Lle ydych chi ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd, rwy’n astudio ar gyfer gradd Meistr Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl cwblhau BSc mewn Rheoli Twristiaeth.

Sut gwnaethoch chi gyrraedd yno?

 

Drwy weithio’n galed yn ystod fy nghwrs gradd, yn enwedig yn fy nhrydedd flwyddyn. Roedd y gefnogaeth gan y darlithwyr Twristiaeth hefyd yn amhrisiadwy. Fe ges i radd dda am fy nhraethawd hir, gyda chymorth goruchwyliwr fy nhraethawd hir, Dr Carl Cater, ac fe wnaeth hynny fy annog i barhau i astudio Marchnata ar lefel Meistr. Roeddwn i’n ddigon ffodus i dderbyn ysgoloriaeth Mynediad at Radd Meistr, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I ble ydych chi’n mynd?

Fy swydd ddelfrydol fyddai gweithio gyda Croeso Cymru yn hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru. Mae Aber wedi cipio fy nghalon a dydw i ddim eisiau gadael! Rwy’n gobeithio dod o hyd i swydd marchnata twristiaeth yn ardal Aberystwyth, neu yng ngogledd Cymru. Rwy’n gobeithio ennill rhywfaint o brofiad cyn symud i fyd gwaith.

Beth, os rywbeth, fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol yn ystod eich amser yn Aberystwyth i’ch helpu i baratoi’n well ar gyfer eich gyrfa/bywyd ar ôl graddio?

Fe fyddwn i wedi ceisio manteisio mwy ar y cyfleoedd lleoliad gwaith y mae’r Brifysgol yn eu cynnig. Efallai y byddwn wedi cymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith. Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim wedi newid dim byd ar yr ochr academaidd.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n astudio eich pwnc chi yn y brifysgol nawr?

Gwnewch eich gorau glas, gweithiwch yn galed, peidiwch â gadael i straen eich llethu, a siaradwch â’r darlithwyr. Maen nhw i gyd yn gyfeillgar iawn ac yn barod i helpu bob amser! Mwynhewch eich amser yma, fe welwch chi golli’r lle ar ôl gadael!