Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Cymru ESRC, yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD gyda phosibilrwydd o ddyfarniad llawn trwy Ysgoloriaeth ESRC. Bydd yr ysgoloriaeth yn dechrau fis Hydref 2022 ar sail +3 neu 1+3. Disgwyliwn ddyfarnu gwobrau ysgoloriaeth ddoethurol ym meysydd Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uchel gref, neu radd Meistr briodol. Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn bwysig i’r Brifysgol ar bob lefel ac anogir ceisiadau o bob rhan o’r gymuned, waeth bynnag am oedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, statws priodasol a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac er mwyn cynyddu nifer yr unigolion a ddenir o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, anogir a chroesawir yn enwedig geisiadau gan ymgeiswyr Prydeinig Du, Prydeinig Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig Prydeinig a phobl Brydeinig sy’n gymysg eu hil.
Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio’n llawn amser ac yn rhan amser, ac mae ysgoloriaethau ymchwil ar gael fel un ai ‘1+3’ (h,y. un flwyddyn lawn amser o radd Meistr hyfforddiant ymchwil cyn tair blynedd o astudiaeth Ddoethurol lawn amser, neu’r cymhwyster rhan amser cyfatebol), neu ‘+3’ (h.y. tair blynedd o astudiaeth ddoethurol llawn amser neu’r cymhwyster rhan amser cyfatebol), yn ddibynnol ar anghenion yr ymgeisydd.’
Am fanylion pellach am sut i ymgeisio i astudio doethuriaeth yn Aberystwyth cysylltwch â Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk), Cyfarwyddwr Astudiaethau i Raddedigion yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Croesewir ceisiadau erbyn 12.00 (canol dydd) (GMT) ar 4 Chwefror 2022.
Manylion pellach am Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP Cymru yr ESRC
Gwobrau ‘agored’ yw’r ysgoloriaethau hyn. Gellir lleoli prosiectau mewn unrhyw faes o wleidyddiaeth ryngwladol lle gall yr Adran ddarparu goruchwyliaeth arbenigol. Dylai ymgeiswyr ystyried mynd at ddarpar oruchwyliwr cyn cyflwyno eu cais i gadarnhau bod gallu goruchwylio priodol yn y Brifysgol ac i drafod y cais drafft. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau ymchwil ein staff ar dudalennau gwe'r Adran. Mae disgrifiadau byr o bob llwybr achrededig ar gael ar wefan DTP ESRC Cymru. Efallai y bydd y cynullydd llwybr ar gyfer y llwybr Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Dr Charalampos Efstathopoulos (che15@aber.ac.uk), yn gallu eich cynghori.