Gweler isod am restr o'r digwyddiadau sydd i ddod a'r digwyddiadau sydd ar y gweill i gymryd rhan, neu gweler ein digwyddiadau blaenorol i weld beth rydym wedi'i gyflawni.

P’nawn Plannu Coed

Ym mis Tachwedd 2023, trefnodd Undeb y Myfyrwyr a staff y brifysgol ddiwrnod gwirfoddoli i blannu coed i blannu cymysgedd o dderw, bedwen arian, collen a draenen wen wrth ymyl ein campws ar Fferm Penglais. 

Plannwyd cyfanswm o 400 o goed, a dysgodd y gwirfoddolwyr sut i blannu coed yn ddiogel, a sicrhau bod y coed yn cael y cyfle gorau i ffynnu. 

Darllenwch fwy am y diwrnod yma: Diwrnod Plannu Coed

Sgwrs Wythnos Croeso 2023

Rydym yn awyddus i hyrwyddo tryloywder o ran ein hymdrechion i fod yn gynaliadwy, oherwydd mae caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan a deall y prosesau gwneud penderfyniadau yn hanfodol i unrhyw amcanion amgylcheddol. 

Dyma pam, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, y cyflwynodd y Dirprwy Is-Ganghellor Neil Glasser sgwrs sydd ar gael i bob myfyriwr, sy’n trafod dyheadau a chynlluniau sero net Aberystwyth. 

Darllenwch y fersiwn PDF o'r Sgwrs Wythnos Croeso 2023

EuroBioBlitz 2023

Mae EuroBioBlitz yn ddigwyddiad cofnodi bywyd gwyllt blynyddol sy'n cael ei gynnal ar draws Ewrop. Yn 2023, fe wnaethom ymuno â'r her a helpu i gofnodi data bywyd gwyllt safon ymchwil o amgylch Coedwig Penglais trwy daith dywys, gan gefnogi academyddion eraill ac annog myfyrwyr i ddysgu sut i adnabod bywyd gwyllt brodorol. Fe wnaethon ni helpu i ychwanegu llawer o arsylwadau at y 50,000 syfrdanol a wnaed ledled Ewrop! Gallwch weld yr arsylwadau ar Dudalen Prosiect EuroBioBlitz iNaturalist 

Undeb Y Myfyrwyr A Chymdeithasau’r Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran Safon Effaith Werdd yn 2022-23, drwy fentrau megis hyrwyddo'r defnydd o ddillad/offer coginio ail-law drwy Hyb yr Hael, hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol a thrwy sefydlu gweithgor gweithredol 

Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth yn un o gymdeithasau undeb y myfyrwyr ac yn grŵp ymarferol o wirfoddolwyr cadwraeth. Os hoffech chi dreulio mwy o amser yn yr awyragored a helpu’r ardal leol, dewch i ymuno â ni ar bnawn Sadwrn neu bnawn Mercher yn y gwaith! Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (abersu.co.uk)

Gardd Gymunedol Penglais

Menter myfyrwyr, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, oedd Gardd Gymunedol Penglais ar y dechrau. Y nod yw creu lle i bobl dyfu bwyd, dysgu am dyfu bwyd, plannu mewn modd sy'n addas i fywyd gwyllt, a chreu lle tawel i bobl sy'n ymweld â'r brifysgol a Chanolfan y Celfyddydau i eistedd a mwynhau eu cinio. Tyfir amrywiaeth o gynnyrch yn yr ardd, ac mae’r cynnyrch sy’n weddill yn cael ei rannu ymhlith gwirfoddolwyr, yn cael ei werthu drwy’r Gydweithfa Fwyd, neu ei roi i Fwyd Dros Ben Aber. Cartref | Gardd Gymunedol Penglais (aberystwyth.wixsite.com) 

Tyfu Dyfi

Prosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) yw Tyfu Dyfi. Gan ddechrau ym mis Medi 2021, bydd y prosiect yn rhedeg tan 30 Mehefin, 2023. Y sefydliadau partner yw: Ecodyfi (Arweinydd)Bwyd Dros Ben Aber, Mach Maethlon, Canolfan y Dechnoleg AmgenPrifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, Gardd Organig. Diben y prosiect peilot hwn yw dangos sut y gall cymunedau fod yn rhan o’u systemau bwyd lleol a nodi’r manteision lluosog sy'n deillio o hynny. Tyfu Dyfi | dyfibiosphere