Hyrwyddo ymchwil a rhagoriaeth academaidd

"Mi wnaeth y fwrsariaeth newid fy mywyd. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i deulu Rhiannon Powell am y cyfle a gefais oherwydd y Fwrsariaeth.”

Lansiwyd Bwrsariaeth Wyddoniaeth gyntaf Rhiannon Powell ym mis Ebrill 2018, gan roi’r cyfle i 3 myfyriwr gael profiad academaidd gwerthfawr, sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau yn y maes gwyddonol.

Rhoddodd y fwrsariaeth gyfle i dri myfyriwr gwyddorau biolegol fynychu cynhadledd flynyddol Cymdeithas Barasitoleg Prydain, a gynhaliwyd, trwy gyd-ddigwyddiad, ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda lansiad i’r cyhoedd yn yr Hen Goleg.

“Pan glywais fod Cymdeithas Barasitoleg Prydain yn cynnal y gynhadledd wanwyn flynyddol yma yn Aberystwyth, holais ymhellach ynglŷn â’i mynychu ar unwaith.” Eglura Rachel, un o’r buddiolwyr.

“Bryd hwnnw, ni allwn gyfiawnhau gwario cymaint o arian a minnau ar gyllideb dynn myfyriwr. Yna, clywais fod Bwrsariaeth Ymchwil Gwyddoniaeth Rhiannon Powell ar gael i dalu am gostau’r gynhadledd – roeddwn ar ben fy nigon ar ôl gwneud cais ac ennill!

Nid oeddwn erioed wedi mynychu cynhadledd o’r blaen, ac yn wir roedd yn dipyn o hwyl ac yn ddiddorol iawn. Cefais gyfle i gwrdd â llawer iawn o bobl, yn cynnwys llywydd Cymdeithas Barasitoleg Prydain.

Ar ôl y gynhadledd, sylweddolais nad oeddwn yn barod i adael byd addysg. Roeddwn hefyd yn teimlo’n eiddigeddus na fyddwn yn rhan o’r “byd” ymchwil bellach.

O fewn wythnos neu ddwy roeddwn wedi gwneud cais a chael lle i astudio ar gyfer MRes (Meistr Ymchwil) mewn Rheoli Paraseitiaid ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mi wnaeth y fwrsariaeth newid fy mywyd. Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i deulu Rhiannon Powell am y cyfle a gefais oherwydd y Fwrsariaeth.”