Cysylltu myfyrwyr â’r gymuned

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at Gronfa Aber. Yn sgil eich haelioni, rwyf wedi gallu byw yn Aberystwyth dros yr haf er mwyn gwneud y lleoliad gwaith hwn.” – Alice, myfyrwraig BA Hanes

Yn sgil cyfraniadau hael i Gronfa Aber cafodd dau fyfyriwr BA Hanes, Jack ac Alice, y cyfle i weithio ar leoliad gwaith cyflogedig yn rhan o brosiect ymchwil Aberystwyth adeg y Rhyfel: 1914-1919.

Diolch i gefnogaeth ein rhoddwyr, bu modd i Jack ac Alice barhau i fyw yn Aberystwyth yn ystod yr haf wrth weithio ar y prosiect. Oni bai am hynny, byddai wedi bod yn anodd iawn iddynt aros yma a chymryd rhan.  

Prosiect ar y cyd oedd hwn, ac roedd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a chyrff archifau lleol i gywain hanesion am adeg y rhyfel yn  Aberystwyth. Ymhlith y grwpiau a gymerodd ran roedd Amgueddfa Ceredigion, Archifdy Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ysgolion a grwpiau theatr lleol.  

Defnyddiwyd gweithgareddau ymchwil, arddangosfeydd, perfformiadau ac archif ryngweithiol ar-lein o’r gorffennol i rannu hanesion am Aberystwyth yn ystod y rhyfel.

Yn rhan o’r lleoliadau gwaith cafodd Jack ac Alice gyfle i weithio o fewn y gymuned, gan ddatblygu llu o sgiliau allweddol a fydd yn aros gyda hwy trwy gydol eu hastudiaethau ac ymlaen i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.  

Alice

“Mae cwblhau’r lleoliad gwaith hwn wedi bod yn gyfle cyffrous ac wedi datblygu fy sgiliau ymchwil a’m gwybodaeth hanesyddol, heb os.

Byddwn yn treulio rhai dyddiau yn archwilio casgliadau Archifdy Ceredigion am gofnodion gwreiddiol perthnasol, a bryd arall byddwn yn cerdded o amgylch Aberystwyth yn ceisio canfod yr union dai lle roedd milwyr yn byw. Roedd yn wych!  

Roeddwn i’n teimlo fel petai’r gorffennol yn dod yn fyw, a minnau’n gwybod fy mod yn sefyll o flaen tŷ y bu rhywun yn byw ynddo cyn gadael cymuned glòs Aberystwyth i frwydro mewn rhyfel erchyll ar raddfa nas gwelwyd ei bath erioed o’r blaen.

Fe wnaeth y prosiect wella fy sgiliau ymchwil a deffro’r casglwr achau ynof fi. Fe ddysgais sut i gael gafael ar ddeunyddiau gwreiddiol a sut i groesgyfeirio manylion unigolion.  

Roedd gallu ymchwilio i fy niddordebau fy hun a llunio blog arnynt yn brofiad gwych hefyd. Cefais fy ysbrydoli pan ddes o hyd i erthygl yn y Cambrian News am deulu o filwyr o Aberystwyth fu â phedwar  o ddynion yn ymladd yn y rhyfel. Bûm yn olrhain eu teithiau a’u bywydau trwy gyfrwng cofnodion o Brydain ac Awstralia.  

Doeddwn i erioed wedi gwneud hynny o’r blaen. Ar adegau roedd yn heriol, ond llwyddais i dynnu eu stori ynghyd ac adrodd hanes brwydr, galar ac adferiad un teulu yn sgil y Rhyfel Mawr.

Mae gweithio ar y prosiect yma wedi bod yn brofiad heb ei ail ac yn un a fydd, o bosibl, yn dylanwadu ar lwybr fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwyf wedi mwynhau pob rhan ohono – yr unig beth y byddwn i’n ei newid yw cael gweithio am yn hwy ar y prosiect!”