Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Ar nifer fach o dudalennau, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rannau o'r testun. Gall hyn olygu na fydd pobl â nam ar eu golwg yn gallu darllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG. Byddwn yn diweddaru'r lliwiau a ddefnyddir erbyn diwedd mis Awst 2023 i sicrhau y gall pawb ddarllen y testun.

Dogfennau

Dim ond ar ffurf PDF y mae rhai dogfennau ar gael. Gall hyn olygu nad oes modd i bobl chwyddo'r testun yn y ddogfen heb fod angen sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod ar gael ar ffurf mwy nag un math o ffeil er mwyn iddynt fod mor hygyrch â phosibl. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy ddogfennau nad ydynt yn yr archif i ddarparu fformatau amgen erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Nid yw rhai o'r dogfennau ar ein gwefan wedi eu strwythuro'n gywir gyda phenawdau. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu strwythuro'n gywir. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy ddogfennau nad ydynt yn yr archif er mwyn eu gwella erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Nid yw rhai o'r dogfennau ar ein gwefan yn cynnwys testun amgen ar bob delwedd. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y delweddau i gyd yn cynnwys testun amgen (oni bai eu bod yno fel addurn yn unig).  Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy ddogfennau nad ydynt yn yr archif er mwyn eu gwella erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Nid yw'r lliw yn cyferbynnu ddigon mewn rhannau o rai dogfennau ar ein gwefan. Gall hyn olygu nad oes modd i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi dogfennau newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y lliwiau'n cyferbynnu ddigon. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy ddogfennau nad ydynt yn yr archif er mwyn eu gwella erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Ffurflenni

Nid oes priodoleddau awto gwblhau priodol wedi'u diffinio ar gyfer rhai meysydd ffurflen. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.  Rydym yn gweithio ar wellia ein holl ffurflenni i sicrhau bod gan bob maes perthnasol briodoleddau awto gwblhau. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024.

Ar rai ffurflenni mae’r blychau mewnbynnu yn cynnwys priodoleddau ARIA na chaniateir. Gall hyn achosi dryswch i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol i lenwi’r ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth CHCG. Byddwn yn diweddaru'r ffurflenni i dynnu’r priodoleddau anghywir erbyn diwedd mis Awst 2023.

Nid oes gan rai o’r elfennau ffurflen labeli. Gall hyn olygu nad yw pwrpas yr elfennau ffurflen yn glir i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) CHCG a maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG. Byddwn yn diweddaru'r ffurflenni i gynnwys labeli ar gyfer yr holl elfennau ffurflen erbyn diwedd mis Awst 2023.

Penawdau

Mae gan rai tudalennau nifer o benawdau. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr mai dim ond un pennawd sydd ar bob tudalen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn cael gwared ar benawdau ofer. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae'n bosib nad yw rhai tudalennau'n cynnwys penawdau i rannu gwahanol adrannau'r dudalen. Gall hyn olygu nad yw'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn ymwybodol pan fyddant wedi symud o un adran i un arall. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.10 (Penawdau Adrannau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod penawdau'n cael eu defnyddio'n briodol. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau a phenawdau lle bo angen. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod y penawdau yn y drefn briodol. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn rhoi'r penawdau mewn trefn. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai tudalennau'n defnyddio fformat megis testun trwm i dynnu sylw at bennawd. Gall hyn olygu bod posibilrwydd na fyddai'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod bod y testun yn bennawd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod penawdau'n cael eu defnyddio'n gywir. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn dynodi penawdau’n gywir. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai tudalennau'n defnyddio penawdau i dynnu sylw at destun nad ydyw'n bennawd mewn gwirionedd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr mai ar gyfer penawdau'n unig y defnyddir tagiau pennawd. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn cael gwared ar dagiau pennawd ar destun nad yw'n bennawd. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae gan rai tudalennau benawdau ar goll. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pennawd ar y dudalen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn ychwanegu penawdau lle maent ar goll. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Delweddau

Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y delweddau i gyd yn cynnwys testun amgen (oni bai eu bod yno fel addurn yn unig). Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ychwanegu testun amgen priodol i ddelweddau. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Elfennau Rhyngweithiol

Ar rai tudalennau mae yna reolyddion rhyngweithiol wedi'u nythu lle ceir delweddau pennawd gyda throshaenau fideo. Gall hyn olygu bod bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn ei chael hi’n anodd eu defnyddio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth CHCG 2.1. Byddwn yn ceisio canfod ffyrdd o greu'r effaith weledol mewn ffyrdd eraill ac rydym yn anelu at ddatrys hyn erbyn mis Awst 2023.

Bysellfwrdd

Nid yw ffocws y bysellfwrdd i'w weld ar ddolenni gweithredu (CTA) ar nifer fach o dudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Ffocws Gweladwy) 2.4.7 CHCG 2.1. Byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o wneud y ffocws yn weladwy ar y dolenni gweithredu hyn erbyn diwedd mis Awst 2023.

Ar dudalennau sy'n defnyddio'r elfen llinell amser, nid yw’r dangosydd ffocws i'w weld ar y ddolen sy'n gosod y dudalen i lwytho pob rhan o'r llinell amser ar unwaith. Gallai hyn olygu nad yw pobl sy'n defnyddio llywio bysellfwrdd yn siŵr ble maen nhw ar y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Ffocws Gweladwy) 2.4.7 CHCG 2.1. Byddwn yn ymchwilio i'r rheswm am hyn ac rydym yn anelu at wneud y ffocws yn weladwy yma erbyn diwedd mis Awst 2023.

Ar nifer fach o dudalennau, nid yw trefn y ffocws yn gywir ac mae'r ffocws y bysellfwrdd yn neidio rhwng brig a gwaelod y dudalen. Mae hyn yn ddryslyd i bobl sy'n defnyddio llywio bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Trefn Ffocws) 2.4.3 CHCG 2.1. Byddwn yn ymchwilio i ffyrdd o wella trefn y ffocws erbyn diwedd mis Awst 2023.

Ar ein tudalen Clirio, nid yw ffocws y bysellfwrdd i'w weld ar y botwm 'Chwiliwch nawr' ym mar chwilio'r cyrsiau. Gallai hyn olygu nad yw pobl sy'n defnyddio llywio bysellfwrdd yn siŵr ble maen nhw ar y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Ffocws Gweladwy) 2.4.7 CHCG 2.1. Byddwn yn ymchwilio i'r rheswm am hyn a’n nod yw gwneud y ffocws yn weladwy yma erbyn diwedd mis Awst 2023.

Dolenni cyswllt

Mae testun amgen rhai delweddau dolen yn disgrifio'r ddelwedd yn hytrach na'r ddolen gysylltiedig. Gall hyn olygu nad yw'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod i le bydd y ddelwedd yn mynd â hwy os byddant yn dilyn y ddolen gyswllt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob delwedd yn cynnwys testun amgen sy'n egluro pwrpas y ddolen gyswllt yn hytrach na disgrifio'r ddelwedd. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru testun amgen y delweddau. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai o'n dolenni cyswllt yn agor mewn ffenestr porwr newydd. Gall hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.2.5 (Newid ar Gais) CHCG 2.1. Pan fo'n angenrheidiol agor dolenni cyswllt mewn ffenestr porwr newydd, byddwn yn ychwanegu'r wybodaeth hon i'r ddolen fel bod pobl yn gwybod y bydd hyn yn digwydd. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cyswllt i fideos, ond nid yw testun y ddolen yn nodi y bydd yn agor fideo. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cyswllt sy'n defnyddio testun nad yw'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr i ble bydd y ddolen yn mynd â nhw. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob testun mewn dolen gyswllt yn ddefnyddiol ac nad yw'n ddibynnol ar y cyd-destun. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr nad ydym yn defnyddio'r un testun ar gyfer nifer o ddolenni. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Tablau

Ar rai tudalennau, mae tablau nad oes iddynt benawdau. Gall hyn olygu ei bod yn anos i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata sydd wedi ei gynnwys yn y tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. ⁠Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod penawdau i dablau bob amser. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru'r tablau i sicrhau fod iddynt benawdau. Ein nod yw cwblhau hyn erbyn mis Mawrth 2024. Rydym yn addysgu ein golygwyr cynnwys i sicrhau eu bod yn creu cynnwys sy'n hygyrch.

Ar nifer fechan o dudalennau mae yna dablau cymhleth sy'n anodd eu deall. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn ceisio canfod ffyrdd y gallwn gyflwyno'r wybodaeth hon mewn ffordd fwy hygyrch erbyn diwedd mis Awst 2023.

Testun

Ar nifer fechan o dudalennau, gall y testun orgyffwrdd os byddwch yn cynyddu'r bwlch rhwng y testun. Gall hyn olygu y bydd y bobl sydd angen newid y bwlch rhwng y testun er mwyn darllen y dudalen yn colli rhywfaint o'r cynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.12 (Bylchau Rhwng Testun) CHCG 2.1. Rydym ni'n gweithio ar wella'r CSS ar gyfer y meysydd hyn erbyn mis Mawrth 2024 er mwyn sicrhau bod y testun yn ail-lifo pan fo'r bwlch rhwng testun yn cael ei gynyddu.

Fideo

Nid oes capsiynau i rai o'r fideos planedig ar ein tudalennau. Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd pobl sydd â nam ar eu clyw yn gallu deall y fideo. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) CHCG 2.1. Byddwn yn sicrhau bod gan bob fideo newydd gapsiynau ac yn anelu at ychwanegu capsiynau i’r fideos sydd eisoes yn bodoli erbyn mis Medi 2025.

Mae testun i'w weld ar rai o'r fideos planedig ar ein tudalennau nad ydyw ar gael yn y sain. Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd pobl sydd â nam ar eu golwg yn gallu deall y fideo. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.2.1 (Sain yn unig a Fideo yn unig (Parod)) CHCG 2.1. Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob fideo newydd perthnasol yn darparu dewis arall, a’n nod yw diweddaru’r fideos presennol erbyn mis Medi 2025.

Dim ond capsiynau a grëwyd yn awtomatig sydd i rai o'r fideos planedig ar ein tudalennau. Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd pobl sydd â nam ar eu clyw yn gallu deall y fideo os nad yw'r capsiynau awtomatig yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.2.2 (Capsiynau (Parod)) CHCG 2.1. Byddwn yn sicrhau bod gan bob fideo newydd a gynhyrchwn gapsiynau wedi’u safoni ac rydym yn anelu at ychwanegu capsiynau i’r fideos sydd eisoes yn bodoli erbyn mis Medi 2025.

Materion yn ymwneud â Chynnyrch 3ydd Parti - YouTube

Ar rai tudalennau mae ffocws y bysellfwrdd yn cael ei golli wrth dabio trwy gynnwys fideo. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Ffocws Gweladwy) 2.4.7 CHCG 2.1. Mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth gan fod y cynnwys wedi'i fewnblannu o YouTube.

Ar rai tudalennau ceir i-fframiau sy'n cynnwys elfennau sy'n defnyddio priodoleddau ARIA nad chaniateir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) CHCG 2.1. Mae hyn y tu hwnt i’n rheolaeth gan fod y cynnwys wedi'i fewnblannu o YouTube.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae llawer o'n dogfennau PDF a Word hŷn nad ydynt yn bodloni'r safonau hygyrchedd. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn ein bod yn cyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.  

Nid yw’n fwriad gennym ychwanegu capsiynau i fideos byw gan fod fideos byw wedi eu heithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym wedi unioni problemau gyda rhai o'n templedi a oedd yn effeithio ar nifer fawr o dudalennau ar ein gwefan.

Rydym ni wedi rhoi hyfforddiant a chanllawiau i'r staff sy'n golygu'r wefan, er mwyn iddynt allu gwella hygyrchedd y cynnwys y maent yn gyfrifol amdano.

Rydym ni'n sicrhau bod ein prosesau datblygu'n cynnwys ystyriaethau hygyrchedd a phrofion fel disgwyliad sylfaenol.

Rydym ni wedi cyflwyno polisi hygyrchedd digidol.

Gwybodaeth am welliannau rydym wedi'u gwneud i'r wefan.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 3/9/20. Diweddarwyd y datganiad ddiwethaf ar 28/04/23.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 26/9/22. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofi ymarferol ac awtomatig. Defnyddiasom yr ategion porwr canlynol ar gyfer ein profion awtomataidd: ARC Toolkit, axe DevTools, WAVE, HeadingsMap a WCAG Contrast Checker. Fe wnaethom hefyd brofi’r safle gan ddefnyddio'r darllenydd sgrin NVDA.