Mae cyfnod mwyaf cyffrous ond mwyaf heriol fy mywyd newydd ddod i ben. Wrth edrych yn ôl, rwy’n gallu dweud â’m llaw ar fy nghalon mai dod i Aberystwyth oedd y penderfyniad cywir. Roedd astudio Economeg gyda Rheolaeth yn cynnig profiad eang o’r byd Busnes ynghyd â chefndir cadarn mewn Economeg. Er y gallech chi gael yr argraff fod y modiwlau Economeg yn ddamcaniaethol iawn, ac i ryw raddau yn hanesyddol eu natur hyd yn oed, y tiwtoriaid sy’n gwneud y gwahaniaeth; roedd gan lawer o’n darlithwyr bolisi drws agored, ac yn cynnal dosbarthiadau cymorth ychwanegol i ni ac yn darparu deunyddiau, fel fideos a rhaglenni dogfen, fel y gallen ni weld goblygiadau’r hyn roedden ni’n ei astudio.

Er bod y llwyth gwaith yn gam i fyny o Lefel A, roedd y bywyd cymdeithasol yn gam i fyny hefyd! Does gen i ddim syniad sut roeddwn i’n dod i ben, ond mae mwy na 24 awr yn niwrnod myfyriwr, mae hynny’n bendant! Fe wnes i wirfoddoli i fod yn gynrychiolydd cwrs ar gyfer myfyrwyr Economeg ac yn llysgennad myfyrwyr ar gyfer yr Ysgol Rheolaeth a Busnes ar ddiwrnodau agored a diwrnodau ymweld. I fi, dyma’r ffordd orau i ddod i adnabod pobl – ers hynny, rydyn ni wedi dathlu, teithio ac astudio gyda’n gilydd! Mae Aberystwyth yn lle gwych i wneud ffrindiau. Er bod llawer o’m ffrindiau yn astudio pynciau gwahanol i fi, roedden ni’n gweld ein gilydd yn y dref yn gyson a doedd dim problem trefnu noson allan neu wylio ffilm gyda’n gilydd. Roedd yn brofiad diddorol iawn ac yn sicr yn gwneud fy mywyd i’n haws! Mae’n debyg mai fy neges i fyfyrwyr sy’n dod i’r Brifysgol yw “peidiwch â bod ofn” – fe fydd pawb yn yr un cwch â chi, ac mae’n hawdd dod i adnabod pobl a gwneud ffrindiau.

Yn ogystal â gwneud fy astudiaethau, roeddwn i’n gweithio fel cynorthwyydd cwsmeriaid yn fferyllfa Boots, ac fe ddes i’n rheolwr ar ddyletswydd maes o law. Roedd cael cyflog swydd ran-amser yn help mawr. Fe wnes i hefyd sicrhau interniaeth 12 mis llawn amser gyda’r cwmni ar y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith rhwng fy ail flwyddyn a’m blwyddyn olaf . Mae’n debyg mai’r peth pwysig yw peidio troi eich trwyn ar unrhyw swydd – dydych chi byth yn gwybod ble allai hynny arwain.

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio yn Llundain yn y sector gwasanaethau ariannol fel intern gydag ABN AMRO, ac wedi cael cynnig swydd barhaol yno. Yn rhyfeddol, fy mhrofiad manwerthu ddenodd sylw fy nghyflogwr presennol pan oeddwn i’n cael fy nghyfweld. Maen nhw’n sylweddoli mai’n anaml iawn y bydd gan raddedigion brofiad gwaith penodol, ond sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig iddyn nhw – felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud eich gorau glas i’w datblygu!

Fe wnes i wir fwynhau fy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae dau beth sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i unrhyw brofiad – y bobl rydych chi’n cyfarfod â nhw a’r amgylchfyd, ac yn fy marn i, mae gan Aberystwyth y ddau.