Canolfan Rhewlifeg

Ers ei sefydlu ym 1994 yn uned ymchwil ffurfiol o fewn Prifysgol Aberystwyth, mae’r Ganolfan Rhewlifeg wedi datblygu i fod yn un o'r grwpiau ymchwil mwyaf blaenllaw ym Mhrydain sy'n ymwneud ag astudio rhewlifoedd a’u cynhyrchion gwaddodol.

Ein nod yw adnabod a mesur prosesau cryosfferig, a chloriannau eu rôl mewn newidiadau amgylcheddol byd-eang yn awr, yn y gorffennol ac yn y dyfodol. Wrth roi pwyslais ar ymchwil maes i’r broses rhewlifeg, y bwriad yw rhoi cyfyngiadau realistig ar y gwaith o ddatblygu modelau rhifol, ac i fod yn sylfaen i ddehongli cofnodion rhewlifol y gorffennol.

Mae ein themâu ymchwil craidd yn bennaf ym meysydd dynameg rhewlif, palaeo-rewlifeg a rhewlifeg gymhwysol.

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys system Cryoflux gyda labordy penodedig, offer drilio a chyfleuster synhwyro/modelu o bell.

Yn y Ganolfan ceir chwech aelod o staff academaidd (Bryn Hubbard (Cyfarwyddwr), Simon Cook , Neil Glasser, Mike Hambrey, Alun Hubbard a Duncan Quincey)  nifer o fyfyrwyr ymchwil a chymrodyr ymchwil achlysurol. Yn ogystal, mae nifer o rewlifwyr nodedig a daearegwyr rhewlifol yn ymweld fel Athrawon a Chymrodyr gwadd.

Mae ein gwaith ymchwil yn cwmpasu meysydd daearyddol eang, ac rydym yn cydweithio ag ymchwilwyr mewn nifer o wledydd. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r rhain wedi cynnwys Antarctica, Prydain, Patagonia Chile, tir mawr Norwy, yr Arctig yn Norwy (Svalbard), yr Alpau yn y Swistir a Ffrainc, yr Himalaya yn Nepal, Seland Newydd, yr Andes ym Mheriw a'r Yukon.

I gefnogi ein hymchwil mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig rhaglen PhD a chwrs MSc Rhewlifeg wedi’i ddysgu am flwyddyn.