Clirio 2025

Ffoniwch ni ar 0800 121 40 80

Gwnewch gais i Aberystwyth trwy'r broses Glirio

Os ydych chi’n chwilio am le trwy’r broses Glirio, neu’n ailystyried eich opsiynau ar gyfer mis Medi, mae gennym lefydd ar gael ar draws ystod eang o gyrsiau. Ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio nawr ar 0800 121 4080 a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r cwrs perffaith i chi, neu mae mod di chi wneud cais ar-lein.

Wedi derbyn eich canlyniadau? Ymgeisiwch Ar-lein

Y broses Glirio yn Aberystwyth

Eich Canllaw Clirio

Mae ein Canllaw Clirio yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am y broses Glirio; o sut i wneud cais ag osgoi straen, i wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i chi. Mae gennym dîm ymroddedig o staff i’ch arwain drwy’r broses Glirio.

Dysgwch fwy

Sicrwydd Llety

Rydym yn sicrhau llety i bob ymgeisydd Clirio sy’n gwneud cais cyn ein dyddiad cau, sef y 1af o Fedi 2025. Mae Aberystwyth hefyd wedi ei gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd (2024). Bydd myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol hefyd yn elwa o aelodaeth am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon.

Dysgwch fwy