Polisi Casglu Dyledion Teg i Fyfyrwyr
Diben y polisi hwn yw sicrhau bod symiau sy’n ddyledus i’r Brifysgol yn cael eu casglu’n brydlon ac ar yr un pryd sicrhau ymagwedd deg, gymesur a chyson at adennill symiau na chânt eu talu pan fyddant yn ddyledus. Mae casglu arian yn brydlon yn hanfodol ar gyfer darparu’r adnoddau ariannol sydd eu hangen ar y Brifysgol i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau er budd myfyrwyr.
Bydd y Brifysgl yn mabwysiadu gweithdrefnau casglu safonedig sy’n annog myfyrwyr i dalu’n brydlon. Fodd bynnag, os yw myfyriwr yn methu ag anrhydeddu cytundeb i dalu, caiff camau cymesur a theg eu cymryd i annog setlo’r ddyled ac i atal eraill rhag gwneud yr un peth. Bydd hyn yn cynnwys gosod cosbau cyfatebol, cyfeirio’r ddyled at asiantau casglu allanol ac fel dewis olaf, cymryd camau drwy’r llysoedd i adennill y ddyled.
Cymorth i Fyfyrwyr
Wrth weithredu’r polisi hwn, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio cydymdeimlo ag amgylchiadau ariannol myfyrwyr unigol. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, rhaid i fyfyrwyr gyfathrebu â’r Brifysgol os ydynt yn profi anawsterau ariannol.
Dylai myfyrwyr sy’n ei chael yn anodd talu unrhyw ffioedd a chostau geisio cyngor ac arweiniad ariannol ar y cyfle cynharaf bosibl drwy gysylltu â’r canolynol:
Y Swyddfa Ffioedd
Ebost - fees@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 622043
Yn bersonol ar ail lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrywr.
Y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian
Ebost - student-adviser@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 621761 / 622087
Yn bersonol yn y dderbynfa ar lawr daear y Ganolfan Croesawu Myfyrywr.
Undeb y Myfyrwyr - i gael cyngor annibynnol, diduedd am ddim
Ebost - union.advice@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 621700
Gwe - www.abersu.co.uk/advice/
Yn bersonol yn y dderbynfa yn yr Undeb.
Y Swyddfa Ryngwladol – Tîm Cymorth Fisa a Chydymffurfio
Ebost - compliance@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 622948
Yn bersonol yn Adeilad Cledwyn.
Myfyrwyr Bregus
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai myfyrwyr wrth ymdrin â’u materion ariannol a bydd yn ceisio nodi rhwystrau posibl a achosir gan systemau’r Brifysgol a allai gael effaith negyddol ar allu myfyriwr i ymgysylltu â’n gwasanaethau.
Nid yw bod yn fregus yn golygu na fydd gofyn i fyfyriwr dalu’r symiau sy’n ddyledus. Fodd bynnag, os cydnabyddir bod unigolyn y fregus a bod y Swyddfa Ffioedd yn ymwybodol o hyn, caiff gofal arbennig ei gymryd wrth ystyried atgyfeirio at asiantau casglu dyledion allanol.
Y Drefn Gwyno
Bwriad y polisi hwn yw trin pob myfyriwr yn deg ac yn gyson. Fodd bynnag dylid cyfeirio cwynion am unrhyw agwedd o’r broses casglu dyledion yn unol ag adran 14 o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Cysylltu
Caiff dogfennau ffurfiol fel anfonebau, nodiadau credyd, datganiadau a nodiadau atgoffa fel arfer eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost y myfyriwr. Er mwyn sicrhau bod modd cysylltu â’r myfyriwr gall y brifysgol hefyd gysylltu â myfyrwyr gan ddefnyddio:
- unrhyw rif ffôn a ddarperir gan y myfyriwr
- unrhyw gyfeiriad ebost amgen a ddarperir gan y myfyriwr
- drwy lythyr i gyfeiriad tymor a/neu gartref a ddarperir gan y myfyriwr.
Os yw’r dulliau uchod yn rhwystro myfyrwyr rhag derbyn a deall gohebiaeth, rhowch wybod i ni am eich heriau cyn gynted â phosibl a bydd y Brifysgol yn ceisio darparu gwybodaeth mewn fformat priodol a hygyrch.
Ffioedd Dysgu
Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu’r ffioedd dysgu llawn wrth gofrestru ar raglen astudio.
Mae pobl myfyriwr yn parhau’n atebol yn unigol am yr holl ffioedd, dyledion a thaliadau eraill sy’n daladwy i’r Brifysgol ar ei ran/rhan. Nid yw’r ffaith fod noddwr wedi hysbysu am fwriad i dalu ffioedd ar ran myfyriwr yn effeithio ar y cyfrifoldeb unigol hwn.
Sut i Dalu
Opsiwn 1: Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu Fenthyciad Ffioedd Dysgu SAAS
Os oes gan fyfyriwr o’r DU neu’r UE gadarnhad o ddyfarniad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu SAAS sy’n cwmpasu’r holl ymrwymiad ffioedd dysgu, bydd y Brifysgol yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r cyrff hyn i sicrhau taliad ganddynt ar ran y myfyriwr.
Cynghorir myfyrwyr yn gryf i ymgeisio am gyllid ar y cyfle cyntaf posibl er mwyn lleihau’r risg o beidio â chael cyllid erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd ddilynol fel arfer yn agor ym mis Mawrth. Y ffordd hawsaf i ymgeisio yw ar-lein. Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi lofnodi a dychwelyd y datganiad benthyciad.
Rhaid cyflwyno cais ar gyfer pob blwyddyn astudio.
Opsiwn 2: Noddwr
Os yw’r myfyriwr wedi sicrhau nawdd ar gyfer yr holl ffi neu ran o’r ffi sy’n ddyledus, mae’n bwysig fod prawf o nawdd yn cael ei ddarparu cyn cofrestru. Os na chaiff prawf ei ddarparu, bydd y myfyriwr yn atebol am y ffi gyflawn ac yn ddarostyngedig i’r opsiynau safonol ar gyfer talu ffioedd dysgu ar sail hunan-ariannu.
Os bydd noddwr yn diffygdalu, bydd cyfrifoldeb am dalu’r ffioedd yn dychwelyd i’r myfyriwr.
Opsiwn 3: Hunan-ariannu – talu’n llawn
Gall myfyrwyr sy’n dymuno talu eu ffioedd dysgu’n llawn wneud hynny ar-lein: https://epayments.aber.ac.uk/student
Gellir hefyd talu yma trwy defnyddio TransferMate a Flywire.
Gellir gwneud trosglwyddiadau banc rhyngwladol hefyd drwy un o’n partneriaid: “Pay to Study” neu “Western Union Business Solutions”.
Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/undergraduate-uk/tuition-fees/how-to-pay/ am ragor o fanylion.
Opsiwn 4: Hunan-ariannu – Talu mewn rhandaliadau
Gellir talu ffioedd dysgu mewn uchafswm o dri rhandaliad drwy ein llwyfan taliadau ar-lein https://epayments.aber.ac.uk/student. Ni fyddwch yn agored i dalu unrhyw daliadau ychwanegol na llog os ydych chi’n dewis yr opsiwn talu hwn. Bydd y taliad cyntaf yn ddyledus ddechrau mis Hydref gyda’r ddau daliad arall ar ddechrau’r tymhorau dilynol.
Talu ar-lein yw’r unig ddull sydd ar gael ar gyfer talu Ffioedd Dysgu mewn rhandaliadau. Mae pob math arall o dalu’n golygu talu’n llawn.
Os yw taliadau’n methu neu os oes ôl-ddyledion blaenorol gall y Brifysgol dynnu’r opsiwn o dalu mewn rhandaliadau’n ôl.
Ffioedd Llety
Wrth dderbyn cynnig o le mewn llety Prifysgol mae myfyriwr yn sefydlu contract rhwymol i feddiannu’r lle hwnnw am sesiwn lawn oni nodir yn wahanol. Yna bydd y myfyriwr yn atebol i dalu’r ffioedd ar gyfer holl gyfnod y drwydded. Os oes eithriadau wedi’u gwneud sy’n caniatáu i fyfyriwr adael ar sail feddygol neu les cymeradwy, mae’r myfyriwr yn parhau’n rhwym i dalu’r ffioedd am yr holl gyfnod y bu’n preswylio neu’n gyfrifol mewn ffordd arall am y llety.
Mae derbyn lle yn llety’r Brifysgol yn rhwymo’r myfyriwr i gydymffurfio ym mhob ffordd â’r telerau ac amodau deiliadaeth a geir yn y Cytundeb Trwydded Llety ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i fynnu y caiff unrhyw symiau dyladwy eu talu ar unwaith er gwaethaf unrhyw gytundeb i dalu mewn rhandaliadau.
Un o amodau’r drwydded sy’n caniatáu derbyn myfyriwr i lety’r Brifysgol yw y caiff yr holl ffioedd llety eu talu erbyn y dyddiad dyladwy.
Sut i dalu
Opsiwn 1: Talu mewn rhandaliadau
Fel rhan o’ch proses Pecyn Trwydded Llety bydd gofyn i chi dalu blaendal sy'n cyfartal a un wythnos o rent gyda cherdyn credyd/debyd. Mae’r ospiynau safonol yn amrywio o 1 i 3 rhandaliad. Dyma’r unig ddull talu sydd ar gael lle gellir taenu’r gost ar draws y flwyddyn academaidd.
Opsiwn 2: Talu’n llawn
Gall myfyrwyr sy’n dymuno talu eu ffioedd llety’n llawn wneud hynny fel rhan o’r Pecyn Trwydded Llety drwy ddewis y taliad sengl.
Gellir talu’n llawn hefyd drwy drosglwyddiad banc neu’n bersonol yn y Swyddfa Ffioedd ar ail lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Cynghorir myfyrwyr i beidio â chludo symiau mawr o arian parod gyda nhw.
Gellir gwneud trosglwyddiadau banc rhyngwladol hefyd drwy un o’n partneriaid: “Pay to Study” neu “Western Union Business Solutions”.
Gweler https://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/undergraduate-uk/accommodation-fees/how-to-pay/ am ragor o fanylion.
Ymadael yn Gynnar
Ffioedd Dysgu
Unwaith y bydd myfyriwr wedi tynnu’n ôl yn swyddogol o raglen astudio, gallai fod yn gymwys i gael gostyngiad yn y Ffioedd Dysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd honno. Cyfrifir y gostyngiad ar sail y dyddiad ymadael swyddogol a gymhwysir i’r cofnod myfyriwr.
Dyddiad Tynnu’n Ôl |
% o’r Ffi Ddyladwy* |
Tymor 1 - Rhwng Medi 23ain 2024 a 6ed o Hydref 2024 |
0% |
Tymor 1 - Rhwng 7fed o Hydref 2024 a 5ed o Ionawr 2025 |
25% |
Tymor 2 – Rhwng y 6ed o Ionawr 2025 a'r 27ain o Ebrill 2025 |
50% |
Tymor 3 - Rhwng yr 28ain o Ebrill 2025 a'r 31ain o Fai 2025 |
100% |
*Mae hyn yn gymwys i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs rhan amser a llawn amser (gan gynnwys MPhil).
Os yw myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol ac wedi ymgeisio am Grant/Benthyciad Ffioedd Myfyriwr, bydd Cyllid Myfyrwyr yn ymgymryd â’r atebolrwydd Ffioedd yn yr achos hwn. Fodd bynnag os yw myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol ac yn talu’n breifat, caiff naill ai anfoneb neu ad-daliad ei anfon i’r cyfeiriad cartref gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi’i dalu hyd at y pwynt ymadael.
Os yw myfyriwr yn ystyried tynnu’n ôl o’r Brifysgol, mae’n bwysig eu bod yn cysylltu â’r Swyddfa Ffioedd i ddeall goblygiadau ariannol llawn gwneud hynny. Os yw’n tynnu’n ôl dros dro neu os yw’r myfyriwr yn trosglwyddo i brifysgol arall, bydd y Swyddfa Ffioedd yn gallu cynghori ar unrhyw gyfyngiadau posibl ar gyllid neu gymorth myfyriwr yn y dyfodol.
Ffioedd llety
Unwaith y bydd y cynnig o le yn llety’r Brifysgol wedi’i dderbyn, mae myfyrwyr yn atebol i dalu’r ffioedd ar gyfer holl gyfnod y drwydded. Dim ond y Swyddfa Llety sy’n gallu cymeradwyo rhyddhau o’r contract, a hynny ar sail feddygol, lles neu academaidd. Fodd bynnag, mae’r myfyrwyr hynny’n parhau’n atebol i dalu’r ffioedd am yr holl gyfnod y buont yn preswylio neu’n gyfrifol mewn ffordd arall am y llety. Cyfrifir y ffi hon ar sail ddyddiol gymesur.
Os yw myfyriwr wedi gordalu pan fydd yn tynnu’n ôl, bydd yn derbyn ad-daliad.
Diffyg talu
Os oes gan fyfyrwyr ffioedd a thaliadau sy’n orddyledus i’r Brifysgol, bydd y Brifysgol yn dechrau prosesau adennill dyled:
- Os nad yw anfoneb am ffioedd neu daliadau wedi’i thalu erbyn y dyddiad dyladwy.
- Os nad oes taliad sy’n unol â chynllun rhandaliadau a gytunir yn cael ei dderbyn.
Ffocws y broses adennill dyledion fydd cyfathrebu cyn gynted â phosibl gyda myfyrwyr sy’n profi anawsterau ariannol er mwyn gallu datrys y ddyled mewn ffordd sy’n bodloni pawb. Dylai mfyrwyr sy’n profi anawsterau wrth dalu unrhyw ffioedd a thaliadau geisio cyngor neu arweiniad ariannol ar y cyfle cyntaf posibl drwy gysylltu â’r canlynol:
Y Swyddfa Ffioedd
Ebost - fees@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 622043
Yn bersonol ar ail lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrywr.
Y Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian
Ebost - student-adviser@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 621761 / 622087
Yn bersonol yn y dderbynfa ar lawr daear y Ganolfan Croesawu Myfyrywr.
Undeb y Myfyrwyr - i gael cyngor annibynnol, diduedd am ddim
Ebost - union.advice@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 621700
Gwe - www.abersu.co.uk/advice/
Yn bersonol yn y dderbynfa yn yr Undeb.
Y Swyddfa Ryngwladol – Tîm Cymorth Fisa a Chydymffurfio
Ebost - compliance@aber.ac.uk
Ffôn - (01970) 622948
Yn bersonol yn Adeilad Cledwyn.
Os yw myfyriwr yn methu ag anrhydeddu cytundebau i dalu, caiff camau cymesur a theg i annog setlo’r ddyled eu cymryd. Gallai hyn gynnwys gosod cosbau cyfatebol fel a ganlyn:
Dyled Ffioedd Dysgu
- Tynnu cyfleusterau cyfrifiadur a llyfrgell yn ôl h.y. mynediad at eich ebost, Blackboard a benthyg llyfrau o lyfrgelloedd y Brifysgol*,
- Colli’r hawl i symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf*,
- Colli’r hawl i dderbyn eich gradd,
- Colli’r hawl i ddod i’r seremoni raddio,
- Diddymu cofrestriad yn y Brifysgol*,
- Atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
- Cymryd camau drwy’r Llysoedd i adennill dyledion. Bydd dyfarniad llys yn effeithio’n ddifrifol ar eich statws credyd gan ei gwneud yn anodd i chi gael credyd, contract ffôn symudol, morgais ac ati yn y dyfodol.
* Myfyrwyr Rhyngwladol Haen 4 – mae peidio â chael mynediad at gyfleusterau rhwydwaith oherwydd dyled i’r Brifysgol yn peryglu eich statws Haen 4 a gallai arwain at fonitro presenoldeb ac ymgysylltu problematig y byddwch chi (y myfyriwr Haen 4) yn gwbl gyfrifol amdano. Os caiff eich presenoldeb ei ystyried yn broblematig a bod camau’n cael eu cymryd yn ôl ein Polisi Presenoldeb ac Ymgysylltu Haen 4, ni fyddwch yn gallu ei gyfiawnhau ar y sail nad ydych chi wedi cael mynediad at y cyfleusterau rhwydwaith gan fod disgwyl i chi:
- naill ai ddatrys y broblem ddyled cyn i hyn effeithio ar eich presenoldeb a’ch ymgysylltu â’ch cwrs
- neu wneud trefniadau gwahanol gyda’ch adran academaidd sy’n profi eich presenoldeb a’ch ymgysylltiad.
Mae colli’r hawl i symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf a diddymu eich cofrestriad yn y Brifysgl yn effeithio’n uniongyrchol ar eich statws Haen 4 gan y byddai’n golygu bod y Brifysgol yn tynnu eich nawdd Haen 4 yn ôl. Rhaid i’r Brifysgol adrodd i Fisas a Mewnfudo’r DU os caiff unrhyw nawdd Haen 4 ei dynnu’n ôl, a bydd hyn yn arwain at gwtogi Fisa Haen 4 y myfyriwr. Rhaid i’r myfyriwr adael y DU er mwyn peidio ag aros tros amser, sy’n drosedd.
Dyled Ffioedd Llety
- Colli’r hawl i dderybn unrhyw lety pellach gan y Brifysgol,
- Atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol,
- Cymryd camau drwy’r Llysoedd i adennill dyledion. Bydd dyfarniad llys yn effeithio’n ddifrifol ar eich statws credyd gan ei gwneud yn anodd i chi gael credyd, contract ffôn symudol, morgais ac ati yn y dyfodol.
Dyledion Amrywiol Eraill
- Tynnu’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau’n ôl h.y. bydd dyled i’r ganolfan chwaraeon yn golygu colli mynediad at y ganolfan chwaraeon ac ati,
- Atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol,
- Cymryd camau drwy’r Llysoedd i adennill dyledion. Bydd dyfarniad llys yn effeithio’n ddifrifol ar eich statws credyd gan ei gwneud yn anodd i chi gael credyd, contract ffôn symudol, morgais ac ati yn y dyfodol.
Nodwch os oes gan unrhyw fyfyriwr ddyled i’r Brifysgol, y gellir dal unrhyw gymrodoriaeth, efrydiaeth, ysgoloriaeth, bwrsariaeth neu wobr a ddyfarnwyd gan y Brifysgol yn ôl. Gellir gosod gwerth y dyfarniad yn erbyn y ddyled yn llawn neu’n rhannol heb ymgynghori.
Y Broses Adennill Dyled
Bydd y Brifysgol yn sefydlu prosesau amserol a thrylwyr ar gyfer adennill symiau sy’n orddyledus a bydd yn dechrau ar y broses adennill pan fydd taliad yn orddyledus neu pan na fydd trefniant talu’n cael ei gadw.
Bydd y Brifysgol yn cyfathrebu gan ddefnyddio:
- cyfeiriad ebost prifysgol y myfyriwr,
- unrhyw rif ffôn a ddarperir gan y myfyriwr
- unrhyw gyfeiriad ebost amgen a ddarperir gan y myfyriwr
- drwy lythyr i gyfeiriad tymor a/neu gartref a ddarperir gan y myfyriwr.
Os yw’r dulliau uchod yn rhwystro myfyrwyr rhag derbyn a deall gohebiaeth, rhowch wybod i ni am eich heriau cyn gynted â phosibl a bydd y Brifysgol yn ceisio darparu gwybodaeth mewn fformat priodol a hygyrch.
Ffioedd Dysgu
Os yw ffioedd yn parhau’n orddyledus a bod dim cynllun rhandalu wedi’i gytuno, neu os oes rhandaliad wedi methu, bydd y gyfres ganlynol o ohebiaeth yn cael ei hanfon. Bydd yr ohebiaeth yn rhoi rhybudd am y camau a gaiff eu cymryd a bydd yn parhau hyd nes bydd y ddyled wedi’i setlo neu bod cytundeb wedi’i wneud i’w datrys. Os oes trefniant i dalu wedi’i wneud ond nad oes taliad wedi’i dderbyn yn unol â’r cytundeb, bydd camau i orfodi talu yn ailddechrau ar unwaith yn dilyn diffygdalu’r ddyled. Os yw dyledwr wedi methu â gwneud taliadau fel y cytunir ni chaiff trefniadau talu pellach eu hystyried fel arfer oni bai bod amgylchiadau’r dyledwr wedi newid. Dylai unrhyw un sy’n profi anhawster o ran gwneud taliadau dan drefniant talu oherwydd newid mewn amgylchiadau gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd cyn gynted â’u bod yn profi anhawster.
- Anfon gohebiaeth yn gofyn am daliad cyflawn neu gynllun talu.
- Anfon gohebiaeth gyda gwahoddiad i ddod i sesiwn galw heibio a chyfeiriad at osod cosbau dysgu posibl.
- Gohebiaeth yn hysbysu am osod cosbau dysgu h.y. tynnu cyfleusterau rhwydwaith yn ôl. Rhennir rhestr o ddyledwyr gyda chysylltiadau dynodedig mewn Sefydliadau ac Adrannau Gwasanaeth.
Cosb
Tynnu cyfleusterau cyfrifiadur a llyfrgell yn ôl h.y. mynediad at eich ebost, Blackboard a benthyg llyfrau o lyfrgelloedd y Brifysgol
- Gohebiaeth yn cadarnhau bod cosbau dysgu wedi’u gosod a hysbysu am gosbau pellach posibl (gweler adran 11).
- Gohebiaeth yn cadarnhau bod cosbau dysgu wedi’u gosod a chyfeirio at gosbau pellach posibl (gweler adran 11).
- Gohebiaeth yn atgyfnerthu cosbau dysgu pellach a chyfeirio at y posibilrwydd o atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
- Gohebiaeth eto’n atgyfnerthu cosbau dysgu pellach a chyfeirio at y posibilrwydd o atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
- a) Gohebiaeth i fyfyrwyr sy’n graddio yn hysbysu am osod cosbau dysgu (methu â graddio neu ddod i’r seremoni) a chyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
b) Gohebiaeth i fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn hysbysu am osod cosbau dysgu (methu â chofrestru ar y flwyddyn academaidd nesaf).
Cosb
Myfyrwyr sy’n Graddio - Colli’r hawl i fynd i’r seremoni raddio a derbyn gradd hyd nes y bydd y ddyled wedi’i datrys.
Myfyrwyr sy’n dychwelyd - Colli’r hawl i symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd nesaf hyd nes y bydd y ddyled wedi’i datrys.
- Gohebiaeth i fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn atgyfnerthu’r rhybudd o weithredu cosb dysgu (methu â chofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf).
- Gohebiaeth i fyfyrwyr sy’n dychwelyd gyda rhybudd terfynol o weithredu cosb dysgu (methu â chofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf).
Cosb
Os yw’r swm sy’n ddyledus yn parhau heb ei dalu ar ddiwedd y broses hon heb fod trefniant addas wedi’i wneud, caiff y ddyled ei chyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol y Brifysgol. Unwaith i’r ddyled gael ei throsglwyddo bydd yr holl ohebiaeth mewn perthynas â’r ddyled yn dod oddi wrth yr asiantaeth, a dylid cyfeirio pob gohebiaeth at yr asiantaeth. Os bydd y diffygdalu’n parhau yn y pen draw bydd yn arwain at gymryd camau drwy’r llys i adennill y ddyled. Os yw casglu’r symiau sy’n ddyledus yn golygu costau ychwanegol i’r Brifysgol dylai’r unigolyn sydd â’r ddyled fod yn gyfrifol am dalu’r gost lawn yr eir iddi i adennill y swm. Felly, bydd y Brifysgol yn ceisio adennill yr holl gostau neu ffioedd sy’n ddyledus yn gyfreithlon gan ddyledwr. Bydd unrhyw gostau neu ffioedd yn rhesymol ac yn adlewyrchu’r gwir gost yr eir iddi.
Os digwydd i’r ddyled ddechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd oherwydd methu â thalu’r ail neu’r trydydd rhandaliad, cerdyn wedi dod i ben neu unrhyw reswm arall, efallai na fydd yn ymarferol i anfon yr holl gamau gohebiaeth uchod. Fodd bynnag, ym mhob achos caiff rhybudd llawn a theg ei roi cyn gosod unrhyw gosbau ac atgyfeirio at asiantau casglu dyledion.
Ffioedd Llety
Os yw ffioedd yn parhau’n orddyledus a bod dim cynllun rhandalu wedi’i gytuno, neu os oes rhandaliad wedi methu, bydd y gyfres ganlynol o ohebiaeth yn cael ei hanfon. Bydd yr ohebiaeth yn rhoi rhybudd am y camau a gaiff eu cymryd a bydd yn parhau hyd nes bydd y ddyled wedi’i setlo neu bod cytundeb wedi’i wneud i’w datrys. Os oes trefniant i dalu wedi’i wneud ond nad oes taliad wedi’i dderbyn yn unol â’r cytundeb, bydd camau i orfodi talu yn ailddechrau ar unwaith yn dilyn diffygdalu’r ddyled. Os yw dyledwr wedi methu â gwneud taliadau fel y cytunir ni chaiff trefniadau talu pellach eu hystyried fel arfer oni bai bod amgylchiadau’r dyledwr wedi newid. Dylai unrhyw un sy’n profi anhawster o ran gwneud taliadau dan drefniant talu oherwydd newid mewn amgylchiadau gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd cyn gynted â’u bod yn profi anhawster.
- Anfon gohebiaeth yn gofyn am daliad llawn neu gynllun talu.
- Anfon gohebiaeth gyda gwahoddiad i ddod i sesiwn galw heibio.
- Gohebiaeth ac atgyfeiriad at y Rheolwr Trwyddedu oherwydd tramgwyddo’r drwydded o bosibl. Rhennir rhestr o ddyledwyr gyda Gwasanaethau’r Campws a Chymorth Myfyrwyr.
- Gohebiaeth yn rhoi rhybudd am osod cosbau llety (gweler adran 12) a chyfeirio at y posibilrwydd o atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
Cosb
Colli’r hawl i dderbyn unrhyw lety pellach gan y Brifysgol.
Cadw’r blaendal llety.
- Gohebiaeth yn cadarnhau bod cosbau llety wedi’u gosod a chyfeirio at y posibilrwydd o atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol. Rhennir rhestr o ddyledwyr gyda Gwasanaethau’r Campws a Chymorth Myfyrwyr.
- Gohebiaeth yn atgyfnerthu’r posibilrwydd o atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol. Rhennir rhestr o ddyledwyr gyda Gwasanaethau’r Campws a Chymorth Myfyrwyr. Cymeradwyaeth wedi’i cheisio gan y Grŵp Gweithredol ar gyfer cyfeirio dyledwyr at asiantaeth casglu dyledion allanol.
- Gohebiaeth yn hysbysu am atgyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol.
Cosb
Os yw’r swm sy’n ddyledus yn parhau heb ei dalu ar ddiwedd y broses hon heb fod trefniant addas wedi’i wneud, caiff y ddyled ei chyfeirio at asiantaeth casglu dyledion allanol y Brifysgol. Unwaith i’r ddyled gael ei throsglwyddo bydd yr holl ohebiaeth mewn perthynas â’r ddyled yn dod oddi wrth yr asiantaeth, a dylid cyfeirio pob gohebiaeth at yr asiantaeth. Os bydd y diffygdalu’n parhau yn y pen draw bydd yn arwain at gymryd camau drwy’r llys i adennill y ddyled. Os yw casglu’r symiau sy’n ddyledus yn golygu costau ychwanegol i’r Brifysgol dylai’r unigolyn sydd â’r ddyled fod yn gyfrifol am dalu’r gost lawn yr eir iddi i adennill y swm. Felly, bydd y Brifysgol yn ceisio adennill yr holl gostau neu ffioedd sy’n ddyledus yn gyfreithlon gan ddyledwr. Bydd unrhyw gostau neu ffioedd yn rhesymol ac yn adlewyrchu’r gwir gost yr eir iddi.
Os digwydd i’r ddyled ddechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd oherwydd methu â thalu’r ail neu’r trydydd rhandaliad, cerdyn wedi dod i ben neu unrhyw reswm arall, efallai na fydd yn ymarferol i anfon yr holl gamau gohebiaeth uchod. Fodd bynnag, ym mhob achos caiff rhybudd llawn a theg ei roi cyn gosod unrhyw gosbau ac atgyfeirio at asiantau casglu dyledion.
Diffiniadau
Mae’r diffiniadau canlynol yn gymwys at ddiben y Polisi hwn mewn perthynas â’r termau a ddangosir isod.
- Dyled – at ddibenion y polisi hwn defnyddir y term ‘dyled’ i gyfeirio at swm sy’n daladwy i’r Brifysgol
- Dyledwr – at ddibenion y polisi hwn defnyddir y term ‘dyledwr’ i gyfeirio at unigolyn y mae arno swm o arian i’r Brifysgol
- Noddwr - at ddibenion y polisi hwn defnyddir y term ‘noddwr’ i gyfeirio at unigolyn neu sefydliad sydd wedi ymrwymo i dalu ffioedd ar ran myfyriwr yn uniongyrchol i’r Brifysgol. Mae atebolrwydd am yr holl ffioedd yn aros gyda’r myfyriwr os bydd noddwr yn diffygdalu.
- Asiantaeth Casglu Dyledion - at ddibenion y polisi hwn defnyddir y term ‘asiantaeth casglu dyledion’ i gyfeirio at gwmni sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth ac sy’n arbenigo mewn casglu dyledion pan fydd y Brifysgol wedi methu â gwneud hynny,
Person Bregus – at ddibenion y polisi hwn defnyddir y term ‘person bregus’ i gyfeirio at berson sydd yn cael anhawster eithriadol i ddelio â thalu ffioedd a/neu gostau oherwydd amgylchiadau personol ac sydd angen cymorth ychwanegol wrth ddelio â ffioedd a/neu gostau er mwyn cyflawni ei ymrwymiad ariannol. Mae Prifysgol Aberystwyth felly’n mabwysiadu diffiniad eang o unigolion bregus a chaiff pob achos ei benderfynu ar ei rinweddau ei hun; efallai y bydd gofyn am ragor o wybodaeth lle bo’n briodol.