Rwy’n gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Y Gorau o Gymru’, darparwr bythynnod gwyliau 4 a 5 seren ar draws Cymru gyfan, ac yn darparu gwasanaeth effeithlon, dwyieithog a chyfeillgar saith diwrnod yr wythnos.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau busnes?

Roedd yn gyfuniad o dri pheth:

 

  1. Roedden ni’n teimlo bod angen i Gymru gymryd mwy o berchnogaeth o’i diwydiant twristiaeth a chryfhau’r profiad ‘Cymreig’.
  2. Profiad blaenorol o osod llety gwyliau a wnaeth i fi feddwl bod ffordd arall, well o wneud hynny.
  3. Profiad blaenorol o weithio ar wefannau ac e-farchnata a chredu bod cyfle i drosglwyddo’r sgiliau hyn i’r sector twristiaeth.

Beth yw eich atgofion chi o astudio yn Aberystwyth?

Atgofion melys – mae Aberystwyth yn lle braf iawn i astudio.

Sut wnaeth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth eich helpu gyda’ch busnes?

Rhoddodd y cwrs gradd mewn Marchnata a gradd Meistr mewn Entrepreneuriaeth sylfaen a hyder i fi fynd ymlaen i weithio ym myd busnes. Yn benodol, roedd profiadau ymarferol fel mynd allan i weithio i gwmni am fis yn ystod fy ngradd meistr yn hynod werthfawr gan i hynny fy mharatoi ar gyfer byd gwaith. Dyna’r rheswm ein bod ni bellach yn gweithio gyda’r Brifysgol i greu cyfleoedd i fyfyrwyr presennol drwy brosiectau fel Go Wales.