Apêl yr ​​Hen Goleg

Yr Hen Goleg o'r promenad

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth, y Coleg Prifysgol cyntaf yng Nghymru, ym 1872 yn yr Hen Goleg.

Ers hynny, mae’r Hen Goleg, un o adeiladau mwyaf adnabyddus y genedl, yn symbol o genhadaeth addysgol Prifysgol Aberystwyth ac yn arwydd o’i gwreiddiau dwfn yn y gymuned a’r rhanbarth. A nawr mae angen eich cymorth ar yr Hen Goleg. Dyma'r cyfle i adfer yr adeilad hanesyddol ac annwyl hwn a gallwch fod yn rhan o wireddu hyn.

Dim ond gyda'ch cefnogaeth chi y gall darpar fyfyrwyr, ymchwilwyr, staff, cyn-fyfyrwyr ac ymwelwyr fwynhau'r Hen Goleg a'i adnoddau.

Bydd cadw ac adfer yr Hen Goleg yn cadarnhau ei le yn nhreftadaeth Cymru a'r DU, a thrwy ei ddyluniad arloesol bydd yn cyflwyno gweithgareddau addysgol, estyn allan, ymgysylltu, menter ac ymchwil sydd o fudd pellgyrhaeddol a hanfodol i'r cyhoedd.

Mae cyn-fyfyrwyr, ffrindiau a chefnogwyr o bob cwr o'r byd wedi rhoi'n hael i Apêl yr Hen Goleg hyd yn hyn. 

Ac ym mlwyddyn dathlu 150 Prifysgol Aberystwyth, ymunwch â'ch cyd-gyn-fyfyrwyr a'ch ffrindiau i gefnogi prosiect cyfalaf blaenllaw'r Brifysgol.

Byddwch yn rhan o rywbeth arbennig. Sicrhewch fod yr Hen Goleg yn rhan o 150 mlynedd nesaf y Brifysgol drwy gefnogi Apêl yr Hen Goleg. Cyfrannwch heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofodau a’r adnoddau yn yr Hen Goleg, edrychwch ar gynlluniau'r Hen Goleg.