Adroddiad ar Safonau Gwasanaeth 2021-22

Amgylchedd

  • Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu amgylchedd croesawgar i gefnogi astudiaethau ein defnyddwyr
  • Rydym wedi gweithio o fewn cyfyngiadau COVID-19 i ddarparu mannau astudio yn ein llyfrgelloedd, ac i sicrhau bod staff ar gael ar-lein ac wyneb yn wyneb i gefnogi ein defnyddwyr.

Cyfathrebu

  • Ein nod yw darparu ymateb cychwynnol o fewn 3 diwrnod i 100% o ymholiadau i gyfeiriadau e-bost a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaethau Gwybodaeth, ond fel arfer byddwn yn ymateb o fewn 24 awr (heblaw am benwythnosau, diwrnodau cau'r Brifysgol a Gwyliau Banc)
  • Trwy gynnal hapwiriadau yn ystod wythnosau penodol rydym wedi dangos bod yr holl ymholiadau i gg@aber.ac.uk wedi cael ymateb o fewn yr amser a benodwyd.
  • Ein nod yw ateb 85% neu fwy o alwadau i’r Gwasanaethau Gwybodaeth ar 01970 622400 o fewn oriau craidd 
  • Mae 96.04% o alwadau i'r Gwasanaethau Gwybodaeth ar 01970 622400 o fewn oriau craidd yn cael eu hateb
  • Nod tudalennau gwe y GG a’r Cwestiynau Cyffredin yw bodloni anghenion defnyddwyr

 

  • Mae chwiliadau Cwestiynau Cyffredin yn cael eu hadolygu yn gyson i sicrhau bod y cynnwys yn bodloni anghenion defnyddwyr.
  • Mae tudalennau gwe'r Llyfrgell wedi cael eu hadolygu a’u lleihau o ran nifer i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol a chywir.
  • Rydym wedi cydweithio gydag adrannau eraill o’r Brifysgol a rhannu ein gwasanaeth Cwestiynau Cyffredin er mwyn i’n defnyddwyr ddod o hyd i’r wybodaeth yn fwy hwylus.

Cymorth a Chefnogaeth

  • Bydd cymorth a chefnogaeth ar gael rhwng 08.30 a 19.30, dydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 08:30 a 17:00, dydd Sadwrn i ddydd Sul, yn ystod y tymor.
  • Mae cymorth a chefnogaeth wedi bod ar gael fel yr hysbysebwyd ar ein tudalennau gwe.
  • Bydd sesiwn gynefino, a fydd yn cyflwyno cyfleusterau a gwasanaethau’r Gwasanaethau Gwybodaeth, ar gael i bob myfyriwr newydd.
  • Cynigiwyd sesiwn gynefino i bob myfyriwr newydd. Cynhyrchwyd ‘Canllaw Llyfrgell a TG i fyfyrwyr newydd: Defnyddio ein Llyfrgelloedd’ ac mae hwn wedi cael ei hyrwyddo yn ystod y cyfnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ac yn ystod wythnosau cyntaf y tymor https://libguides.aber.ac.uk/rhagarweiniad
  • Lluniwyd modiwl Blackboard Cefnogi eich Dysgu er mwyn helpu myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd ac i’w cefnogi wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau hanfodol.
  • Bydd 90% o’n cwsmeriaid yn fodlon ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd wrth y desgiau ymholiadau

 

  • Mae'r lefel boddhad gyda pha mor barod i helpu mae'r staff wedi cynyddu gyda is-fyfyrwyr ond gostwng gyda categoriau eraill o ddefnyddwyr i 82%. Mae'r lefel bodlonrwydd gydag ansawdd y gwasanaeth hefyd wedi gostwng i 78%. 

Yr Adnoddau TG sydd ar gael

  • Bydd holl wasanaethau craidd TG ar gael am 99% o’r amser yn ystod oriau gwaith, a’r rhan fwyaf o’r systemau ar gael 24/7 heblaw am gyfnodau cynnal a chadw a gynlluniwyd
  • Mae gwasanaethau craidd TG wedi bod ar gael rhwng 99% a 100% o’r amser
  • Bydd 95% o’n cyfrifiaduron cyhoeddus yn gweithio ar unrhyw adeg
  • Rydym wedi sicrhau bod cyfrifiaduron ar gael i ddefnyddwyr nid yn unig ar y campws ond hefyd trwy gynyddu nifer y gliniaduron i’w benthyca. Hefyd trwy wneud yn siŵr bod defnyddwyr sydd oddi-campws yn gallu defnyddio’r feddalwedd oedd wedi ei neilltuo ar gyfer ein cyfrifiaduron campws. Oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ni ellir defnyddio nifer o’n cyfrifiaduron ar y campws, ond gellir eu defnyddio o bell er mwyn gwneud defnydd o’r feddalwedd. 
  • Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig rhwydwaith di- wifr cyflym a dibynadwy i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’r gwaith o wella ac ymestyn y gwasanaeth di-wifr ar draws y campws yn parhau, gan gynnwys rhai mannau awyr agored.  Mae cynlluniau ar droed i ddarparu Wi-Fi mewn ystafelloedd unigol ym mhob neuadd breswyl y Brifysgol. 

Yr Adnoddau Llyfrgell sydd ar gael

  • Bydd llyfrau printiedig ar gael i fyfyrwyr a staff.
  • Mae defnyddwyr yn cael pori trwy silffoedd y llyfrgell i ddod o hyd i ddeunydd.  Rydym wedi cadw’r gwasanaeth poblogaidd Clicio a Chasglu ac mae benthyciadau trwy’r post ar gael i bob Dysgwr o Bell.
  • Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwella’r ddarpariaeth o lyfrau cwrs a thestunau angenrheidiol.
  • Rydym wedi buddsoddi adnoddau ychwanegol er mwyn prynu e-lyfrau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021-2022.
  • Rydym wedi cadw’r gwasanaeth Clicio a Chasglu.
  • Mae’r gwasanaeth benthyciadau trwy’r post bellach ar gael i bob un sy’n dysgu o bell.