Orielau Lluniau

Lluniau o'n digwyddiadau dathlu pen-blwydd yn 150

Dathliad Cymrodyr a Ffrindiau

Daeth dathliadau pen-blwydd y 150 i fwcl yn ystod wythnos graddio gyda chyfle i ddathlu yng nghwmni Cymrodyr a Ffrindiau.

Côr Gospel Prifysgol Alabama yn Birmingham

Perfformiodd myfyrwyr o Brifysgol Alabama yn Birmingham (UAB) cyngerdd yn Bandstand Aberystwyth ddydd Sul 4 Mehefin fel gwesteion Prifysgol Aberystwyth.

Swper Elusennol y Scarlets a Phrifysgol Aberystwyth

Cynhaliwyd noson elusennol arbennig ar nos Iau, 27ain Ebrill, i ddathlu penblwydd y Brifysgol a'r Scarlets yn 150 oed.

Dathlu yn Washington DC

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ym Mhreswylfa Llysgennad Prydain, Washington.

Dathlu yn Efrog Newydd

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn y Culture Centre yn Efrog Newydd.

Derbyniad Dathlu 150 yn Nhŷ’r Arglwyddi

Daeth 200 o gyn-fyfyrwyr a gwesteion ynghyd i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon yn ein hanes yng nghwmni’r Canghellor, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd. Y siaradwr gwadd oedd y gyn-fyfyrwraig a chymrawd, y Farwnes Kay Andrews OBE a sgwrsiodd yn hoffus am ei chyfnod yn Aberystwyth.

Zumbathon Mehefin 2022

Ymunodd dros 70 o bobl â thîm Zumba Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth i nodi ein pen-blwydd yn 150 drwy gymryd rhan mewn 150 munud o Zumba. Codwyd cyfanswm o dros £1,000 gyda’r arian yn cael ei rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ac Apêl Wcráin.

Dathliad y Sylfaenwyr Aberystwyth Hydref 2022

Ar ddydd Gwener 14 Hydref, nododd Prifysgol Aberystwyth 150 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf, gyda gorymdaith Diwrnod y Sylfaenwyr i gicio’r bar ar y Promenâd i ddilyn gan frecwast mawreddog yn Y Neuadd Fawr.

Dathliad y Sylfaenwyr Caerdydd Hydref 2022

Ar ddydd Mercher 19 Hydref daeth cyn-fyfyrwyr, ffrindiau, cefnogwyr, staff a myfyrwyr ynghyd yn Y Senedd, Bae Caerdydd i ddathlu yng nghwmni gwesteion anrhydeddus Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS a’r Llywydd, y Gwir Anrh Elin Jones MS.

Dathliad y Sylfaenwyr Llundain Hydref 2022

Ar ddydd Mawrth y 18fed o Hydref cynhaliwyd digwyddiad arbennig i ddathlu ein Sylfaenwyr yng Nghanolfan Cymry Llundain, Ffordd Gray’s Inn.

Derbyniad Cyn-fyfyrwyr Maleisia Tachwedd 2022

Daeth dros 130 o gyn-fyfyrwyr o Maleisia at eu gilydd i ddathlu mewn aduniad arbennig.

Swper Cymrodorion Maleisia Tachwedd 2022

Swper yng nghwmni'r Cymrawd Anrhydeddus HRH Tuanku Muhriz ynghyd â lansiad o gyfrol dathlu pen-blwydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Maleisia yn 30.