Mentora

Mae cyn-fyfyrwyr yr Adran yn gwneud gwaith hynod o ddifyr a phwysig mewn amrywiaeth o sectorau ym mhedwar ban byd. Hoffem fanteisio ar y gymuned nodedig hon drwy greu cynllun mentora alumni, a gobeithiwn y bydd yn un enghraifft o waddol Canmlwyddiant yr Adran.

Ein bwriad yw hwyluso cysylltiadau rhwng cyn-fyfyrwyr yn ogystal â rhwng cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol. Gallai’r mentora fod ar sawl ffurf, o ddarparu cyngor hynod o benodol ar un achlysur i berthynas tymor hwy gyda chyfarfodydd rheolaidd wyneb yn wyneb neu’n rhithwir. Gallai mentora helpu myfyriwr neu rywun sydd wedi graddio’n ddiweddar i gael ei swydd gyntaf, neu gefnogi cyn-fyfyrwyr mwy profiadol sydd eisiau newid cyfeiriad neu symud ymlaen i swydd arwain ar lefel uwch.

Os ydych yn un o raddedigion yr Adran a bod arnoch eisiau cymryd rhan yn y cynllun hwn, naill ai trwy gynnig mentora neu gael eich mentora, anfonwch ebost atom ar ip-centenary@aber.ac.uk.

Mae'r cynllun hwn am fod yn gydategol efo cynllun newydd eFentora’r Brifysgol, manylion pellach i'w gael yma: Cynllun e-Fentora.