Blas ar y Brifysgol

Cynhadledd Undydd

Cynhadledd Undydd

02 Hydref 2009

Cynhaliwyd cwrs undydd llwyddiannus iawn ar gyfer disgyblion iaith gyntaf Blwyddyn 13 yn yr Hen Goleg ar 2il o Hydref 2009. Cafodd y disgyblion gyfle i wrando ar aelodau o staff yr Adran yn trin a thrafod testunau gosod maes llafur Safon Uwch, yn ogystal â chael sesiwn yng nghwmni’r Prifardd Ceri Wyn Jones fu’n trafod cerddi gosod yr 20fed ganrif, gan gynnwys ei waith ei hun. Roedd sesiynau ‘Blasu’r Llydaweg’ a ‘Blasu’r Wyddeleg’ hefyd ar gael i’r disgyblion hynny oedd am brofi rhywbeth gwahanol.

Rhaglen y dydd