. Mae apwyntiadau am Sgyrsiau Gyrfaoedd i ôl-raddedigion ar gael bob bore dydd Gwener yn ystod y tymor (Mae apwyntiadau ar gael hefyd i staff ymchwil ôl-ddoethurol a all archebu trwy gysylltu â ni ar gyrfaoedd@aber.ac.uk)

Wyddoch chi, rydym hefyd yn cynnig ystod eang o apwyntiadau gyrfaoedd yn ystod yr wythnos gyda'n Cynghorwyr Gyrfaoedd. Archebwch ar ein porth GyrfaoeddABER.

  • Archebwch le ar unrhyw un o'n gweithdai gyrfaoedd, gan gynnwys ein gweithdai dyfodol ôl-raddedigion a restrir ar dudalennau digwyddiadau GyrfaoeddABER
  • Defnyddiwch CareerSet am adborth 24/7 ar eich CV neu llythyr cyflwyno
  • Defnyddiwch Shortlist.me i ymarfer cyfweliadau
  • Manteisiwch i'r eithaf ar y cymorth menter a gynigir gan FenterAber, p'un a oes gennych syniad busnes mewn golwg, eich bod yn meddwl am opsiynau llawrydd, neu yr hoffech ddysgu mwy am opsiynau hunangyflogaeth
  • Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau cyflogwyr, ffeiriau gyrfaoedd a mwy ar y porth GyrfaoeddABER

Adnoddau

  • Mae’r Academi Ddoethurol hefyd yn cynnig ystod o gymorth i ôl-raddedigion trwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar eu tudalennau gwe i gael rhagor o fanylion
  • Mae'r Brifysgol wedi tanysgrifio i'r Cynllunydd Datblygu Ymchwilwyr Vitae, sydd â chwrs ar-lein i ymdrin â phob cam yn y broses cynllunio datblygiad proffesiynol, wedi’i deilwra i fyfyrwyr ymchwil
  • Mae gan Jobs.ac.uk ystod o adnoddau ac mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gynllunio gyrfaol i fyfyrwyr PhD