Dr Catrin Wyn Edwards BA, MScEcon, PhD, PGCTHE

Dr Catrin Wyn Edwards

Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Manylion Cyswllt

Proffil

Maes arbenigedd Catrin yw mudo, lloches a noddfa, llywodraethiant aml-lefel a chenedlaetholdeb. Mae ei phrosiect ymchwil presennol yn archwilio syniadau o garcharu ('carcerality') mudol yn Ewrop, yn benodol mewn ymdrechion chwilio ac achub ym Môr y Canoldir. Mae ei hymchwil ddiweddaraf wedi'i selio ym meysydd Cymdeithaseg Wleidyddol Ryngwladol, Daearyddiaeth Wleidyddol, Cenedlaetholdeb a Mudo, Dinasyddiaeth ac Astudiaethau Ffiniau. Mae hi wedi gwneud gwaith maes ar fudo, noddfa a charcharu mudwyr yng Nghymru a ledled Ewrop a Gogledd America, ac mae wedi treulio amser fel ysgolhaig gwadd yn EURAC (Bolzano), UQAM (Montréal), Universitat Pompeu Fabra (Barcelona) ac Université de Moncton (Moncton).

Cyd-sefydlodd Catrin y Rhwydwaith Ymchwil Ymfudo Cymru (WISERD) yn 2020. Nod y rhwydwaith yw datblygu ymchwil, ac annog deialog rhwng academyddion mewn sefydliadau yng Nghymru a rhwng academyddion ac ymarferwyr. Mae Catrin wedi cyfrannu at nifer o ddadleuon polisi a thrafodaethau ar integreiddiad ieithyddol mudwyr, adefydlu, noddfa ac ail gartrefi. Yn 2018, dyfarnwyd 'Effaith Eithriadol mewn Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a'r Dyniaethau' i Catrin (gyda Dr Elin Royles a Dr Huw Lewis).

Mae Catrin yn aelod o 'Grŵp Llywio Integreiddio Mudwyr' Llywodraeth Cymru ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolyn Canadaidd, Minorités linguistiques et société / Linguistic Minorities and Society. Rhwng 2018 a 2024, roedd Catrin yn Ymddiriedolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA).

Cyflwynwyd y wobr am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau i Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am eu gwaith yn bwydo i drafodaethau polisi cyfoes ar ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg.

Ar ôl cwblhau PhD yn dwyn y teitl: ‘Cymunedau Iaith Lleiafrifol, Mewnfudo a Pholisïau Iaith mewn Addysg: Astudiaeth Gymharol Ryngwladol’ ym Prifysgol Aberystwyth yn 2013, bu’n ymchwilydd ôl-ddoethurol aml flwyddyn ym Mhrifysgol Ottawa, Ontario. Ymunodd Catrin â’r Adran Gweidyddiaeth Ryngwladol yn 2015, a hynny’n wreiddiol fel darlithydd cyfrwng-Cymraeg gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfrifoldebau

Cyfarwyddwr Astudiaethau Cymraeg

Aelod o Banel Moeseg Ymchwil PA

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 11.30-12.30
  • Dydd Mawrth 13.30-14.30

Cyhoeddiadau

Edwards, CW & Jones, RD 2024, 'Reconceptualizing the Nation in Sanctuary Practices: Toward a Progressive, Relational National Politics?', International Political Sociology, vol. 18, no. 2, olae006. 10.1093/ips/olae006
Edwards, CW 2023, 'Diberfeddu Cenedlaetholdeb: National Affects gan Angharad Closs Stephens' O'r Pedwar Gwynt, vol. 22. <https://pedwargwynt.cymru/adolygu/diberfeddu-cenedlaetholdeb>
Edwards, CW & Wisthaler, V 2023, 'The power of symbolic sanctuary: Insights from Wales on the limitations and potential of a regional approach to sanctuary', Journal of Ethnic and Migration Studies, vol. 49, no. 14, pp. 3602-3628. 10.1080/1369183X.2023.2198809
Edwards, CW, Mathers, J, Phillips, C & McFadyen, G 2022, Deall noddfa, ffoaduriaid, gwrthdaro, a rhyfel Rwsia yn Wcráin. Llywodraeth Cymru | Welsh Government.
Powel, D, O’Prey, L, Grunhut, S, Edwards, CW & Cunnington Wynn, L 2021, Research on second homes: evidence review summary. Llywodraeth Cymru | Welsh Government. <https://gov.wales/research-second-homes-evidence-review-summary-html>
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil