Siarter Cydraddoldeb Hil - Gweithgorau

Cyfrifoldeb y Grŵp Gweithredu ar Hil yw paratoi cais y Brifysgol am wobr Marc Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, ac felly y daw yn Dîm Hunanasesu craidd.

Mae'r Brifysgol yn gweithio tuag at gais Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil erbyn mis Tachwedd 2024.

Sefydlwyd aelodaeth y grŵp ar sail swyddogaethau a chyfrifoldebau o fewn y Brifysgol.  Er mwyn bwrw ymlaen i weithio ar feysydd penodol y cais mae'r Grŵp Gweithredu wedi enwi 3 gweithgor, sydd â aelodaeth sy’n gynrychiolaeth o’r Brifysgol.

Gweithgor 1: Newid Diwylliant y Brifysgol

Cadeirydd: Ian Munton

Bydd y gweithgor hwn yn

  • adolygu ein diwylliant prifysgol drwy gynnal arolwg a chynnal grwpiau/gweithdai ffocws i gasglu gwybodaeth am brofiadau staff a myfyrwyr yn y Brifysgol ynghylch cydraddoldeb hil.
  • llunio’r cynnig cyntaf a gytunwyd o ‘Ganllawiau Iaith a Thermau Hil Prifysgol Aberystwyth i fyfyrwyr a staff’.
  • cynghori'r Tîm Hunanasesu a'r Brifysgol yn ehangach ar y materion a nodwyd ac awgrymu meysydd eraill ar gyfer datblygu a hyfforddi
  • ymchwilio i densiynau hil yn y Brifysgol ac yn y gymuned leol
  • meithrin cyswllt â staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig

Gweithgor 2:  Proffil a Data Staff, Denu Myfyrwyr, Cynnydd a Datblygu

Cadeirydd: Ankita Trivedi

Bydd y gweithgor hwn yn casglu ac yn dadansoddi data ac adrodd ar y canlynol:

  • Proffil a denu staff (staff academaidd, proffesiynol a chynorthwyol)
  • Cwynion a phrosesau disgyblu
  • Cynnydd a dyrchafiad staff
  • Hyfforddiant a datblygu staff
  • Adolygu arfarnu/datblygu staff
  • Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY)

Gweithgor 3 Llwybr myfyrwyr, derbyn myfyrwyr a chyrhaeddiad, dysgu ac addysgu

Cyd-Cadeiryddion: Bayanda Vundamina, Lucy Taylor a Alan Macmillan

Bydd y gweithgor hwn yn edrych, yn casglu, yn dadansoddi ac adrodd ar y canlynol:  

  • Proffiliau myfyrwyr, denu a derbyn myfyrwyr
  • Llwybr myfyrwyr uwchraddedig a Chyflogaeth
  • Dilyniant a chyrhaeddiad cwrs
  • Cynnwys cyrsiau/y maes llafur gan gynnwys dull y Brifysgol o greu cwricwlwm mwy amrywiol i gyrsiau newydd a rhai sydd eisoes yn bod
  • Dulliau addysgu ac asesu, amgylchedd dysgu a chyfranogiad myfyrwyr
  • Hyder academaidd, gan gynnwys hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu cydraddoldeb hil

Bydd pob Gweithgor yn penderfynu pa mor aml i gwrdd a’u dull o gyfarfod (o leiaf bob mis) a byddant yn adrodd ar eu cynnydd (trwy'r Cadeirydd) yng nghyfarfodydd misol y Grŵp Gweithredu ar Hil.