Gwelliannau

Animeiddio

Roedd tudalen hafan ein taith rithwir yn cynnwys delweddau symudol heb ddull i rewi’r symud. Gall hyn dynnu sylw rhai pobl yn ddybryd a’i gwneud yn anodd iddyn nhw gyrchu’r daith rithwir. Doedd hyn ddim yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.1, sef Rhewi, Stopio, Cuddio. Buom yn gweithio gyda'r trydydd parti sy'n gyfrifol am ein taith rithwir i greu fersiwn mwy hygyrch sy'n cynnwys botwm rhewi.

Sain

Roedd tudalen ein taith rithwir yn chwarae cerddoriaeth yn awtomatig a doedd y botwm mud ddim ar gael drwy'r bysellfwrdd. Gall hyn achosi anhawster i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin gan y bydd yn ymyrryd â'u gallu i glywed yr hyn sy'n cael ei ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.2 WCAG 2.1, sef Rheoli Sain na maen prawf 2.1.1 Bysellfwrdd. Buom yn gweithio gyda'r trydydd parti sy'n gyfrifol am ein taith rithwir i greu fersiwn mwy hygyrch sy'n cynnwys botwm mud sydd ar gael drwy'r bysellfwrdd. Yn ychwanegol, nid yw'r gerddoriaeth yn dechrau'n awtomatig erbyn hyn pan fydd y tudalen yn llwytho.

Ffurflenni

Ar rai ffurflenni nid oes botwm radio na dewisiadau blwch ticio o fewn set o feysydd. Gall hyn olygu nad yw'n glir i'r bobl sy'n llenwi'r ffurflen bod y botymau radio neu'r blychau ticio yn gysylltiedig ag un cwestiwn ar y ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau) CHCG 2.1.  Rydym yn gweithio ar wella ein ffurflenni i gyd.