Uwchraddedigion Newydd
Gwarant o Lety’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn Gyntaf!
Bydd ceisiadau ar gyfer llety’r Brifysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22 yn agor am 9.00yb Ddydd Iau, Ebrill 1af 2021!
Os ydych wedi nodi Aberystwyth fel eich dewis cadarn neu eich dewis yswiriant a bod gennych gynnig diamod neu amodol i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallwch ddechrau gwneud cais drwy ddilyn y camau hawdd canlynol:
Sut i wneud cais
Sicrwydd o Lety
Rhoddir sicrwydd o le mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, i fyfyrwyr uwchraddedig newydd am flwyddyn gyntaf eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth, os ydych chi’n gwneud cais cyn 1 Medi yn y flwyddyn mynediad.
I fod yn gymwys i gael sicrwydd o le yn llety’r Brifysgol, mae’n rhaid i chi hefyd ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety.
Er ein bod yn rhoi sicrwydd o le mewn llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu y bydd modd darparu math penodol o ystafell, na lleoliad penodol.
Ceir amodau a thelerau llawn ynglŷn â llety gwarantedig yn y Polisi Blaenoriaethau.
Pam byw gyda ni?
Mae byw yn llety’r Brifysgol yn ddechrau amser cyffrous iawn, a fydd yn gyfle i chi gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau am oes mewn cymuned gefnogol, fywiog a llawn hwyl!
Ni fydd angen poeni am filiau yn codi a gostwng gan fod y ffioedd yn cynnwys cyfleustodau (e.e. dŵr, gwresogi, trydan), y we a chyswllt di-wifr, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol ac aelodaeth blatinwm o’r Ganolfan Chwaraeon yn rhad ac am ddim! Gellir dod o hyd i fanteision ychwanegol ar ein gweddalen Pam byw gyda ni?
Opsiynau Llety
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau llety, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws.
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o lety hunanarlwyo gyda naill ai ystafelloedd en-suite, fflatiau gydag adnoddau a rennir, neu ein stiwdios hunan-gynhwysol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o steiliau, cyllidebau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r llety sy'n addas i chi.
Rydym yn deall bod cyrsiau ôl-raddedig yn rhedeg yn hirach, felly mae ystafelloedd ar gael yn ein llety penodol i uwchraddedigion yn Rosser (ystafelloedd en-suite) am 50 wythnos, lle y gallwch fwynhau preswyliad parhaus mewn un lle.
Os nad ydych yn awyddus i goginio, efallai yr hoffech fanteisio ar ein cynllun prydau bwyd hyblyg.
Os ydych yn siaradwr neu'n ddysgwr Cymraeg ac yn awyddus i fyw mewn amgylchedd Cymraeg mae llety Cyfrwng Cymraeg penodedig ar gael i chi.
Pryd a sut i wneud cais am lety
Os ydych wedi cael cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth (a allai fod yn amodol), o ganol mis Mawrth ymlaen, bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost a thrwy’r post yn eich gwahodd i wneud cais am lety.
Mae ein tudalen Sut mae gwneud cais yn cynnig canllaw cam-wrth-gam defnyddiol ar sut i wneud cais ar-lein am le yn llety’r Brifysgol.
Dewisiadau Llety Eraill
Os nad ydych eisiau byw yn llety’r Brifysgol, efallai yr hoffech fyw mewn Llety yn y Sector Preifat.
Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bob agwedd ar lety’r Brifysgol a llety sector preifat.