Gwella bywydau myfyrwyr

Fe wyddom oll fod prifysgolion yn rhywle lle mae llawer iawn o bethau’n cael eu dysgu y tu hwnt i’r darlithoedd. Gall ceisio ymgyfarwyddo â thref newydd a gwahanol leoedd i gymdeithasu, a chwrdd â phobl newydd ddifyr fod yn drech na rhai myfyrwyr. 

Ac mae hynny cyn dechrau ystyried pethau mwy ymarferol, o ddydd i ddydd, megis mynd i siopa am fwyd, talu biliau ac, yn bwysig, rheoli arian – rhywbeth nad ydynt wedi’i wneud erioed o’r blaen, o bosibl. Gall fod yn gyfnod heriol, wrth geisio blaenoriaethu rhwng bwyd, rhent a chostau astudio a chymdeithasu ar gyllideb gyfyngedig.  

Mae eich cyfraniadau yn ein cynorthwyo i leddfu straen a phryder myfyrwyr, ac rydych chi’n rhoi iddynt sgiliau gwerthfawr y gallant eu defnyddio yn y Brifysgol ac wedi hynny.

Mae hyn oll yn wir oherwydd bod eich cyfraniadau i Gronfa Aber wedi ariannu platfform e-ddysgu Blackbullion, sy’n ganllaw hyfforddiant hunangymorth i gynorthwyo myfyrwyr i ddeall a rheoli eu sefyllfa ariannol. 

Ymhlith y pynciau sy’n cael eu trafod mae “gosod cyllideb”, “rheoli dyled”, a “sut i gynilo”. Ceir hefyd gyfrifiannell cyllideb sy’n hynod o ddefnyddiol, ac arf i amcangyfrif ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr hefyd. 

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd ar ebost er mwyn sicrhau eu bod yn dal ati i reoli eu harian yn ddoeth.

Mae’r rhaglen wedi cael effaith sylweddol ar nifer y myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol, gan leihau’r swm yr oedd galw amdano ar gyfer y gronfa galedi o tua 25% o fewn blwyddyn. Mae ar lai o fyfyrwyr angen cymorth ariannol.

Yn ôl un o'r myfyrwyr israddedig ail flwyddyn sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen: "Mae’r system Blackbullion yn wych! Fe fu o gymorth mawr imi ddeall union ystyr y diffiniadau o derminoleg ariannol. Mae gennyf well dealltwriaeth o’r hyn y mae’r termau yma’n ei olygu. 

Rwy’n meddwl bod y gyfrifiannell Cyllideb yn hynod o ddefnyddiol hefyd, a byddwn yn argymell hon yn fawr i unrhyw fyfyriwr gan ei bod yn sicr wedi dangos yn glir i mi i le mae fy arian yn mynd.”

Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth aruthrol i fyfyrwyr Aber. Rydych chi’n cynorthwyo myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar yr holl brofiadau newydd sydd gan y Brifysgol i’w cynnig.

Diolch ichi am wella bywydau myfyrwyr a gwneud eu profiad yn Aber yn un gwell.