Cychwyn eich Busnes / Menter Cymdeithasol eich Hun
Hoff o'r syniad o greu busnes neu fenter cymdeithasol eich hun? Mae bod yn hunan-gyflogedig yn opsiwn i chi tra'n fyfyriwr neu toc ar ôl graddio.
- Gall fod gennych syniad am fusnes ellir ei ddatblygu law yn llaw efo'ch astudiaethau.
- Efallai eich bod yn nesau at orffen eich gradd a hoffech fod yn fentrwr/wraig.
- I rhai meysydd gwaith mae'n ofynol bod yn hunan-gyflogedig er mwyn gweithredu.
- Fel myfyriwr gallech fod yn fentrus drwy gychwyn cymdeithas neu glwb newydd.
- Efallai hoffech dynnu amryw o unigolion at ei gilydd i gychwyn menter cymdeithasol sydd yn agos at eich calonnau.
Beth bynnag fo'ch lefel o ystyriaeth am hunan-gyflogaeth gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd helpu drwy gynnig cyngor a chymorth ar bob agwedd o gychwyn busnes neu fenter drwy law ein gwasanaethau AberPreneurs, sydd yn cynnig:
- Gweithdai a chyflwyniadau ar gychwyn busnes yn rhad ac am ddim ar y campws.
- Mentora cychwyn busnes un-i-un gan ymgyhghorydd busnes proffesiynol yn rhad ac am ddim.
- InvEnterPrize - gwobr flynyddol Prifysgol Aber werth £10,000.
- Wythnos Cychwyn Busens - wythnos gyfan, bob Mehefin, o weithdai a chyflwyniadau i ddarpar entreprenwriaid.
Am fwy o wybodaeth ewch i tudalen .