Ymgysylltiad Staff a Myfyrwyr

Rydym yn deall bod cynaliadwyedd a stiwardiaeth yn peri pryder mawr i lawer o'n myfyrwyr a'n staff, a dyna pam ein bod nid yn unig yn annog newid ymddygiad trwy fentrau a gynhelir gan y brifysgol, ond hefyd yn gwerthfawrogi'r effaith y mae staff a myfyrwyr yn ei chael ar ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd. Gweler rhai enghreifftiau isod: 

Digwyddiadau Croeso i Staff

Mae'n ofynnol i bob aelod o staff newydd ymgymryd â chwrs cynefino ar hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymhlith pynciau eraill, fel bod cynaliadwyedd yn parhau i fod yn rhan annatod o holl weithgareddau'r brifysgol ac yn rhoi sylfaen o ymwybyddiaeth amgylcheddol.  

Erbyn 2025, ein nod yw sicrhau bod pawb sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch yn cael hyfforddiant llythrennedd carbon.  Bydd hyn yn sicrhau bod allyriadau carbon a'u heffeithiau yn cael eu hystyried cyn i'r brifysgol wneud unrhyw waith mawr.  

Digwyddiadau

Digwyddiadau

Cliciwch yma i weld ein holl ddigwyddiadau cynaliadwyedd blaenorol, presennol a'r rhai sydd i ddod.

Ymrwymiad y Myfyrwyr a Gwerthusiadau

Ar y cyd â digwyddiadau cynaliadwyedd, mae myfyrwyr yn ymwneud ag olrhain a gwerthuso gweithgareddau’r brifysgol.

Mae Undeb y Myfyrwyr wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran Safon Effaith Werdd yn 2022-23, drwy fentrau megis hyrwyddo'r defnydd o ddillad/offer coginio ail-law drwy Hyb yr Hael, hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol a thrwy sefydlu gweithgor gweithredol.

Meithrin Cysylltiadau Ar Draws Y Brifysgol

Fforwm Cynaliadwyedd

Er mwyn annog cyfathrebu ynghylch cynaliadwyedd ar draws y brifysgol, mae gan PA fforwm cynaliadwyedd misol lle mae croeso i gynrychiolwyr o adrannau unigol, cynrychiolaeth o fyfyrwyr ac aelodau o undebau llafur (ar hyn o bryd aelod o Undeb y Prifysgolion a Cholegau) fod yn bresennol, gan roi cyfle i aelodau o bob rhan o'r brifysgol gyfrannu yn ogystal â chael adborth ac awgrymiadau.  

Pwyllgor Cynaliadwyedd

Mae'r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn, ac mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch ar draws y brifysgol yn bresennol i oruchwylio’r broses o gytuno ar bolisïau, strategaethau, amcanion, dangosyddion perfformiad allweddol a chynlluniau gweithredu yn ogystal â monitro cynnydd pob un o’r rhain o ran y meysydd hynny sy'n gysylltiedig â Tharged y Prifysgolion i fod yn Garbon-niwtral erbyn 2030/31 yn ogystal ag amcanion ehangach i wella’r amgylchedd a gwella cynaliadwyedd, gan gynnwys:  

  • Carbon a Chyfleustodau  
  • Bioamrywiaeth a Chadwraeth  
  • Gwastraff 
  • Plastig defnydd sengl 
  • Bwyd 
  • Trafnidiaeth 
  • Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm 
  • Caffael 
  • Prosiectau & adeiladaeth 
  • TG  
  • Atal Llygredd 
  • Meithrin cyswllt Staff a Myfyrwyr.  

Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cyfarfod 5 gwaith y flwyddyn, gyda mewnbwn gan 3 chynrychiolydd diogelwch Undeb Llafur yn ogystal â chynrychiolydd etholedig o undeb y myfyrwyr.

Mae'r pynciau sy'n cael eu trafod yn cynnwys:

  • ⁠Adroddiad Blynyddol ac archwiliadau ar Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd
  • Adolygiad o’r cylch gorchwyl
  • Gweithdrefnau, polisi, strategaethau a chyfarwyddyd Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Gweler ein Cylch Gorchwyl Archwiliad Mewnol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd am fwy o wybodaeth.