Prosiect Myfyrwyr Mind Aberystwyth

Dros y 12 mis nesaf bydd yr elusen iechyd meddwl Mind Aberystwyth yn cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i weld pa wasanaethau y gallai myfyrwyr fod am i ni eu cynnig drwy Brosiect Myfyrwyr Mind Aberystwyth.

Mae mwy nag un elfen i'r prosiect. Yn gyntaf, byddwn yn sefydlu Grŵp Llywio Myfyrwyr a fydd yn cynnwys Llysgenhadon Lles Myfyrwyr, ac a gadeirir gan Weithiwr Prosiect. Bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod anghenion lles myfyrwyr, rhannu syniadau, sylwadau ac adborth, helpu i gynnal digwyddiadau a dylunio a threialu gwasanaethau.

Yn ail, byddwn yn treialu amrywiaeth o ymyriadau a gweithgareddau, wedi'u harwain gan y Grŵp Llywio, megis sesiynau celf a chrefft, gemau a sesiynau galw heibio. Byddwn hefyd yn treialu sesiynau 'Paned a sgwrs' un-i-un cyfyngedig lle gall myfyrwyr drafod materion sy’n eu hwynebu yn eu bywydau o fewn cyd-destun academaidd ac yn ehangach.

Yn drydydd, defnyddir y data a gesglir yn ystod y deuddeg mis hyn i lunio adroddiad ar yr hyn y mae myfyrwyr ei eisiau a'i angen gan elusen iechyd meddwl fel Mind Aberystwyth. Yna, defnyddir hyn fel tystiolaeth i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau pellach yn y dyfodol.

Dylid pwysleisio bod y prosiect hwn yn ymarfer dysgu sy’n ceisio gweld beth yw anghenion myfyrwyr trwy ddull sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gan sicrhau bod y data a gasglwn yn dod yn uniongyrchol oddi wrth y myfyrwyr eu hunain. Bydd gwasanaethu ar y Grŵp Llywio yn ffordd wych i fyfyrwyr gymryd perchnogaeth o'r gweithgareddau y byddwn yn eu treialu, gan feithrin eu hyder a helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a brwydro yn erbyn stigma.