Ystafell gyfrifiaduron

Mae ymrwymiad i e-ddysgu yn flaenoriaeth uchel yn Aberystwyth lle mae dysgu ac arholiadau ar-lein yn rhan allweddol o’r cwricwlwm yn llawer o’r adrannau academaidd. Oherwydd hyn darperir ystafelloedd cyfrifiadura ar gampws Penglais i hwyluso darlithoedd, gweithdai a gweithgareddau hyfforddi lle mae angen i’r dosbarth cyfan gael mynediad i gyfrifiaduron. Mae’r ystafelloedd cyfrifiadura mwyaf ar gampws Penglais wedi’u lleoli’n agos i adrannau Chyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg, Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a’r adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (DGES). Fodd bynnag, mae myfyrwyr a staff yn rhannu mynediad i’r ystafelloedd hyn ac mae  llawer o adeiladau eraill y brifysgol yn cynnwys eu gweithfannau cyfrifiaduron eu hunain, gan gynnwys y weithfan gyfrifiaduron 70 sedd newydd yng Nghanolfan Llanbadarn. Yn ystod cyfnodau pan nad yw’r ystafelloedd hyn wedi’u hamserlennu at ddibenion dysgu, anogir myfyrwyr i ddefnyddio’r cyfleusterau cyfrifiadura sydd ar gael ar gyfer eu gweithgareddau astudio unigol/grŵp ac wrth baratoi aseiniadau.

Os welwch chi fod nam ar weithfan gyfrifiadurol, rhowch wybod i Ddesg Gymorth y Gwasanaethau Gwybodaeth trwy ffonio estyniad 2400 gan ddefnyddio'r ffonau mewnol a ddarperir ym mhob un o'r ystafelloedd cyfrifiadura a amserlennir yn ganolog.