Gwyddonwyr yn datgelu’r senarios gorau a gwaethaf posibl o ran yr Antarctig yn cynhesu

Yr Athro Bryn Hubbard, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Bryn Hubbard, Prifysgol Aberystwyth

26 Chwefror 2026

Mae ymchwil ryngwladol newydd yn dangos y bydd y dewisiadau a wnawn yn y degawd nesaf yn penderfynu tynged Antarctica am ganrifoedd.

Mae’r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Frontiers in Environmental Science, yn tynnu sylw at raddfa'r bygythiad sy’n deillio o gynhesu byd-eang parhaus, a manteision sylweddol gweithredu ar yr hinsawdd yn gyflym.

Mae eangderau iâ Antarctica yn cadw dŵr dan glo ac yn adlewyrchu gwres oddi ar arwyneb y blaned - ond mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod y prosesau manteisiol hyn dan fygythiad cynyddol. Mae Antarctica yn cynhesu'n gyflym, ac fe allai’r canlyniadau fod yn drychinebus.

Nawr mae tîm o wyddonwyr, sy’n cynnwys rhewlifegwyr o Brifysgol Aberystwyth, wedi modelu’r senarios gorau a gwaethaf posibl o ran effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar Antarctica. Mae'r astudiaeth yn dangos cymaint sydd yn y fantol, ond hefyd faint o niwed y gellir ei atal o hyd.

Canolbwyntiodd y gwyddonwyr ar Benrhyn yr Antarctig, canolfan ar gyfer ymchwil, twristiaeth a physgota sydd wedi cael ei hastudio'n helaeth ac sy’n hynod fregus yn wyneb newidiadau amgylcheddol a achosir gan bobl.

Fe wnaethant ddefnyddio senarios sy'n amcangyfrif allyriadau’r dyfodol i fodelu canlyniadau ar gyfer Penrhyn yr Antarctig. O dan senarios ag allyriadau uwch, bydd Cefnfor y De yn cynhesu’n gyflymach, a bydd dyfroedd cynhesach y cefnfor yn erydu iâ ar dir ac ar y môr. Po uchaf y tymheredd, y mwyaf tebygol yw’r sgafelli iâ o ddymchwel, gan arwain at gynnydd pellach yn lefel y môr.

O dan y senario gyda’r allyriadau uchaf, gallai’r gorchudd iâ môr leihau 20%, gan ddinistrio’r rhywogaethau sy'n dibynnu arno - fel cril, ysglyfaeth bwysig i forfilod a phengwiniaid - a chynhesu’r cefnforoedd ymhellach ledled y byd. Byddai cynhesu’r cefnforoedd ymhellach hefyd yn rhoi straen ar ecosystemau ac yn cyfrannu at dywydd eithafol.

Meddai'r Athro Bryn Hubbard, cydawdur a Chyfarwyddwr y Ganolfan Rhewlifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Bydd tynged Antarctica yn effeithio ar bob un ohonom - mae'n ardal eang, sy'n cynnal cyfaint enfawr o iâ sy'n hanfodol i ddyfodol ein planed. Mae'r astudiaeth hon yn ei gwneud hi’n glir bod Penrhyn yr Antarctig yn agosáu at - neu o bosib wedi cyrraedd - man ‘di-droi’n-ôl’. Mae’r gwahaniaeth rhwng dyfodol ag allyriadau isel a dyfodol ag allyriadau uchel yn gyfystyr â’r gwahaniaeth rhwng Penrhyn sydd dal wedi'i orchuddio ag iâ a’i amgylchynu gan sgafelli amddiffynnol, ac un sydd wedi'i drawsnewid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Bydd y degawd nesaf yn dyngedfennol, ac mae'r wyddoniaeth yn dangos yn bendant bod modd atal y canlyniadau mwyaf niweidiol trwy weithredu’n gyflym ar y cyd.

"Mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r hyn y mae degawdau o waith ym maes rhewlifeg eisoes wedi'i ddangos: mae rhan helaeth o Antarctica yn ymateb yn uniongyrchol ac yn gyflym i'r dewisiadau y mae’r ddynoliaeth yn eu gwneud. Mae'r dystiolaeth yn ddiamwys - gallwn dal gyfyngu’r effeithiau gwaethaf, ond dim ond trwy weithredu'n bendant a heb oedi. Nid yw lleihau allyriadau, cefnogi monitro hirdymor, a buddsoddi mewn polisïau i gynyddu gwytnwch rhag yr hinsawdd yn opsiynau dewisol; maent yn hanfodol os ydym am ddiogelu amgylchedd yr Antarctig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr hyn rydym yn dewis ei wneud nawr yn effeithio ar gyflwr y cyfandir hwn, a'n planed, am ganrifoedd."

Er ei bod yn anodd rhagweld sut y byddai'r newidiadau amgylcheddol hyn yn cyfuno i effeithio ar anifeiliaid, o dan y senarios ag allyriadau uchel iawn mae'r gwyddonwyr yn rhagweld y byddai llawer o rywogaethau yn symud tua’r de i ddianc rhag tymereddau uwch. Efallai y gallai ysglyfaethwyr gwaed cynnes ymdopi â newidiadau mewn tymheredd, ond os na all eu hysglyfaeth wneud hynny, byddant yn llwgu.

Dywedodd prif awdur yr adroddiad — a chyn-rewlifegydd ym Mhrifysgol Aberystwyth — yr Athro Bethan Davies o Brifysgol Newcastle:

"Mae Penrhyn yr Antarctig yn lle arbennig. Mae ei ddyfodol yn dibynnu ar ein dewisiadau ni heddiw. Mewn dyfodol ag allyriadau isel, gallwn osgoi'r effeithiau pwysicaf a mwyaf niweidiol. Fodd bynnag, o dan senario ag allyriadau uwch, rydym mewn perygl o golli iâ môr, sgafelli iâ, rhewlifoedd, a rhywogaethau eiconig fel pengwiniaid.

"Er bod Antarctica yn bell i ffwrdd, bydd newidiadau yno yn effeithio ar weddill y byd trwy newidiadau yn lefel y môr, cysylltiadau cefnforol ac atmosfferig a newidiadau mewn cylchrediad. Nid yw newidiadau yn yr Antarctig yn aros yn yr Antarctig.

 

AU6326