Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd
Mae gwaith ymchwil y Grŵp Ymchwil Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd yn ymwneud ag esboniadau damcaniaethol ac empirig ynghylch daearyddiaethau gwleidyddol newydd. Rydym yn diffinio daearyddiaeth wleidyddol newydd fel gwaith sy’n mynd i’r afael â’r mannau amrywiol hynny lle mae ‘gwleidyddiaeth’ a ‘daearyddiaeth’ yn cwrdd.
Gweithia’r grŵp dan arweiniad Dr Rhys Jones gyda'r Athro Martin Jones, yr Athro Michael Woods, Dr Sharron FitzGerald, a Dr Mark Whitehead yn aelodau. Mae'r ymchwilwyr ôl-ddoethurol Dr Jesse Heley, Laura Jones, Dr Jessica Pykett a Dr Suzie Watkin yn gysylltiedig â'r grŵp. Mae sawl aelod o'r Grŵp Ymchwil Diwylliant a Hanes hefyd yn cyfrannu at ymchwil rhai o themâu allweddol y grŵp.
Ers 2007, mae ymchwil y grŵp Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd wedi’i chefnogi gan dros £1.3 miliwn o grantiau a chontractau, oddi wrth gyrff ariannu, gan gynnwys y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r grŵp Daearyddiaethau Gwleidyddol Newydd hefyd yn llywyddu Sefydliad Ymchwil Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn Aberystwyth, ac mae'n cyfrannu at Gonsortiwm Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru (C3W).
Mae'r grŵp hefyd wedi ymrwymo i ymchwil sy'n gysylltiedig â pholisïau, yn ogystal ag ymrwymo i ymgysylltu â defnyddwyr ymchwil nad ydynt yn academaidd a datblygu methodoleg ac addysgu ym maes daearyddiaeth wleidyddol, sy’n cynnwys cyhoeddi gwerslyfrau o ansawdd uchel