Rhaglen Agored

Llun o myfyrwyr yn gweithio

Rhaglen Agored

 

 

Mae'r Rhaglen Agored yn gynllun cyfnewid gwybodaeth sy'n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a'r gymuned leol gydweithio fel rhan o’r dathliadau 150.

I nodi’r digwyddiad arwyddocaol hwn yn hanes y Brifysgol, mae'r Rhaglen Agored wedi’i lansio i roi cyfle i staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a’r gymuned leol ymgysylltu a chyfrannu at ddathliadau’r 150.

Yn dilyn proses ymgeisio, mae nifer o grwpiau wedi bod yn llwyddiannus ac yn sgil hynny wedi derbyn cyllid i wireddu eu prosiect a'u cyflawni fel rhan o'r Cynllun Rhaglen Agored yn ystod blwyddyn dathlu'r 150. Mae’r prosiectau arloesol hyn wedi’u hysbrydoli gan orffennol, presennol a dyfodol y Brifysgol a’i pherthnasedd i gymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang a byddant yn cael eu harddangos mewn amryw fformat. Mae hwn yn achlysur i’n cymuned amrywiol fyd-eang ddod yn rhan o etifeddiaeth barhaus y Brifysgol.

Isod fe welwch grynodeb o bob prosiect ynghyd a dolenni perthnasol i unrhyw ddigwyddiad dros y 8 mis nesaf. Gwiriwch yn ôl yn rheolaidd am ddiweddariadau.

Prosiectau Rhaglen Agored

Prifysgol Aberystwyth a Cherddoriaeth Bop Gymraeg

Dros yr hanner canrif ddiwethaf a mwy, mae’r Brifysgol wedi bod yn fagwrfa i rai o’r artistiaid a’r bandiau cerddorol Cymraeg mwyaf adnabyddus a dylanwadol. Ers sefydlu’r grŵp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, yn y Brifysgol yn 1967 mae gennym hanes cyfoethog a chysylltiad agos â chanu pop Cymraeg sy’n parhau hyd heddiw. Yn ystod Wythnos y Sylfaenwyr a’r dathliadau canmlwyddiant a hanner, bydd rhai o brif artistiaid y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn perfformio 'Gig Mawr Aber' yng Nghanolfan y Celfyddydau. Bydd arddangosfa o hen bosteri, ffotograffau ac eitemau cofiadwy hefyd yng Nghanolfan y Celfyddydau i ddathlu cysylltiad y Brifysgol â cherddoriaeth bop Gymraeg. Bydd ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn gweithdai fydd yn edrych ar hanes cerddoriaeth Gymraeg yn y Brifysgol ac yn lleol, ac yn ei gosod yn y cyd-destun ieithyddol a gwleidyddol.

Adrodd Straeon Digidol

Mae adrodd straeon a thechnoleg yn cyd-fynd yn naturiol, a thrwy ymchwil diweddar a phrosiectau allgymorth mae Cyfrifiadureg wedi datblygu gweithdai adrodd straeon digidol sy’n addas i bobl 6 oed a hŷn. Bydd y prosiect yn edrych ar ddefnydd o straeon digidol i adrodd straeon Aberystwyth ar gyfer ein dathliad canmlwyddiant a hanner. Cynhelir gweithdai drwy gydol y flwyddyn mewn nifer o leoliadau cymunedol.

Rydym yn cynnal gweithdy codio i blant fel rhan o’n dathliadau 150 mlwyddiant yn Llyfrgell Aberystwyth ar 7 Ionawr. Dewch draw i ddysgu sut i wneud animeiddiad a chymryd rhan yn ein cystadleuaeth codio. 
Rhagor o fanylion yma

Hanes yr Undeb Cristnogol

Cyfres o straeon gan fyfyrwyr hen a newydd am hanes yr Undeb Cristnogol yn Aberystwyth. Fe’i cyhoeddir mewn cylchgrawn ac ar-lein.

Y Byd ar y Trothwy: Llwybrau Cerdded Lleol mewn Tirweddau Gwleidyddol Byd-eang

Cyfres o deithiau cerdded yn ardal Aberystwyth fydd yn ceisio ysbrydoli cerddwyr i feddwl am heriau gwleidyddol byd-eang wrth gerdded yn eu tref a’u cefn gwlad lleol. Bydd y teithiau’n amrywio yn eu hyd, rhwng 45 munud a 4 awr.

Pryd ddaeth Aberystwyth yn gartref?

Dogfen yn canolbwyntio ar thema ‘pryd ddaeth Aberystwyth yn gartref i chi’ gyda chyfraniadau gan fyfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr. Bydd y casgliad yn dathlu Aberystwyth a’r hyn mae’n ei olygu i’r bobl niferus sydd wedi astudio a byw yma.

Dathliadau Rhyng-ffydd

Cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn a drefnir gan Rwydwaith BAME Prifysgol Aberystwyth i gydnabod a dathlu detholiad o ddyddiau crefyddol a sanctaidd gwahanol grefyddau’r byd. Bydd y digwyddiadau’n yn codi ymwybyddiaeth ac yn dathlu amrywiaeth y diwylliannau sy’n bresennol yng nghorff ein myfyrwyr a’n staff yn ogystal â’r gymuned leol ehangach.

UMCA: Hanner Canmlwyddiant

Bydd y prosiect yn nodi carreg filltir sylweddol yn hanes UMCA drwy gasglu, coladu ac arddangos deunyddiau sy’n adrodd stori myfyrwyr Cymraeg Aber, gyda ffocws penodol ar eu llais a’u rôl yn ffurfio’r Brifysgol, yn ogystal â gwleidyddiaeth leol a chenedlaethol.

T. Ifor Rees: O Aberystwyth i America Ladin

Nod y prosiect yw rhoi sylw i hanes cudd ac amlygu cyrhaeddiad byd-eang cyn-fyfyriwr y Brifysgol a brodor o Geredigion - Thomas Ifor Rees. Mae’n fwyaf enwog efallai fel awdur, awdur taith a chyfieithydd - roedd yn ieithydd gwych a chyfieithodd weithiau niferus o’r Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg i’r Gymraeg. Fodd bynnag roedd hefyd yn ffotograffydd toreithiog. Cynhelir arddangosfa yn 2023 o ffotograffau Rees a sgwrs fydd yn edrych ar sut yr hyrwyddodd Rees Gymru a’r Gymraeg ar ei deithiau.

Ysgrifennu straeon: cynhwysiant, perthyn a hunaniaeth

Bydd y prosiect yn cefnogi preswylwyr lleol i ysgrifennu stori i ymateb i’w profiadau eu hunain o’u cymuned, gan gynnwys ystyriaethau cynhwysiant, perthyn a hunaniaeth. Cynhyrchir deunyddiau dysgu hunan-dywys fel bod cyfranogwyr yn gallu ymgysylltu â’r broses gartref. Bydd y straeon yn cyfrannu at berfformiad/arddangosfa o’r enw Ysgrifennu Ein Cymuned.

Dyfodol Canolfannau Celfyddydol yng Nghefn Gwlad

Yn ystod y prosiect, bydd defnyddwyr Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn cwblhau arolwg ac yn mynychu grwpiau ffocws i drafod cyflwyno gwasanaethau a gweithgareddau canolfannau celfyddydol ar ôl Covid. Cyflwynir y canfyddiadau mewn trafodaeth banel ar y 15fed o Fai 2023. 

Cwblhewch yr arolwg yma

Talentau Aber!

Cyngerdd i arddangos y berthynas hanesyddol rhwng y Brifysgol a thref Aberystwyth. Bydd y gyngerdd yn cynnwys alumni adnabyddys y Brifysgol fel prif act, yn ogystal a chynrychiolwyr o'r gymuned a staff a myfyrwyr y Brifysgol, yn dilyn cyfres o glyweliadau agored o flaen panel o feirniaid cyfarwydd. Cynhelir y gyngerdd ar Mai 20 2023.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.