Ymadael yn Gynnar

Ffioedd Dysgu

Ar ôl i fyfyrwyr ymadael yn swyddogol o raglen astudio, mae’n bosibl y byddent yn gymwys am ostyngiad yn y Ffioedd Dysgu am y flwyddyn academaidd honno.  Cyfrifir y gostyngiad yn ôl dyddiad swyddogol yr ymadael. Gweler y siart isod am 2025/26.

Blaendaliadau rhyngwladol: Ni ellir ad-dalu blaendaliadau sy'n ofynnol gan fyfyrwyr rhyngwladol sy'n talu ffioedd cyn cofrestru os yw myfyriwr yn dewis tynnu'n ôl o raglen astudio cyn neu ar ôl cofrestru.

DYDDIAD YMADAEL

% o'r ffi sydd angen ei dalu

Tymor 1 - Rhwng Medi 22ain 2025 a 5ed o Hydref 2025

 0%

Tymor 1 - Rhwng 6ed o Hydref 2025 a 4ydd o Ionawr 2026

 25%

Tymor 2 – Rhwng y 5ed o Ionawr 2026 a'r 19eg o Ebrill 2026

 50%

Tymor 3 - Rhwng yr 20fed o Ebrill 2026 a'r 29ain o Mai 2026

 100%

 Os bydd myfyriwr yn ymadael y Brifysgol ac wedi gwneud cais am Grant/Benthyciad ar gyfer y Ffioedd Dysgu, yna Cyllid Myfyrwyr fydd yn gyfrifol am yr atebolrwydd Ffioedd yn yr achos hwn. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ymadael â’r Brifysgol ac yn talu’n breifat, bydd anfoneb neu ad-daliad yn cael ei anfon at y cyfeiriad cartref yn dibynnu ar yr hyn a dalwyd hyd at y dyddiad ymadael.  Mae hyn yn berthnasol i’r rhan fwyaf o gategorïau myfyrwyr llawn amser a rhan-amser, ond cysylltwch â fees@aber.ac.uk os dymunwch eglurhad pellach.

Ffioedd Llety

Ar ôl i gynnig o le yn llety’r Brifysgol gael ei dderbyn, bydd y myfyriwr yn atebol i dalu’r ffioedd sy'n ddyledus am gyfnod cyfan y cytundeb. Dim ond ar sail feddygol, lles neu academaidd cymeradwy y gall y Swyddfa Academaidd ganiatáu rhyddhau myfyriwr o’r contract. Fodd bynnag, hyd yn oed yn yr achosion hynny mae’r myfyriwr yn dal yn atebol i dalu’r ffi sy’n ddyledus am y cyfnod y buont yn byw yn y llety, neu’n gyfrifol am y llety, a chyfrifir y ffi hon ar gyfradd ddyddiol.

Bydd myfyrwyr sydd wedi gordalu ar ôl ymadael yn derbyn ad-daliad. 

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Ymadael, ewch i’r adran Cwestiynau a Holir yn Aml ynghylch Ymadael ar wefan Cymorth i Fyfyrwyr.