Gweithgareddau'r Llyfrgell
Yr hyn rydym wedi'i wneud a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod
SgiliauAber
Ddwy flynedd yn ôl fe wnaethon ni ailwampio SgiliauAber yn llwyr. Ers hynny, rydym wedi bod yn adolygu'r adnoddau a'r cynnwys i wneud yn siŵr ei fod yn cwrdd ag anghenion ein defnyddwyr.
Fe wnaethon ni ofyn i'r holl staff a myfyrwyr am eu hadborth ym mis Mawrth a dyma beth oedd gennych i'w ddweud: Cynhaeaf Syniadau.
DA a'ch gwaith
Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell wedi bod yn gweithio ar ddatblygu a chasglu canllawiau ar ddefnydd diogel a derbyniol o DA ar gyfer eich gwaith, eich astudiaethau a'ch ymchwil.
Rydym wedi creu'r canllawiau canlynol yn benodol ar gyfer myfyrwyr - Defnyddio AI ar gyfer eich astudiaethau sy'n cynnwys:
- LibGuide DA a'r Llyfrgell / Cyfres blog DA
- Cyngor cyfeirio at allbynnau DA - yn gyffredinol ac yn ôl pwnc
- "Defnyddio AI yn gyfrifol yn eich astudiaethau" gweithdy SgiliauAber
Gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r rhain, a chanllawiau i staff ac ymchwilwyr i gyd mewn un lle yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/
Lansio cylchlythyr Newyddion y Llyfrgell PA
Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr a ddywedodd yr hoffent dderbyn gwybodaeth am y llyfrgell i'w he-bost, fe wnaethom lansio cylchlythyr e-bost misol ym mis Ionawr. Tanysgrifiwch yma neu cliciwch ar y ddolen i weld yr argraffiadau a archifwyd.
Cymrawd Llenyddol Brenhinol Newydd
Mae Cymrawd Ysgrifennu'r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awdur proffesiynol, cyhoeddedig sydd â'r rôl o helpu pobl i gryfhau a gwella eu sgiliau ysgrifennu academaidd. Mae croeso i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth, ar unrhyw lefel astudio (o'r flwyddyn 1af i ôl-raddedig), neu staff, drefnu sesiwn.
Samantha Wynne-Rhydderch fydd y Cymrawd Llenyddol Brenhinol newydd o fis Medi 2025.
Ymchwil profiad defnyddwyr (UX) o wasanaethau’r llyfrgell
Rydym yn defnyddio adborth myfyrwyr a staff i werthuso a datblygu ein gwasanaethau llyfrgell a dysgu. Rydym wedi canfod bod arolygon yn fwyfwy annibynadwy fel dulliau o gasglu adborth, felly rydym wedi neilltuo ein Hwythnosau Samplo rheolaidd i ymchwil profiad defnyddwyr. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn y papur ar gyfer Mesur Perfformiad a Metrigau gan ein rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ac Ymgysylltu Academaidd, Elizabeth Kensler*
Gallwch ddarllen rhagor am ein gweithgareddau a'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu ar ein tudalennau adborth, gan gynnwys adroddiad o'n gweithdy Sut mae myfyrwyr yn teimlo am sŵn yn y llyfrgelloedd
*Kensler, E. (2024), "New approaches to improving the student experience at Aberystwyth University libraries: from library surveys to cognitive mapping", Performance Measurement and Metrics, Vol. 25 No. 2, pp. 101-108. https://doi.org/10.1108/PMM-01-2024-0004
Carfan gyntaf o fyfyrwyr Nyrsio
Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni gefnogi myfyrwyr trydedd flwyddyn ar y cwrs Nyrsio Iechyd Meddwl a Nyrsio Oedolion. Mae eu modiwlau a'u lleoliadau yn dod i ben ddiwedd mis Gorffennaf 2025.
Llongyfarchiadau i'n nyrsys newydd a'n Llyfrgellydd Pwnc Gofal Iechyd, Simone Anthony, am eu helpu ar eu ffordd
Ardaloedd astudio newydd Lefel E, Llyfrgell Hugh Owen
Agorwyd ein gofod myfyrwyr newydd ar Lefel E yn haf 2024. Mae'r ardal astudio dawel newydd yn cynnwys mannau astudio, cyfrifiaduron a hybiau monitor, desg hygyrch a 6 ystafell astudio grŵp newydd y gellir eu harchebu.
Ers mis Medi 2024, mae'r ystafelloedd astudio grŵp hyn wedi'u harchebu 3,556 o weithiau
Canlyniadau ACF 2025
Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell yn parhau i berfformio'n well na chyfartaledd sector y DU o ran boddhad myfyrwyr
'Mae adnoddau'r llyfrgell wedi cefnogi fy nysgu yn dda' - 91.2
Meincnod y DU 90.4
Archwiliwch ddata'r ACF 2025 yma
Defnydd y llyfrgell
ers 1 Awst 2024
Ymweliadau â'r llyfrgell
Ymweliadau â Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol 18,346
Ymweliadau â Llyfrgell Hugh Owen 203,120
Archebu Ystafelloedd Astudio Lefel E
3,556
Benthyciadau Rhyng-llyfrgelloedd
Cael benthyg 482
Rhoi benthyg 888
Eitemau a fenthycwyd
34,864
Ceisiadau Clicio a Chasglu
8,343
Ceisiadau Mwy o Lyfrau
318
Llyfrau a brynwyd ar gyfer Rhestrau Darllen
1,837
Y 5 llyfrau a fenthycwyd fwyaf
- Veterinary anatomy of domestic animals
- Economics
- Criminal law
- Essential cell biology
- The French experience 1
Cronfa ddata fwyaf boblogaidd
118,400 o lawrlwythiadau testun llawn
- Oxford English Dictionary
- Biology: a global approach
- Exploring digital libraries : foundations, practice, prospects
- Elliott and Quinn's contract law
- The information society a study of continuity and change
Gwariant
ers Awst 2024
Llyfrau ac elyfrau £171,950.15
Cyfnodolion ac eadnoddau £1,313,910.34
Mae'r rhan fwyaf o Gyllideb Adnoddau Llyfrgell yn cael ei gwario ar adnoddau y mae'r staff academaidd yn gofyn amdanynt i gynorthwyo â dysgu ac ymchwil.
- 85% o'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer gwariant rheolaidd, megis cyfnodolion a chronfeydd data
- 15% sy'n mynd tuag at wariant untro, megis deunydd darllen ar gyfer ymchwil, a deunydd ar restrau darllen, gan gynnwys llyfrau a thestunau wedi'u digido
Rhestrau Darllen
- Mae gan 96.6% o holl fodiwlau Prifysgol Aberystwyth sydd angen rhestr ddarllen Restr Ddarllen Aspire
- 2094 o restrau darllen cyhoeddedig yn barod ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 / 26
- Mae'r rhestrau darllen hyn yn cynnwys 82852 o adnoddau
LibGuides
Mae ein Llyfrgellwyr Pwnc yn cynnal ystod o LibGuides yn gronfa o adnoddau llyfrgell mewn un man.
Mae ein canllaw i Gyfeirnodi a Llên-ladrad wedi'i weld mwy na 50,693 o weithiau ers mis Awst 2024.
Digideiddio
Mae ein Gwasanaeth Digideiddio yn creu adnoddau wedi'u digido o gasgliadau ein llyfrgell ni neu'n hwyluso mynediad pan fo angen at gynnwys mewn ystorfa genedlaethol y mae cyhoeddwyr, prifysgolion ledled y DU neu'r Llyfrgell Brydeinig yn cyfrannu ati.
Mae’r oddeutu 2,000 o adnoddau wedi'u digido yr ydym yn eu dal ar hyn o bryd yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad rhydd at destunau ar eu Rhestrau Darllen ble bynnag y maent, mewn fformat cwbl hygyrch.
Rydym hefyd yn digido testunau ar gyfer myfyrwyr sydd angen fersiynau hygyrch
Llyfrgellwyr Pwnc
Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Aberystwyth.
- 3262 o staff a myfyrwyr wedi'u haddysgu ar draws Cyfadran y Dyniaethau
- 2276 o staff a myfyrwyr wedi'u haddysgu ar draws Cyfadran y Gwyddorau
- 301 awr o ddysgu
- 635 myfyrywyr wedi mynychu taith o’r llyfrgell
- 5770 o fynychwyr i holl sesiynau dysgu
Darganfod Adnoddau
Mae ein Tîm Darganfod Adnoddau yn sicrhau bod deunyddiau ymchwil ac astudio’r Brifysgol yn hawdd eu canfod a'u cyrraedd trwy Primo, catalog y llyfrgell.
Maent yn disgrifio adnoddau - o e-lyfrau a chyfnodolion i lyfrau prin a chronfeydd data - gan ddefnyddio safonau rhyngwladol, gan alluogi chwilio yn ôl pwnc, awdur, cyhoeddwr, a dynodwyr megis ISBN. Mae'r tîm hefyd yn cadw cynnyrch ymchwil unigryw'r Brifysgol, megis traethodau ymchwil, ac yn cefnogi cyhoeddi mynediad agored trwy gytundebau cyhoeddwyr, neu Gytundebau Trawsffurfiol, a thrwyddedau mynediad agored.
Beth yw Mynediad Agored?
Mae mwy a mwy o adnoddau ymchwil anhygoel ar gael drwy fynediad agored – hynny yw, ar gael am ddim trwy'r rhyngrwyd.
Edrychwch ar Borth Ymchwil Aberystwyth i weld yr ystod o bynciau traethodau ymchwil myfyrwyr Aberystwyth a chyhoeddiadau ymchwil diweddar gan ddarlithwyr PA.
Cytundebau Trawsffurfiol
Mae cytundeb trawsffurfiol yn fargen rhwng prifysgolion (neu eu llyfrgelloedd) a chyhoeddwyr sy'n helpu i sicrhau bod erthyglau ymchwil academaidd ar gael yn rhad ac am ddim i bawb eu darllen ar-lein.
Sut mae'n gweithio?
Yr hen ffordd: Roedd prifysgolion yn talu cyhoeddwyr fel y gallai myfyrwyr a staff ddarllen erthyglau (ond ni allai'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i'r brifysgol wneud hyn).
Y ffordd newydd (Cytundeb Trawsffurfiol): Mae prifysgolion yn defnyddio'r un arian i dalu cyhoeddwyr i sicrhau bod erthyglau eu hymchwilwyr yn rhad ac am ddim i bawb eu darllen (mynediad agored).
Mae hyn yn golygu
Gall mwy o bobl ddarllen gwaith ymchwil
Mae’n helpu ymchwilwyr i gyhoeddi eu canfyddiadau
Sgiliau
Sgiliau Digidol
Rydym yn cefnogi myfyrwyr a staff y Brifysgol i asesu a datblygu eu sgiliau digidol eu hunain.
- 8 sesiwn hyfforddi
- 6 sesiwn un yn un
- 32 o DipiauDigidol
Gwefan Sgiliau Digidol
Rydym wedi cyflwyno ein proses tri cham i'n tudalennau gwe. Dechrau ar Gam 1: Ystyried eich Sgiliau Digidol i Gam 2: Trafod eich Sgiliau Digidol a Cham 3: Datblygu eich Sgiliau Digidol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i'n holl adnoddau gwreiddiol megis ffeithluniau a’r TipiauDigidol a gwybodaeth am adnoddau allanol cyffrous am ddim megis Code First Girls.
SgiliauAber
- 9424 o ymweliadau unigryw â’r tudalennau gwe
- Mudiad dwyieithog SgiliauAber yn Blackboard Learn Ultra fel ystorfa ar gyfer yr holl adnoddau gweithdy
- Tudalen Hafan wedi’i hailwampio gydag eiconau er mwyn cael mynediad hawdd
Uchafbwyntiau Allweddol
- Creu ffeithluniau ysgrifennu academaidd newydd byr ar gyfer SgiliauAber: yn ymdrin â sut i ysgrifennu traethodau, adroddiadau busnes a gwyddonol, cyflwyniadau, posteri academaidd a strategaethau cymryd nodiadau effeithiol.
- Prosiect adborth sgiliau ac anghenion sgiliau: Gweithredu prosiect cynhwysfawr gyda staff a myfyrwyr gyda'r nod o gasglu adborth ac asesu anghenion sgiliau myfyrwyr.
- Adnabod a gwella sgiliau: Adnodd newydd 'Pa sgiliau sydd gen i?' i helpu myfyrwyr i nodi eu cyfres sgiliau academaidd cyfredol a nodi meysydd i’w gwella, gan hwyluso eu twf academaidd a'u llwyddiant.
- Cynnig rhagor o weithdai: Cynyddu'r ystod o weithdai dwyieithog ar dechnoleg sy'n dod i'r amlwg, e.e. DA. Trefnodd y tîm Sgiliau Digidol y sesiwn 'Offer DA bob dydd' Jisc yn rhan o Wythnos Ddigidol Aber.
- Gwasanaethau galw heibio ychwanegol gan ddefnyddio'r Ganolfan Sgiliau yn Llyfrgell Hugh Owen: Desg gymorth Mathemateg ac Ystadegau, sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol a chymorth sgiliau Gwyddoniaeth.
- Adolygwyd ac adnewyddwyd tudalennau gwe Sgiliau Digidol a SgiliauAber: i gael gwedd fodern a llywio haws.