Bythefnos ar ôl cwblhau fy ngradd mewn Marchnata gyda Sbaeneg, cefais fy nghyflogi gan Typeform, yn Barcelona yn Sbaen.

Mae enw Typeform ar dafod pawb yn Silicon Valley ar hyn o bryd, ar ôl codi gwerth $15m mewn cyllid Cyfres A yn ddiweddar, ac yn naturiol mae’n brofiad cyffrous gweithio fel Rheolwr Caffaeliadau Taledig i gwmni newydd sy’n tyfu mor gyflym.

Y peth gorau am y cwrs marchnata oedd gorfod gwneud defnydd ymarferol o’r dysgu damcaniaethol, gan ddefnyddio cwmnïau go iawn fel enghreifftiau, megis dilyn gweithgareddau busnes Google ac edrych ar strategaethau marchnata Spotify.

Mae’r mewnwelediadau hyn wedi fy helpu i ddefnyddio’r hyn a ddysgais yn y byd go iawn.

Marchnata Strategol oedd un o’m hoff fodiwlau, gyda’i ffocws ar wahanol strategaethau twf marchnata, a hefyd Marchnata Rhyngwladol, oedd yn edrych ar sut mae cwmnïau’n gallu llwyddo i fynd â chynnyrch sy’n bodoli’n barod i farchnadoedd daearyddol newydd.

Roedd treulio blwyddyn mewn diwydiant yn fy nhrydedd flwyddyn yn ddewis hollol amlwg, a threuliais fy nghyfnod yn gweithio fel Dadansoddwr Data ac Arbenigwr Marchnata. Pe na bawn i wedi gwneud hynny, fyddwn i ddim mor gyflogadwy ag yr ydw i bellach. Mae blwyddyn mewn diwydiant yn hanfodol, ac rwy’n awgrymu’n fawr fod pawb yn bachu ar y cyfle i wneud hynny.

 

Ar wahân i weithio yn Typeform, rydw i ar hyn o bryd yn rhedeg fy nghwmni fy hun, Papora. Mae’n tyfu fis wrth fis, a’r uchelgais yw gallu gweithio i’r cwmni yn llawn amser yn y dyfodol agos.