Cynorthwyo myfyrwyr sydd mewn angen

"Gobeithio, ymhen amser, y bydd modd i mi ddangos yr un haelioni tuag at fyfyrwyr Aber yn y dyfodol."

Bob blwyddyn bydd cyfran o’r cyfraniadau i Cronfa Aber - Cymorth i Fyfyrwyr yn mynd tuag at Galedi Myfyrwyr. Diben y Gronfa Caledi yw helpu’r myfyrwyr hynny sydd, yn annisgwyl iddynt, yn cael trafferthion ariannol ac sydd angen help llaw.

Mae Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd yn helpu’r myfyrwyr hyn, ac yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir er mwyn iddynt allu parhau â’u hastudiaethau heb bryderon neu feichiau ariannol.

Diolch i’ch cyfraniadau chi, eleni cafodd 350 o fyfyrwyr grant nad oedd angen ei ad-dalu er mwyn lleddfu eu caledi ariannol.

Mae Laura, sy’n astudio am ddoethuriaeth yn yr adran Hanes, yn un o nifer o fyfyrwyr sydd wedi elwa yn sgil y gronfa Caledi Myfyrwyr:  

"Teimlaf yn freintiedig iawn fy mod wedi derbyn cyllid a wnaeth fy helpu'n fawr yn ystod cyfnod anodd iawn yn ariannol."

"Roeddwn angen estyn cyfnod fy astudiaethau PhD ac roeddwn yn bryderus iawn a fyddwn yn gallu bodloni'r dyddiad cau felly roedd yr arian yn prysur ddiflannu."

"Gyda'ch cymorth a'ch haelioni rwyf wedi gallu parhau - rwyf nawr bron â gorffen fy nhraethawd ymchwil!"

"Ni fyddwn wedi cyrraedd y man hwn heb eich cymorth. Nid yw diolch yn ddigon rhywsut i fynegi fy niolchgarwch yn llawn, ond diolch."

"Gobeithio, ymhen amser, y bydd modd i mi ddangos yr un haelioni tuag at fyfyrwyr Aber yn y dyfodol."