Newyddion Diweddaraf
Da ni wedi derbyn llwyth o adborth gwych dros y flwyddyn ac rydym yn awyddus i rannu rhai o’r gwelliannau cadarnhaol yr ydym wedi'u gwneud ar gyfer 2019/20 a thu hwnt! Mae gennym leoedd gwag o hyd mewn preswylfeydd am 2019/20 felly gwnewch gais nawr i osgoi siom!
- Yn bennaf, nid yw’r profion o’r system larwm tân ar fore Gwener yn bodoli bellach!
Mae’r holl brofion ar y system larwm tân bellach wedi'u symud o’r bore tan hwyrach yn y dydd ar hyd ein holl safleoedd llety!
(Nodwch fod hyn yn berthnasol i’r profion system larwm tân yn unig a ddim yn effeithio ar yr ymarferion tân).
- Gan ddiolch i’n system cofnodi presenoldeb newydd, o 2019/20 dim ond unwaith bydd rhaid i’n preswylwyr fynychu’r Sgyrsiau Tân Llety.
Mae hyn yn golygu os ydych yn dod yn ôl i fyw gyda ni flwyddyn nesaf (ac yn y blynyddoedd tŷ hwnt) ac, os ydych eisoes wedi mynychu sgwrs tân, ni fydd angen i chi ddod i’r sgwrs eto!
(Nodwch fod dal disgwyl i’r preswylwyr ni fynychodd y sgwrs yn 2018/19 neu, a fethodd i gofrestru yn gywir i fynychu’r sgwrs yn 2019/20).
- A oes wedi bod angen bagiau ailgylchu bwyd neu glir arnoch tu allan i oriau swyddfa?
Rydym bellach yn cadw stoc fach o'r holl fagiau ailgylchu yn ein hystafelloedd golchi fel bod gan ein preswylwyr mynediad at y bagiau priodol ar gyfer eu hailgylchu.
Meddyliwch yn wyrdd ac ailgylchwch!
- Gall yr angen i wario noson neu ddwy yn ein llety argyfwng neu dros dro fod yn amser pryderus i’n breswylwyr.
Er mwyn gwneud y cyfnod byr yma’n brofiad mwy cyffyrddus ac yn haws i’n breswylwyr rydym nawr yn darparu te/ coffi/ bisgedi a thaclau ymolchi sylfaenol ym mhob ystafell wely unigol yn ein llety argyfwng.
- A wyddoch chi fod Y Ffald ym Mloc 2, Fferm Penglais yn ardal gymunedol ar gyfer ein holl breswylwyr?
Wel, wyddoch chi nawr ac, i wneud y lle’n well ar gyfer 2019/20 rydym yn agor y gegin fach i bawb cael ei ddefnyddio!
Yn 2019/20 pam ddim mynd i gael cipolwg ar y lle a chael paned?
- I oleuo eich llwybr ac arwain chi ar eich ffordd rydym wedi gosod colofnau goleuadau ar y llwybr sy’n arwain o PJM i lawr o dan y bont droed.
- Wedi’ch dallu gan y golau?
Yn newydd ar gyfer 2019/20 rydym wedi gosod llenni yn Lolfeydd Rosser a PJM er mwyn eu gwneud nhw’n amgylchoedd mwy cyfforddus i chi weithio ynddynt ac i wella eich profiad byw a dysgu.
- Gan weithio gyda’n mhartneriaid draw yn safle PJM, ar gyfer 2019/20 rydym am:
- Sicrhau bydd ein rhaglen ar gyfer uwchraddio’r dodrefn yn y ceginau wedi’i gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn ac;
- Wrth feddwl am y bywyd gwyllt rydym yn rhannu ein hamgylchedd ag o gwmpas y safle, mae ‘rhwystrau bywyd gwyllt’ mewn lle i ddiogelu’r safle fel lle gall fyfyrwyr a bywyd gwyllt ffynnu a’i gilydd!
Cofiwch fod dal cyfle i chi gwblhau cais ar gyfer Llety Brifysgol ar gyfer 2019/20.